Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gobeithio eich bod yn gyfarwydd ag achos brawychus a thrallodus Reece Yates, y baban a fu farw yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac y cynhaliwyd ei gwest ddoe. Fel y gwyddoch, mae hon yn un o ysbytai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Clywodd y cwest y byddai Reece wedi bod yn fwy tebygol o oroesi ei gymhlethdodau pe bai wedi cael ei drin yn rhywle arall, ac mai diffyg cyfathrebu oedd yr unig beth a wnaeth atal camau i'w drosglwyddo i uned ar y Wirral. Cyfaddefodd y bwrdd, er mai drwy eu cyfreithiwr y digwyddodd hynny, ac rwy'n dyfynnu yma:
Byddai gobaith Reece o oroesi wedi bod yn well pe bai wedi cael ei eni mewn uned arall.
Mae'n gyfaddefiad syfrdanol fod methiannau yn yr ysbyty yn ffactor ym marwolaeth y baban hwn, er fy mod yn credu y dylid rhoi cydnabyddiaeth i'r bwrdd am fod yn onest. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: a fyddwch yn cynnal ymchwiliad i'r achos hwn ac os oes angen, a fydd pobl yn cael eu diswyddo o'r diwedd am fethiannau angheuol y bwrdd iechyd rydych yn gyfrifol amdano?