Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn. Gwasanaeth Gwaed Cymru sy'n gyfrifol am weithredu cofrestrfa rhoddwyr mêr esgyrn Cymru. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn mynd ati'n weithredol i annog rhoddwyr o bob cefndir ethnig i ymuno â'r panel ac yn gofyn i roddwyr gwaed rhwng 17 a 30 oed a fyddent yn hoffi cofrestru, gan mai'r grŵp oedran hwn sy'n cynnig y gobaith gorau o oroesi i gleifion trawsblaniad.