3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 19 Medi 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gefnogi'r gwyddonwyr sy'n ceisio atebion gan Magnox Cyf. ynghylch nifer a graddau'r damweiniau pyllau oeri yn Hinkley Point A a allai fod wedi arwain at symiau sylweddol o wraniwm a phlwtoniwm yn y mwd sy'n cael ei ddympio gan EDF ym Mae Caerdydd? 211
Ni allaf wneud sylwadau ar faterion sy'n ymwneud â'r drwydded forol ar gyfer carthu a gwaredu deunydd o Hinkley Point C oherwydd her gyfreithiol sydd ar y gweill i geisio gwaharddeb i atal y drwydded forol.
Yn y 1960au, roedd Hinkley Point A yn ffatri bomiau niwclear. Yn y flwyddyn ariannol 1968-9, cafodd hanner y craidd niwclear ei dynnu i ddarparu plwtoniwm o safon cynhyrchu arfau. Cynlluniwyd y system i dynnu un rhan o bump o'r craidd yn unig mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn. Y rheswm dros y rhuthr oedd bod y cytundeb rhyngwladol i atal rhag twf arfogaeth niwclear yn dod i rym yn 1970. Mae Magnox Cyf wedi cyfaddef fod damweiniau wedi digwydd yn y pwll oeri. Rhaid inni ganfod maint y damweiniau hyn. O gofio y gallai fod yna ronynnau poeth o wraniwm a phlwtoniwm na chafodd eu darganfod gan y profion sbectrometreg gama a gynhaliwyd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru atal y drwydded ddympio a chynnal profion sbectrometreg alffa a sbectrometreg màs i allu dweud yn bendant beth yn union sydd yn y mwd—os gwelwch yn dda?
Atebais yr Aelod a'i gwneud yn glir iawn na allaf wneud sylw ar hyn o bryd oherwydd y broses gyfreithiol sy'n mynd rhagddi. Yr hyn y gallaf ei adrodd yw'r hyn rwyf wedi'i ddweud o'r blaen yn y Siambr hon yn ystod dadl y tymor diwethaf, sef bod adroddiad diweddar Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol yn dangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar gyngor arbenigol. Cadarnhaodd hefyd fod yr holl brofion ac asesiadau wedi dod i'r casgliad fod y deunydd o fewn terfynau diogel, nad yw'n peri unrhyw risg radiolegol i iechyd dynol na'r amgylchedd, a'i fod yn ddiogel ac yn addas i'w waredu yn y môr.
Andrew R.T.—
Rhag eich cywilydd. Cywilydd.
Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n deall y cyfyngiadau a roddwyd arnoch gyda'r achos llys sydd ar fin digwydd, ond os gallaf wneud dau bwynt a gofyn am ateb i'r ddau bwynt: un peth sydd wedi codi dro ar ôl tro gydag etholwyr yw pam y dewiswyd y lleoliad penodol hwn i ddympio'r mwd, o ystyried, yn ôl yr hyn a ddeallaf, fod yna amryw o fannau eraill lle gellid bod wedi gwaredu'r mwd. Felly, nid yw'n honiad afresymol i geisio darganfod pam y dewiswyd y man penodol hwn, o gofio pa mor agos ydyw i Gaerdydd. Yn ail, o ystyried bod y drwydded wreiddiol wedi'i chyflwyno yn 2014, mae newidiadau amrywiol wedi bod yn y cynlluniau ar gyfer datblygiad Hinkley. A ydych yn hyderus fod y drwydded a ddyfarnwyd yn 2014 yn rhoi sylw i'r holl newidiadau hynny ac yn gyfredol, ac nad oes angen ei hadolygu i wneud yn siŵr ei bod yn rhoi sylw i unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd yn y cyfamser?
Gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru eu penderfyniad yn seiliedig ar gyngor arbenigol, a hynny yn unol â'r holl asesiadau radiolegol—gweithdrefnau a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol. Rwy'n hapus iawn i barhau i drafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru pan fyddaf yn eu cyfarfod yn rheolaidd, a rhoi gwybod i'r Aelodau ynghylch unrhyw ddatblygiadau.
Diolch yn fawr iawn ichi. Onid ydy’r protestio sydd yn digwydd rŵan—[Torri ar draws.] Mi rof eiliad i chi.
