2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 19 Medi 2018.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyrwyddo iechyd corfforol ymysg pobl ifanc? OAQ52589
Rydym yn darparu nifer o ddulliau i gefnogi iechyd corfforol. Mae gennym raglenni wedi'u targedu megis y filltir ddyddiol, deddfwriaeth drwy ddarparu strategaeth ordewdra ac isafswm pris fesul uned, darpariaethau fel gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu a rheoli pwysau, canllawiau drwy safonau maeth mewn ysgolion a chynlluniau drwy asesiadau effaith ar iechyd.
Diolch yn fawr am yr ateb. Roedd hwn yn achos o orfod geirio cwestiwn yn ofalus iawn, oherwydd petaswn i wedi gofyn fel roeddwn i eisiau ynglŷn â gweithgaredd corfforol yn hytrach na iechyd corfforol, mi fuasai'r cwestiwn wedi mynd i Weinidog arall, ond, wir, i chi'r mae'r cwestiwn yma achos, wrth gwrs, mae hybu gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff yn allweddol i hybu iechyd. Wrth i ni aros am adroddiad beiddgar, gobeithio, gan y pwyllgor iechyd yma yn y Cynulliad, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno efo fi ar fater o egwyddor, sef bod angen edrych ar sut i ddefnyddio cyllidebau iechyd i fuddsoddi mewn gweithgaredd corfforol? Achos os ydym ni’n sôn am atal afiechydon a gwneud yr NHS yn wasanaeth iechyd yn hytrach na gwasanaeth salwch, mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod pob ffynhonnell ariannol ar gael i greu’r cynlluniau a rhaglenni iechyd hirdymor a darparu’r isadeiledd ar gyfer iechyd yr ydym ni ei angen i’n gwneud ni’n genedl fwy iach. Achos bydd gwneud y genedl yma’n fwy iach yn arbed arian i ni yn y pen draw hefyd.
Rwy'n cydnabod y pwyntiau cyffredinol rydych yn eu gwneud ac nid wyf yn credu y byddwn yn anghytuno ar yr egwyddorion. Edrychaf ymlaen at adroddiad y pwyllgor, a byddwch yn clywed mwy gan y Llywodraeth dros yr hydref. Gwyddoch ein bod yn ymrwymedig, nid yn unig i ddeddfwriaeth, ond rydym wedi gwneud ymrwymiadau cyhoeddus am ein strategaeth newydd ar bwysau iach, a fydd yn destun ymgynghoriad yn ystod yr hydref hwn yn ogystal. Wrth gwrs, mae gan y gyllideb iechyd rôl i'w chwarae yn y ffordd y byddwn yn defnyddio adnoddau i hyrwyddo gweithgarwch corfforol, a ni wedi'r cyfan yw'r cyflogwr mwyaf yn y wlad gyda dros 90,000 o staff yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol o fewn y gwasanaeth. Felly, dylem fod yn esiampl ein hunain o ran y cyfleoedd rydym yn eu darparu a'r negeseuon rydym yn eu rhoi i'n staff yn eu rolau fel gweithwyr, yn ogystal â'u hymwneud â'r boblogaeth.
Daw hyn â mi yn ôl, i raddau, os mynnwch chi, at y pwynt pwysig am y newidiadau diwylliannol ehangach sydd angen eu gweld yn digwydd, ynghyd ag ailnormaleiddio meysydd o weithgarwch corfforol. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni weithio ar draws y Llywodraeth gyda phortffolios gwahanol, yn ogystal â gweithio gyda phobl yn y cymunedau hefyd, a deall sut y gallwn wneud gweithgarwch corfforol yn haws iddynt mewn gwirionedd, yn hytrach na dweud, 'Dylech wneud hyn; mae'n beth da i chi ei wneud'. Mewn gwirionedd, mae angen i ni ei wneud yn haws iddynt. Felly, byddwch yn clywed mwy gan y Llywodraeth dros yr hydref ynglŷn â'r hyn y bwriadwn ei wneud, ac edrychaf ymlaen at waith craffu ac awgrymiadau, yn wir, ynglŷn â sut y gallem ddewis gwneud hynny a'i gyflawni yn y modd mwyaf cadarnhaol, rwy'n gobeithio.
Gall addysg awyr agored chwarae rhan bwysig yn annog ein pobl ifanc i fod yn heini a gall hefyd roi'r sgiliau a'r hyder iddynt wneud hynny. Gwn eich bod newydd sôn yn awr am beth o'r gwaith trawslywodraethol rydych yn ei wneud, ond yn benodol gyda'ch cyd-Aelod Kirsty, beth rydych yn ei wneud yno er mwyn ceisio hyrwyddo manteision addysg awyr agored?
Gwn fod eich proffesiwn blaenorol yn yr haen addysg uwchradd, ond mewn gwirionedd, pan fyddwch yn edrych ar yr hyn rydym ni, yn benodol, yn ceisio ei wneud, mae patrymau bywyd yn aml yn cael eu gosod yn ystod y blynyddoedd cynnar ac yn yr ysgol gynradd, ac mae llawer iawn o addysg awyr agored ym mron pob un o'r ysgolion cynradd rwyf wedi'u gweld ac wedi ymweld â hwy. Mae'n rhan gyson o'r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni. Ac nid yn unig hynny, ond mewn perthynas â'r filltir ddyddiol, mae 303 o ysgolion wedi cofrestru ar ddechrau'r flwyddyn ysgol hon i wneud y filltir ddyddiol, ac mae rhywbeth ynglŷn â newid arferion fel ei bod yn normal i wneud y pethau hynny yn hytrach na bod angen ymdrech arbennig i'w gwneud. Rydym yn gweld mwy o hynny, nid yn unig gyda diwygio'r cwricwlwm, ond gyda'r mesurau y bydd y Llywodraeth yn eu cyflwyno ac y gallwn gytuno arnynt a bwrw ymlaen â hwy o'r hydref hwn ymlaen. Felly, rwy'n optimistaidd ynglŷn â'r hyn y byddwn yn ei wneud, ond yr her yw perswadio'r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwahanol a pharhaus.
Tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ52570] yn ôl. Cwestiwn 8—David Melding.