2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 19 Medi 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno system Trawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau ar draws holl ysbytai Cymru? OAQ52577
Gwnaf. Mae pum bwrdd iechyd wedi rhoi'r system drawsgrifio meddyginiaethau ac e-ryddhau ar waith o fewn eu hysbytai. Byddaf yn cyfeirio ato o hyn ymlaen fel y system MTeD; bydd yn gwneud pethau'n haws ac yn gynt. Mae gan y ddau fwrdd iechyd sy'n weddill eu systemau lleol eu hunain gyda swyddogaethau tebyg i MTeD o ran darparu gwybodaeth am ryddhau cleifion i feddygon teulu.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n cefnogi'r hyn rydych wedi bod yn ei ddweud ynghylch rhyddhau electronig ac rwy'n croesawu'r cynnydd a wnaed wrth geisio cyflawni hynny. Clywaf yr hyn a ddywedwch am MTeD, ond rwyf hefyd wedi clywed yn ddiweddar fod gwasanaeth newydd, mwy integredig yn cael ei ddatblygu a fydd, neu a fyddai'n gallu, disodli'r MTeD yn y pen draw. A yw hyn yn wir? Ymddengys ychydig yn od, os oes system newydd yn cael ei datblygu cyn i'r MTeD gael ei roi ar waith ledled Cymru, ein bod yn dilyn y trywydd hwn ar hyn o bryd.
Credaf y byddai'n ffôl ceisio oedi MTeD a cheisio gwneud rhywbeth gwahanol. Os edrychwch ar yr hyn rydym wedi'i wneud, mae'n rhan o borth clinigol Cymru. Mae ymarferwyr yn gyffredinol yn gefnogol iawn iddo ac yn gadarnhaol yn ei gylch—nid yn unig ymarferwyr mewn ysbytai a meddygon teulu ond o fewn y byd fferylliaeth hefyd—ac mae yna gydnabyddiaeth ein bod mewn sefyllfa well na Lloegr, lle maent yn ceisio cyflwyno rhywbeth sydd â swyddogaethau tebyg, ac yn yr Alban, er bod ganddynt beth offer ar gyfer rhyddhau cleifion yn electronig, system sy'n seiliedig ar bapur sydd ganddynt i raddau helaeth. Felly, rwy'n credu bod angen i ni gyflwyno rhywbeth sy'n gyson ac yna deall sut y byddem yn gallu datblygu a gwella hwnnw yn y dyfodol, ac mae gennyf fwy o uchelgais byth i wella'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty, gwneud mwy o ddefnydd o bresgripsiynu electronig a rhannu gwybodaeth ar draws ein system iechyd ac yn benodol, gweld beth arall y gall fferylliaeth gymunedol ei wneud i helpu i wella'r broses o drosglwyddo gwybodaeth a phobl o'r ysbyty er mwyn gwneud yn siŵr fod eu meddyginiaethau'n barod ar eu cyfer pan fyddant yn cael eu rhyddhau i'w lleoliadau eu hunain.