Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch yn fawr am yr ateb. Roedd hwn yn achos o orfod geirio cwestiwn yn ofalus iawn, oherwydd petaswn i wedi gofyn fel roeddwn i eisiau ynglŷn â gweithgaredd corfforol yn hytrach na iechyd corfforol, mi fuasai'r cwestiwn wedi mynd i Weinidog arall, ond, wir, i chi'r mae'r cwestiwn yma achos, wrth gwrs, mae hybu gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff yn allweddol i hybu iechyd. Wrth i ni aros am adroddiad beiddgar, gobeithio, gan y pwyllgor iechyd yma yn y Cynulliad, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno efo fi ar fater o egwyddor, sef bod angen edrych ar sut i ddefnyddio cyllidebau iechyd i fuddsoddi mewn gweithgaredd corfforol? Achos os ydym ni’n sôn am atal afiechydon a gwneud yr NHS yn wasanaeth iechyd yn hytrach na gwasanaeth salwch, mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod pob ffynhonnell ariannol ar gael i greu’r cynlluniau a rhaglenni iechyd hirdymor a darparu’r isadeiledd ar gyfer iechyd yr ydym ni ei angen i’n gwneud ni’n genedl fwy iach. Achos bydd gwneud y genedl yma’n fwy iach yn arbed arian i ni yn y pen draw hefyd.