Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Bachgen chwe mlwydd oed yn Nwyrain Casnewydd yw Marley Nicholls. Mae ganddo gyflwr gwaed prin, anemia aplastig, lle nad yw ei fêr esgyrn na'i gelloedd bonyn yn cynhyrchu digon o gelloedd gwaed. Mae angen cael trawsblaniad mêr esgyrn, ond nid oes neb yn ei deulu yn cydweddu, ac yn wir, nid oes neb ar y gofrestr fyd-eang yn cydweddu'n addas chwaith. Felly, maent wedi lansio ymgyrch i annog cynifer o bobl â phosibl i gofrestru fel rhoddwyr mêr esgyrn a phrofi eu mêr esgyrn. Yn amlwg, gobeithio y bydd Marley yn gallu elwa ar hynny yn y pen draw, ac eraill yn wir sy'n aros am drawsblaniad mêr esgyrn, ond nid oes unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ychwanegu eich llais at eu hymgyrch i annog cynifer o bobl â phosibl i ganfod a ydynt yn cydweddu'n addas, ac yn wir, i gofrestru fel rhoddwyr mêr esgyrn? A oes unrhyw gamau pellach y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd yn ychwanegol at yr hyn sydd eisoes ar waith i annog pobl i gofrestru?