Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 19 Medi 2018.
Ie, diolch am yr ateb hwnnw. Fe ymdrechaf i ymgyfarwyddo â'r adroddiadau a grybwyllwyd gennych yn fwy manwl. Nawr, mae yna un adroddiad rwyf am gyfeirio ato. Cafwyd adroddiad hyb gofal sylfaenol yn ddiweddar ar bresgripsiynu cymdeithasol a nodai fod yna ddiffyg ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ynglŷn â phresgripsiynu cymdeithasol. Yn amlwg, er mwyn i bresgripsiynu cymdeithasol weithio, mae angen i'r cyhoedd fod yn ymwybodol iawn ohono a meddygon teulu hefyd wrth gwrs. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i gynyddu gwybodaeth am bresgripsiynu cymdeithasol ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol a hefyd ymysg meddygon teulu?