Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 19 Medi 2018.
Yn amlwg, mae hon yn drwydded fyw, ac fel y cyfryw, mater ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ydyw. Rydych yn sôn am dryloywder. Maent wedi cyhoeddi datganiad cyhoeddus. Maent hefyd wedi gosod amrywiaeth sylweddol o ddogfennaeth y broses o wneud penderfyniadau ar eu gwefan fel y gall pobl ei gweld. Felly, o safbwynt tryloywder, rwy'n credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynd i'r afael â'r mater hwnnw.