Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 19 Medi 2018.
Weinidog, fe fyddwch yn gwybod bod Gofal Arthritis wedi uno ag Ymchwil Arthritis y DU y llynedd, a deallaf y bydd yr elusen yng Nghymru yn cael ei galw yn Cymru yn Erbyn Arthritis o hyn ymlaen. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cymeradwyo'r amcan hwnnw. Mewn perthynas â'r ddarpariaeth yn ne Cymru, rwy'n ymwybodol fod y ddarpariaeth rewmatoleg bediatrig wedi cael ei chynnwys yn y cynllun ariannol blynyddol ar gyfer Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ac y bydd y pwyllgor hwnnw'n datblygu model o fanyleb gwasanaeth posibl ar gyfer gwasanaeth rhewmatoleg bediatrig estynedig. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â ble mae'r gwaith hwnnw arni? Mae'n wirioneddol hanfodol, oherwydd bydd angen gweithredu i sicrhau olyniaeth cyn gynted â phosibl o ganlyniad i'r ffaith bod y rhewmatolegydd sy'n darparu'r gwasanaeth pediatrig ar hyn o bryd, ar sail ran-amser, ar fin ymddeol—er nad yw'n arbenigwr mewn pediatreg yn benodol, mae wedi ymestyn ei waith i gwmpasu'r maes hwnnw yn rhagorol.