Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 19 Medi 2018.
Rwy'n cydnabod y pwynt a wnewch am y fwrsariaeth, felly rwyf wedi gwneud penderfyniadau blynyddol i barhau â'r fwrsariaeth. Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben bellach. Rwy'n credu ein bod wedi cael ymatebion gan dros 40 o wahanol sefydliadau a nifer o unigolion. Felly, byddaf yn cael crynodeb o'r ymgynghoriad ac yna bydd gennyf benderfyniadau i'w gwneud dros yr hydref mewn perthynas â threfniant mwy hirdymor fel nad oes angen i ni wneud penderfyniad yn flynyddol, ond rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn parhau i fuddsoddi er mwyn cynorthwyo nyrsys i ddod i astudio yma ac i roi cyfle iddynt a disgwyliad o waith yn GIG Cymru yn dilyn hynny.
Rydym wedi gweld effaith diddymu'r fwrsariaeth yn Lloegr, nid yn unig ar y niferoedd sy'n dod oddi ar y gofrestr, ond mewn meysydd arbenigol yn arbennig. Mae nyrsys anableddau dysgu yn enghraifft dda. Mae'n faes nad yw'n cael ei drafod yn aml, ond y realiti yw bod nyrsys anableddau dysgu yn tueddu i fod yn fyfyrwyr aeddfed, yn fwy felly nag mewn rhannau eraill o'r teulu nyrsio, ac yn Lloegr, gyda diddymu'r fwrsariaeth, cafwyd gostyngiad trychinebus yn nifer y bobl sy'n anelu i gael cymwysterau nyrsio anableddau dysgu. Gwn fod rhai darparwyr wedi cau eu cyrsiau. Nawr, problem i Loegr yw honno ar hyn o bryd, ond mae'n risg i ni hefyd mewn gwirionedd oherwydd wrth i ni gynnal ein niferoedd, mae'n bosibl iawn y bydd nyrsys anableddau dysgu yng Nghymru yn cael eu denu gan rannau eraill o'n system gofal iechyd. Felly, gallwch weld y risgiau, gallwch weld y difrod sy'n cael ei wneud, a buaswn yn annog Llywodraeth Lloegr i feddwl eto am y trywydd y mae'n ei ddilyn i gefnogi nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill ac i ailgyflwyno bwrsariaeth, a gobeithio y byddwch chi ac Aelodau eraill yn y Siambr yn cefnogi'r penderfyniad y byddaf yn ei wneud yn y pen draw mewn perthynas â sut i barhau i gynorthwyo nyrsys a therapyddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i astudio yma yng Nghymru.