Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn, wrth gwrs, fod yr uned gofal dwys ar gyfer babanod, y SuRNICC, bellach wedi agor yng Nglan Clwyd ac mi fyddai'n braf medru llongyfarch y Llywodraeth ar ei gweledigaeth yn hynny o beth. Ond, wrth gwrs, y gwir plaen yw bod y Llywodraeth a'r bwrdd iechyd, yn ôl yn 2013, wedi cymeradwyo israddio gofal dwys i fabanod newydd-anedig yn y gogledd. Bryd hynny, y cynllun oedd symud y gwasanaeth i Arrowe Park yng ngogledd-orllewin Lloegr. Nawr, dim ond ymgyrch nerthol gan drigolion y gogledd orfododd y Llywodraeth i newid cyfeiriad. Felly, mi hoffwn i ddefnyddio'r cyfle yma i longyfarch yr ymgyrchwyr hynny ar eu dycnwch a'u dyfalbarhad. Mi wnaeth eu hymgyrch nhw newid meddyliau y bwrdd iechyd ac mi wnaeth e newid meddwl y Llywodraeth hefyd, gan sicrhau bod SuRNICC yn cael ei ddatblygu fel canolfan gwasanaethau gofal dwys yn y gogledd ar ran babanod y dyfodol. Felly, a wnewch chi ymuno â fi i longyfarch yr ymgyrchwyr hynny ar eu llwyddiant ac i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion diflino?