2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 19 Medi 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am argaeledd gwelyau yn y GIG yng Nghymru? OAQ52594
Diolch am y cwestiwn yn eich rôl newydd ar y meinciau cefn, yn ffigurol o leiaf. Rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion eu pobl. Mae hyn yn cynnwys darparu niferoedd digonol o welyau mewn gwahanol leoliadau ar draws ein system gofal iechyd i fodloni'r galw lleol a chenedlaethol disgwyliedig. Mae'n rhaid i hynny, wrth gwrs, ystyried yr amrywiadau yn y galw sy'n digwydd drwy gydol y flwyddyn.
Diolch am eich dymuniadau da—fe'u cymeraf fel canmoliaeth ddeufiniog, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Ysgrifennydd y Cabinet, gwyddom yn iawn mai un o'r problemau mawr sy'n ein hwynebu yn ystod misoedd anodd y gaeaf, yn arbennig, yw mynediad at welyau yn GIG Cymru. Rwy'n siŵr, drwy doriad yr haf, eich bod chi a'ch swyddogion wedi bod yn gweithio gyda byrddau iechyd ledled Cymru ar gynlluniau paratoi ar gyfer y gaeaf. Pa hyder y gallwch ei roi i bobl sy'n gweithio yn GIG Cymru, ac i bobl Cymru, eich bod wedi mynd i'r afael â'r argyfwng o ran argaeledd gwelyau a geir mewn rhai byrddau iechyd ledled Cymru, fel y gallwn gael rhywfaint o ddiogelwch rhag peth o'r ôl-gronni sy'n digwydd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys gan na all bobl symud drwy'r ysbyty oherwydd diffyg gwelyau mewn ysbytai cyffredinol dosbarth ledled Cymru?
Diolch am eich cwestiwn. Rwyf o ddifrif yn dymuno'n dda ichi yn eich rôl newydd yn y Siambr. Rwy'n disgwyl eich gweld ar sawl achlysur yn ystod y cwestiynau hyn, heb os.
Pan edrychwch ar niferoedd ein gwelyau, y llynedd roedd gennym dros 400 o welyau ychwanegol drwy'r system gyfan ar gyfer ymateb i bwysau'r gaeaf. Felly, mae hynny'n cyfateb i ysbyty cyffredinol dosbarth o faint rhesymol o ran capasiti ychwanegol yn ein system.
Rydym yn wynebu pwysau hyd yn oed yn fwy difrifol yn y gaeaf, fel y dywedwn yn rheolaidd, ac rwy'n siŵr y cawn gyfleoedd i wneud hynny dros y misoedd nesaf. Nid oes a wnelo hynny'n unig â'r rhan o hyn sy'n ymwneud â gwelyau yn yr ysbyty; mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn mynd i ofal cymdeithasol a gefnogir er mwyn eu cael allan o'r ysbytai. Y llif yw ein problem fwyaf.
Felly, yn yr ystyr honno, nid oes a wnelo hynny â chapasiti yn unig; mae'n ymwneud â sut y rheolwn y galw a'r llif drwy ein system gyfan. Mae hwnnw'n waith sy'n mynd rhagddo wrth gynllunio ar gyfer y gaeaf hwn, gyda'r Llywodraeth yn cydweithio â'r byrddau iechyd, yr ymddiriedolaethau a phartneriaid i geisio sicrhau bod gennym yr ymateb gorau posibl i'r gofynion anarferol y gwyddom eu bod yn wynebu ein system yn y gaeaf.
Fodd bynnag, mae gennym gyfran uwch o welyau ar gyfer y boblogaeth yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Rydym yn parhau i edrych eto ar niferoedd a defnydd gwelyau, ac yn hollbwysig, ar sut y defnyddir y niferoedd i sicrhau bod y system gyfan yn gweithio, ac yn arbennig, y cysylltiad rhwng iechyd a'r system gofal cymdeithasol.
Yn dilyn ymgyrch a chynnwys dilynol ar y cyfryngau cymdeithasol, cefais nifer o negeseuon e-bost trallodus gan fenywod sydd wedi dioddef o ganlyniad i ddarpariaeth annigonol o gymorth a gwelyau ysbyty addas ar gyfer menywod sy'n dioddef camesgoriad. Dywedodd un fenyw stori dorcalonnus wrthyf am gael ei derbyn i'r ysbyty pan dybiwyd ei bod wedi cael camesgoriad, ac fe'i rhoddwyd mewn ward wrth ymyl yr uned esgor. Yn ystod y nos, mewn poen eithafol, bu'n rhaid iddi weld un o bâr o efeilliaid a gamesgorwyd ar lawr y toiled. Disgrifiodd hyn fel 'y digwyddiad mwyaf erchyll a thorcalonnus yn fy mywyd', fel rwy'n siŵr y gall pob un ohonom ddychmygu.
Ddoe, cyhoeddodd y grŵp ymgyrchu, Triniaeth Deg ar gyfer Menywod Cymru, eu hadroddiad gydag argymhellion ar gyfer gwella gofal camesgor. Maent yn cynnwys sicrhau bod unedau beichiogrwydd cynnar yn darparu gwasanaethau cymorth yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, gwell cymorth emosiynol a sefydlu clinigau colli beichiogrwydd sy'n digwydd dro ar ôl tro. A wnewch chi ymrwymo, Ysgrifennydd y Cabinet, i weithio gyda'r ymgyrchwyr ar y mater pwysig hwn ac i roi argymhellion yr adroddiad hwnnw ar waith?
Rwy'n cydnabod y darlun torcalonnus a ddisgrifiwyd gennych, sy'n amlygu profiad go iawn pobl yn ein system. Rydym yn siarad yn rheolaidd ynglŷn â phan fydd gofal iechyd yn mynd yn iawn—fel y dylem ei wneud i ddathlu hynny, fel rydym wedi'i wneud eleni—ond rydym yn cydnabod, pan fydd gofal iechyd yn mynd o'i le, y gall gael effaith sylweddol a pharhaus ar iechyd a lles cyffredinol pobl.
Rwy'n fwy na pharod i sicrhau bod fy swyddogion, gan gynnwys, os yw'n briodol, adran y brif nyrs, rwy'n credu, yn edrych ar yr adroddiad i weld pa gynnydd adeiladol y gallwn ei wneud i gael trafodaeth gyda'r ymgyrchwyr ynglŷn â'r sefyllfa ar hyn o bryd yn y GIG, ac yn benodol, ynglŷn â sut y mae sicrhau gwelliannau pellach.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae pob un ohonom yn deall bod argaeledd gwelyau yn hollbwysig, yn enwedig gyda phwysau'r gaeaf, ac mae Andrew R.T. Davies wedi tynnu sylw at hynny. Ym mis Mai, cynhaliwyd ymgynghoriad gan fy mwrdd iechyd lleol ar yr hyn a alwai'n newidiadau i'r gwasanaeth, ond a oedd yn golygu cael gwared ar welyau mewn gwirionedd. Roeddent yn argymell y dylid cael gwared ar dros 79 o welyau na châi eu defnyddio dros dro yn barhaol, ac y dylid cael gwared ar 46 gwely arall. O ganlyniad i fy ngwrthwynebiad, a gwrthwynebiad eraill i hynny, cawsom fersiwn wannach, ond rwy'n dal i bryderu'n fawr y bydd y fersiwn wannach yn arwain at gael gwared ar 125 o welyau.
Rwy'n gofyn y cwestiwn: pam nad ydych yn ystyried adleoli'r gwelyau hynny i wasanaethau eraill, gan fod galw mewn mannau eraill? Y rheswm pam eu bod yn cael gwared arnynt yw am eu bod yn dweud eu bod wedi gwella gwasanaethau—maent yn symud pobl drwy'r ysbyty yn gyflymach, ac felly mae'r gwelyau'n cael llai o ddefnydd wrth i bobl symud ymlaen. Ond ceir llawer o fannau eraill mewn ysbytai lle mae pobl yn aros am welyau. A wnewch chi fynd at y byrddau iechyd a dweud wrthynt, cyn iddynt gael gwared ar ragor o welyau, fod yn rhaid iddynt ystyried darpariaeth y gwasanaeth ar draws eu gwasanaethau i weld a allant adleoli'r gwelyau i anghenion clinigol eraill er mwyn sicrhau nad oes yn rhaid i bobl aros am lawdriniaeth ar eu clun neu rywbeth arall am nad oes gwely ar eu cyfer?
Rwy'n cydnabod y pwynt rydych yn ei wneud, ac rydym wedi cael nifer o drafodaethau y tu allan i'r Siambr ynghylch materion ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg a gwn eich bod wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â'r bwrdd iechyd. O ran y byrddau iechyd yn cyflawni eu cyfrifoldebau ar y mater hwn, mae angen iddynt sicrhau wrth gwrs fod ganddynt gynllun mewn perthynas â'r nifer briodol o welyau yn y rhan briodol o'r system a'r staff i fynd gyda hwy. Ac yma, mae'r bwrdd iechyd wedi dweud eu bod wedi gwella gwasanaethau fel nad oes angen gwelyau mewn un rhan o'r system, fel y gallent drin ac edrych ar ôl pobl drwy'r system iechyd a gofal ehangach. Mewn gwirionedd, credaf mai'r cam mwyaf cyfyngol o ran cael gwelyau mewn gwahanol rannau o'n gwasanaeth yw cael y staff priodol i ddarparu'r gwasanaethau sydd ynddynt. Ond rwy'n glir ynglŷn â'r prosesau sy'n rhaid i'r byrddau iechyd eu dilyn mewn perthynas â'r angen i gael tystiolaeth o'r effaith a manteision newid niferoedd gwelyau a'r hyn y mae hynny'n ei olygu o ran y staff a darpariaeth y gwasanaeth, ac yn allweddol, wrth gwrs, ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu i bobl. Mae gennym lawer o enghreifftiau da yn 'Cymru Iachach' o ble mae angen inni weld newid yn ein system er mwyn symud pobl o ofal ysbyty yn gynt. Mae hynny'n golygu capasiti gwahanol o fewn gofal cymdeithasol yn ogystal. Felly, fe edrychaf eto ar brofiad Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ac rwy'n siŵr y byddwch yn manteisio ar y cyfle i siarad â mi am y peth hefyd er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud hyn yn iawn yn y dyfodol.