Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch am eich cwestiwn. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer strôc yn darparu fframwaith ar gyfer gweithredu gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, gan weithio gyda'u partneriaid. Mae'n nodi disgwyliadau'r holl randdeiliaid o ran atal, gwneud diagnosis a thrin strôc mewn pobl o bob oed ac i sicrhau y gallant ddychwelyd i fyw'n annibynnol cyn gynted â phosibl.