Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 19 Medi 2018.
Yn fy natganiadau rheolaidd ar fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, rwyf wedi nodi'r manylion ynglŷn â ble y gwnaed gwelliannau, megis yn y gwasanaethau mamolaeth, ond rwyf hefyd wedi bod yn glir iawn ynglŷn â ble y mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd gymryd camau brys dros y 18 mis nesaf. Ym mis Mai eleni cyhoeddais fframwaith gwella newydd ar gyfer Betsi Cadwaladr a chyhoeddais amrywiaeth o gymorth dwys, gan gynnwys y £6.8 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad a grybwyllais yn gynharach yn fy sgwrs gyda Rhun ap Iorwerth, ac rwyf wedi targedu meysydd perfformiad allweddol lle rwy'n disgwyl gweld gwelliannau brys. Bydd adroddiadau cynnydd manwl yn cael eu darparu yn erbyn y fframwaith gwella. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref eleni.