Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 19 Medi 2018.
Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon gan fy mod yn gefnogwr cadarn i'r Ddeddf teithio llesol, fel llawer o fy etholwyr yng Ngogledd Caerdydd, a'i lwybr Taf enwog iawn, un o lwybrau beicio a cherdded gwych Cymru. Gwn o gynnwys fy mlwch llythyrau yng Ngogledd Caerdydd pa mor bwysig yw beicio, a hefyd daeth llawer iawn o bobl i'r digwyddiad beicio a drefnais yn ddiweddar, gyda llawer o blant a llawer o drigolion Gogledd Caerdydd, ac roedd yn llwyddiant mawr. Felly, croesawaf yr adroddiad, a chredaf yn sicr ei fod yn tynnu sylw at y materion y mae angen rhoi sylw iddynt os ydym yn mynd i allu newid arferion teithio pobl. Roeddwn i'n croesawu'n arbennig y ffilm ar y dechrau. Roedd hi'n dangos yn glir iawn y mathau gwahanol o drafnidiaeth yn fy marn i, felly llongyfarchiadau i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ffilm.
Mae wedi'i ddweud eisoes, wrth gwrs, mai ymwneud ag iechyd y mae hyn. Credaf fod Lee Waters wedi dweud hynny yn ei gyfraniad, ac felly nid wyf am ailadrodd hynny heddiw. Ond pan ddaeth y Ddeddf teithio llesol i rym yn 2014, rwy'n credu ein bod i gyd braidd yn naïf yn disgwyl gweld cerdded a beicio yn dod yn norm ar gyfer y teithiau byr bob dydd, ac mae'n siomedig na welsom y tueddiadau y disgwyliem eu gweld ar i fyny, a gwn fod mater plant yn arbennig wedi'i godi gan nifer o Aelodau yma heddiw.
Credaf fod adroddiad y pwyllgor wedi nodi rhai o'r rhesymau pam y bu'r cynnydd yn araf hyd yma, yn enwedig yr elfen ddiogelwch, sydd eisoes wedi cael ei thrafod yma, a diffyg seilwaith priodol. Ond credaf ei bod hi'n wirioneddol bwysig ein bod yn cysylltu pob math o drafnidiaeth fel bod teithio llesol yn opsiwn hawdd a hygyrch. Rydym wedi sôn am gael system drafnidiaeth integredig yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ond rydym yn dal i fod ymhell o gyflawni hynny. Credaf fod integreiddio teithio llesol gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn rhan hanfodol o greu newid sylweddol yn y ffordd y teithiwn.
Gwn fod rhywun yma heddiw wedi dweud bod masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau yn gyfle a gollwyd, ond i mi mae'n gyfle gwych, a chredaf y bydd yna gyfle go iawn gyda'r fasnachfraint honno i sicrhau, ochr yn ochr â datblygu metro de Cymru, ein bod yn adeiladu beicio a cherdded yn rhan o'r system gyfan. Mae'n gyfle gwych i integreiddio cerdded a beicio'n well gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Fel y dywedodd y Cadeirydd eisoes, fel y dywed Sustrans, rhaid i orsafoedd trên ddod yn ganolfannau teithio llesol, gan ei gwneud yn haws i gymudwyr, pobl leol ac ymwelwyr gadw'n heini, ac mae angen inni sicrhau bod pob gorsaf yn hygyrch i gerddwyr a beicwyr, fod yna lefydd diogel i adael beiciau a bod mynediad i bobl anabl yn gwella er mwyn sicrhau cydraddoldeb i bawb.
Yng Nghaerdydd, rwy'n credu bod cynnydd mawr wedi bod yn y nifer sy'n beicio. Yn sicr, mae yna lawer mwy o feiciau ar y ffordd yng Nghaerdydd, a chredaf ein bod oll wedi gweld y cynnydd ym mhoblogrwydd nextbike yng Nghaerdydd, gyda lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd. Eisoes mae gennyf rai o'r mannau docio hyn yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd, a gwn fod rhagor yn dod cyn bo hir i Riwbeina, yr Eglwys Newydd a Gogledd Llandaf. A bydd hyn yn rhoi cyfle delfrydol i gynyddu teithiau beic yn y ddinas o orsafoedd trenau, y brifysgol, gweithleoedd a chyrchfannau i dwristiaid.
Wrth gwrs, mae gennym ddatblygiad cyfnewidfa drafnidiaeth newydd Caerdydd yng nghanol y ddinas—yr orsaf fysiau, fel y byddwn yn ei galw yng Nghaerdydd. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle enfawr arall i gynnwys beicio, cerdded a hygyrchedd yn y lle hwnnw. Mae wedi cymryd amser hir i gyrraedd lle rydym yn awr, ond rwy'n obeithiol iawn y bydd y gyfnewidfa drafnidiaeth honno'n anogaeth fawr i gerddwyr a beicwyr.
Credaf y bydd pobl yn ei chael hi'n llawer haws penderfynu gadael eu car gartref os gallwn greu system deithio llesol a chyhoeddus wirioneddol integredig. Felly, rwy'n cydnabod bod yr adroddiad wedi dweud pa mor anodd yw hi a sut y bu diffyg cynnydd, a chredaf i rywun ddweud yn y ddadl hon hefyd ein bod yn dda iawn yn y sefydliad hwn am wneud deddfwriaeth dda iawn—wyddoch chi, deddfwriaeth sy'n well na dim yn y byd—ond yr her fawr yw sut y mae cymhwyso honno wedyn a sut y mae gweld y cyflawniadau mewn gwirionedd. Ond rwy'n optimistaidd iawn oherwydd credaf fod gennym sylfaen yn ei lle. Yn sicr, yng Nghaerdydd, rydym wedi gweld bod yna ewyllys i'w wneud—newid mawr sy'n digwydd wrth inni siarad yma. Felly, rwy'n teimlo'n optimistaidd ar gyfer y dyfodol ac yn diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn.