Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch am y cwestiwn yn eich rôl newydd ar y meinciau cefn, yn ffigurol o leiaf. Rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion eu pobl. Mae hyn yn cynnwys darparu niferoedd digonol o welyau mewn gwahanol leoliadau ar draws ein system gofal iechyd i fodloni'r galw lleol a chenedlaethol disgwyliedig. Mae'n rhaid i hynny, wrth gwrs, ystyried yr amrywiadau yn y galw sy'n digwydd drwy gydol y flwyddyn.