Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 19 Medi 2018.
Roedd amryw o bobl, wrth gwrs, yn rhan o drafodaethau ac ymgyrchoedd ar y pryd, ac edrychodd y Llywodraeth eto a chynnal adolygiad, ac fe wnaeth y Prif Weinidog benderfyniad yn dilyn adolygiad arbenigol, sydd bellach wedi arwain at agor y ganolfan isranbarthol ar gyfer gofal newyddenedigol dwys. Mae yna bobl yn y Siambr hon a gymerodd ran yn yr ymgyrch honno, a gwelaf yr Aelod lleol yn edrych arnaf, ac wrth gwrs roedd hi'n un o'r rhai hynod o ddi-flewyn-ar-dafod ar y pryd, nid yn unig yn gyhoeddus, ond yn breifat yn ogystal, fel y cofiaf.
Y stori lwyddiant yw ein bod wedi dewis buddsoddi mewn adnoddau ychwanegol sylweddol yn dilyn hynny ac mewn gwirionedd, pan ymwelais â'r uned cyn ei hagor yn ffurfiol gwelais bobl a oedd wedi derbyn gofal ac roeddent yn hynod o gadarnhaol ynglŷn ag ansawdd y gofal roeddent wedi'i dderbyn. Dysgais fod rhai aelodau o staff wedi dweud nad oeddent yn credu'n iawn y byddai'n digwydd mewn gwirionedd, hyn yn oed pan oedd y gwaith adeiladu'n mynd rhagddo, ac mae rhywbeth yno ynglŷn â diffyg ymddiriedaeth ac mae angen i ni barhau i ailadeiladu'r ymddiriedaeth honno gyda'n staff a'r cyhoedd y bydd y penderfyniadau rydym yn eu gwneud yn cael eu gwireddu. Ond mae'r staff sy'n gweithio ar y ward yn awr yn cydnabod bellach fod ganddynt gyfleusterau o'r radd flaenaf, maent yn falch o'r gofal y maent yn ei ddarparu, ac yn bwysicach, rwy'n credu y gall pobl gogledd Cymru fod yn hyderus ac ymfalchïo yn ansawdd y gwasanaeth yn dilyn y buddsoddiad y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud.