Trawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:56, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mae pum bwrdd iechyd wedi rhoi'r system drawsgrifio meddyginiaethau ac e-ryddhau ar waith o fewn eu hysbytai. Byddaf yn cyfeirio ato o hyn ymlaen fel y system MTeD; bydd yn gwneud pethau'n haws ac yn gynt. Mae gan y ddau fwrdd iechyd sy'n weddill eu systemau lleol eu hunain gyda swyddogaethau tebyg i MTeD o ran darparu gwybodaeth am ryddhau cleifion i feddygon teulu.