Rwyf am barhau yn Saesneg. Onid yw'n wir fod y protestiadau a welwn yn digwydd yn awr, a'r pryderon gwirioneddol sy'n cael eu lleisio, yn profi'r hyn a ddywedais yn y Siambr ym mis Mai—fod yr hyn a ddywedais bryd hynny yn hollol gywir? Dadl oedd honno, fe gofiwch, ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau rwy'n aelod ohono ynglŷn â beth sy'n digwydd i'r mwd hwn. Roeddwn wedi argymell yn y pwyllgor ychydig fisoedd cyn hynny y dylid cynnal rhagor o brofion, a'r hyn a ddywedais yn y ddadl mewn Cyfarfod Llawn ym mis Mai, wrth inni drafod yr adroddiad hwnnw, ac fe ddyfynnaf—mae'r dyfyniad yma yn Gymraeg felly rwyf am ei gyfieithu— oedd: pe bai CEFAS eu hunain wedi cynnig bod yna ffordd fwy tryloyw o wneud yr asesiadau, o gynnal y profion, fel y gwnaethant yn y Pwyllgor Deisebau, yna dylid bod wedi manteisio ar y cyfle ar y pryd, rwy'n credu, er mwyn chwilio am ffordd o symud ymlaen a allai ddigwydd yn y modd mwyaf tryloyw.
Nawr, gofynnwyd cwestiynau ar y diwrnod hwnnw hefyd ynglŷn â sut y gellir dympio gwastraff o unrhyw fath, waeth beth fo canlyniadau profion, ar dir Cymru neu yn nŵr Cymru heb unrhyw iawndal. Ond yn y bôn, mater o dryloywder yw hyn ynglŷn â'r mwd, ac oni all Llywodraeth Cymru weld yn awr fod eich penderfyniad i beidio â gwthio am ailgynnal profion wedi arwain at ddiffyg ymddiriedaeth yn eich gweithredoedd?
Yn amlwg, mae hon yn drwydded fyw, ac fel y cyfryw, mater ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ydyw. Rydych yn sôn am dryloywder. Maent wedi cyhoeddi datganiad cyhoeddus. Maent hefyd wedi gosod amrywiaeth sylweddol o ddogfennaeth y broses o wneud penderfyniadau ar eu gwefan fel y gall pobl ei gweld. Felly, o safbwynt tryloywder, rwy'n credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynd i'r afael â'r mater hwnnw.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi gofyn dau gwestiwn ddoe ynglŷn â'r datganiad busnes, ac rwy'n deall y cyfyngiadau a wynebwch o ran ymateb i'r rhain o ganlyniad i'r sefyllfa gyfreithiol rydych ynddi ar hyn o bryd. Ond fe ofynnais gwestiwn ynglŷn â'r datganiad busnes yn ymwneud â diffyg asesiad o'r effaith amgylcheddol o ran y pryderon ynghylch mwd Hinkley Point, ac rwy'n credu bod hynny'n sicr yn rhywbeth a fyddai o gymorth os yn bosibl, er mwyn cael rhyw fath o eglurhad ar y rhagolygon ar gyfer asesiad o'r effaith amgylcheddol, ond mae etholwyr wedi mynegi pryderon penodol, y rhoddais innau hefyd sylw iddynt yn nadl y Pwyllgor Deisebau, ynghylch samplu annigonol o haenau dyfnach o fwd. Felly, yn amlwg, ceir llawer iawn o bryder cyhoeddus, ac rwy'n ymwybodol fod Richard Bramhall o'r Ymgyrch Ymbelydredd Lefel Isel, cyn-aelod o bwyllgor Llywodraeth y DU sy'n ystyried risgiau ymbelydredd allyrwyr mewnol, wedi lleisio pryderon am y prawf. Felly, unwaith eto, dyma gyfle heddiw i gofnodi'r cwestiynau hynny eto, a hefyd buaswn yn ddiolchgar am unrhyw eglurhad pellach y gallwch ei roi i ni, o fewn y cyfyngiadau sy'n eich wynebu.
