Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 19 Medi 2018.
Gall addysg awyr agored chwarae rhan bwysig yn annog ein pobl ifanc i fod yn heini a gall hefyd roi'r sgiliau a'r hyder iddynt wneud hynny. Gwn eich bod newydd sôn yn awr am beth o'r gwaith trawslywodraethol rydych yn ei wneud, ond yn benodol gyda'ch cyd-Aelod Kirsty, beth rydych yn ei wneud yno er mwyn ceisio hyrwyddo manteision addysg awyr agored?