Credaf mai un pwynt allweddol i'w nodi yw nad yw diffyg asesiad o'r effaith amgylcheddol yn golygu na wnaed asesiad amgylcheddol llawn a thrylwyr. Cynhaliwyd asesiad radiolegol, fe'i cefnogwyd gan arbenigwyr, yn ogystal â'r asesiadau iechyd amgylcheddol a dynol ehangach sydd eu hangen ar gyfer gwneud penderfyniad ynghylch trwydded forol. Cynhaliwyd asesiad o'r effaith amgylcheddol ar brosiect Hinkley Point C yn gyffredinol. Cyflwynwyd yr asesiad o'r effaith amgylcheddol yn rhan o'r wybodaeth ategol a ddarparwyd gyda'r cais am y drwydded forol ac fel y cyfryw, fe'i ystyriwyd yn y penderfyniad—[Torri ar draws.]
Parhewch, Weinidog. Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Nid wyf eisiau ychwanegu llawer at yr hyn a ddywedodd yr Aelodau eraill—y rhai sydd wedi gofyn cwestiynau. Fe gawsom ddadl ar hyn ym mis Mai, fel y soniodd Rhun, ac mae'n rhaid cydnabod bod pryder cyhoeddus eang ynglŷn â'r mater hwn. Buom yn siarad am yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, neu ddiffyg asesiad o'r fath, yn y ddadl a gawsom ym mis Mai. Nid wyf yn meddwl mewn gwirionedd fod y materion hynny wedi cael sylw, neu o leiaf, ceir canfyddiad ymysg y cyhoedd, yn sicr, nad yw'r materion hyn wedi cael sylw. Credaf fod angen inni leddfu pryderon y cyhoedd, mynd i'r afael â'r materion sy'n codi, a rhaid inni gael lefel uwch o brofi cyn inni fwrw ymlaen â hyn. Felly, gobeithio y gallwch ymateb yn gadarnhaol i hynny, Weinidog.
Wel, rwy'n credu fy mod wedi gwneud. Yn sicr, pan gawsom ddadl y tymor diwethaf, fe'i gwneuthum yn glir iawn fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i dawelu meddwl y cyhoedd a'r Aelodau, ac rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â hynny yn y ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n deall y cyfyngiadau ar Ysgrifennydd y Cabinet, ond roeddwn am ddefnyddio'r cyfle i fynegi'r pryder yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd. Mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi ac mae wedi cael ei godi mewn nifer o gyfarfodydd y bûm ynddynt. Ceir pryder am ddiogelwch yng Nghaerdydd, felly rwy'n teimlo y dylem wneud popeth yn ein gallu i archwilio, ym mha bynnag fodd y gallwn, er mwyn tawelu meddyliau pobl os oes angen. Os yw'n ddiogel, yna mae angen inni allu gwneud hynny.
Fe siaradais er mwyn codi'r materion hyn yn y Pwyllgor Deisebau ar 23 Mai. A gwn fod rhagor o wybodaeth yn cael ei geisio bellach am Hinkley A, y gwyddom ei fod wedi'i ddatgomisiynu, ond bod Magnox Electric, a oedd yn berchen ar y safle Hinkley gwreiddiol ar y pryd, wedi cael dirwy o £100,000 yn 2001 am dorri deddfwriaeth waredu gwastraff niwclear a chynnal a chadw safleoedd. Felly, yn amlwg, mae'n destun pryder i aelodau o'r cyhoedd wybod bod hynny wedi digwydd.
Hefyd, rwyf am ategu'r cwestiwn ynglŷn â pham y dewiswyd y lle penodol hwn ar gyfer dympio 2 km yn unig, rwy'n credu, o'r lan. A beth yw'r manteision i ni yn ne Cymru o gael y mwd hwn wedi'i ddympio yma? Pa fath o drafodaethau neu ddadleuon a ddigwyddodd ynghylch y penderfyniad hwnnw? Felly, rwy'n awyddus iawn i weld unrhyw dystiolaeth wyddonol bellach y gellid ei chael yn dod i law, a gwn fod yr Athro Barnham wedi codi'r materion hyn, felly buaswn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i wneud popeth a all i fynd i'r afael â phryderon y cyhoedd am y peryglon posibl.
Soniais cyn hynny, yn amlwg, fod hon yn drwydded fyw, felly mae'n fater ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, a gellir parhau i gyfeirio pryderon atynt hwy. Rwy'n meddwl eu bod wedi cymryd y cam o wneud datganiad cyhoeddus, gan wneud yn siŵr fod amrywiaeth sylweddol o ddogfennaeth y broses o wneud penderfyniadau wedi'i rhoi ar y wefan er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd. Ac fel y dywedaf, fe wneuthum hynny hefyd yn y ddadl a gawsom y tymor diwethaf.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.