Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 19 Medi 2018.
Rwy'n croesawu'r camau cryf gan ysgolion wrth newid o wyddoniaeth alwedigaethol i TGAU gwyddoniaeth. Anelu am gymwysterau galwedigaethol yn 16 oed, fel BTEC gwyddoniaeth, yw'r llwybr cwbl gywir ar gyfer rhai o'n dysgwyr yng Nghymru. Ond nid yw'n dderbyniol i mi, nac i eraill yn y Siambr heddiw rwy'n gobeithio, fod yr ysgolion wedi meddwl ei bod hi'n briodol i 40 y cant o ddysgwyr ddilyn cwrs galwedigaethol. Efallai fod hyn wedi sicrhau'r canlyniadau a ddymunir iddynt o ran mesurau perfformiad ysgol, ond ni ddylai hynny byth bythoedd ddod o flaen buddiannau dysgwyr. Ac rydych chi a minnau, David, yn cytuno ar y pwynt hwnnw.
Rwy'n falch ein bod wedi gweld cynnydd o 50 y cant eleni yn nifer y myfyrwyr a gofrestrwyd ar gyfer TGAU gwyddoniaeth—rwy'n ei ddweud eto: 50 y cant yn fwy o gofrestriadau ar gyfer TGAU gwyddoniaeth—gyda mwy o'r ymgeiswyr hynny'n ennill gradd A* i C. Ac mae hefyd yn braf iawn gweld bod y nifer a gofrestrwyd ar gyfer gwyddorau unigol—bioleg, cemeg a ffiseg—wedi codi dros 10 y cant. Nawr, bydd cynnydd mor enfawr yn y cohort yn ystumio'r canlyniadau wrth gwrs. Roedd pawb ohonom yn gwybod y byddai'r penderfyniad anodd hwn yn ei gwneud hi'n haws i'r gwrthwynebwyr feirniadu a chamgyflwyno'r canlyniadau cyffredinol. Mae'n benderfyniad anodd, ond mae hefyd yn benderfyniad cywir—codi safonau a gwella'r cyfle i bawb o'n dysgwyr ac yn bennaf oll, i rai o gefndir tlotach. Mae'r cam hwn, ochr yn ochr ag eraill, megis rhoi diwedd ar y defnydd amhriodol o gofrestriadau cynnar, yn ei gwneud hi'n anodd ffurfio cymariaethau ystyrlon. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i gymharu canlyniadau eleni gyda blynyddoedd blaenorol. Nawr, nid fy marn i yw hynny—dyna farn y rheoleiddiwr annibynnol, Cymwysterau Cymru, a ddisgrifiodd y broses o wneud cymariaethau fel un 'or-syml', oherwydd y newid sylweddol ym maint a natur y cohort, heb sôn am y newidiadau i'r arholiadau eu hunain.
A rhaid imi ddweud, cefais fy nrysu braidd gan ymagwedd y llefarydd Ceidwadol newydd. Mae'n ymddangos ei bod hi'n methu deall natur unedol ein cymwysterau TGAU gwyddoniaeth newydd. Mae hi eisiau parch cydradd rhwng cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau academaidd, ond wedyn mae'n bwrw iddi i feirniadu gostyngiad yn nifer y cofrestriadau Safon Uwch. Gadewch inni fod yn gwbl glir pam fod cwymp yn nifer yr ymgeiswyr Safon Uwch—pan fydd gostyngiad ym maint y cohort, yn syml iawn, bydd yna lai o fyfyrwyr o'r oedran hwnnw yn ein hysgolion a'n colegau. Ac i'r myfyrwyr a oedd yn cael trafferth gyda Safon Uwch am eu bod wedi cael eu gorfodi i ddilyn cyrsiau Safon Uwch, symud at gymwysterau mwy galwedigaethol yw'r peth hollol iawn i'w wneud. Felly, ni allwch ddweud ar y naill law eich bod yn flin nad yw myfyrwyr llai galluog yn gwneud Safon Uwch mwyach, a galw wedyn am barch cydradd. Rydych yn methu'n llwyr â deall hefyd beth yw effaith barhaus cofrestriad cynnar ar ffigurau cyffredinol, ond rydym wedi newid y polisi hwnnw. Rydym hefyd yn newid mesurau perfformiad i'r union system rydych chi newydd alw amdani sy'n edrych ar ymagwedd fwy cyfannol tuag at y modd y byddwn yn barnu ein hysgolion. Rydym yn buddsoddi mewn arweinyddiaeth, rydym yn buddsoddi yn ein plant mwy galluog a thalentog ac rydym yn gwario mwy ar y grant amddifadedd disgyblion nag erioed o'r blaen i fynd i'r afael â phryderon y grwpiau agored i niwed y soniodd David Melding amdanynt yn awr. A gadewch i mi fod yn hollol glir: bydd arian a dderbyniwyd gan y Llywodraeth hon ar gyfer cyflogau athrawon yn cael ei wario ar gyflogau athrawon.
Nawr, nonsens yw'r syniad ein bod rywsut yn eistedd yn ôl a gwneud dim ynglŷn ag ysgolion sy'n peri pryder. Y rheswm pam y gwn beth yw canlyniadau Ysgol y Brenin Harri yn y Fenni yw ein bod yn edrych yn fanwl ar bob ysgol unigol. Awn yn ôl i wirio'r berthynas a gawsant gyda'u consortiwm rhanbarthol. Rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno adroddiad bob tro y byddant wedi defnyddio hysbysiad statudol ar gyfer ysgol sy'n peri pryder, ac rwy'n cael adroddiadau rheolaidd er mwyn deall, gan bob awdurdod lleol a chonsortiwm, beth y maent wedi'i wneud i gefnogi'r ysgol sy'n destun mesurau arbennig. Ac os nad wyf yn fodlon ar yr ymateb hwnnw, rwy'n mynd yn ôl at y consortiwm rhanbarthol hwnnw ac rwy'n mynd yn ôl at yr awdurdod lleol hwnnw.
Mae cymaint y gallwn ei ddweud am y modd y disgrifiodd Michelle system addysg Cymru. Soniodd am feddygon. Sut y gallwn gael meddygon i ddod i Gymru? Wel, efallai y daw'r meddygon hynny o blith y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr o Gymru sydd wedi ennill lle mewn ysgol feddygol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Byddant yn dychwelyd i'r wlad hon i fod yn feddygon, fel y gall eu plant gael yn union yr un addysg ag y cawsant hwy ac a'u galluogodd i fynd i ysgol feddygol. A bwch dihangol? Bob dydd, rwy'n falch o wneud y gwaith hwn, ac rwy'n falchach byth wrth gofio fy mod, drwy gymryd y swydd wedi eich cadw chi, a'r sylwadau niweidiol a fynegwyd gan eich arweinydd ddoe, rhag dod unman yn agos at y Llywodraeth.
O ran gwelliannau Plaid Cymru, byddwn yn cefnogi'r ddau ohonynt. Rwyf wedi ymrwymo, Llyr, i barhau i fuddsoddi yn ein gweithlu i sicrhau bod gennym weithlu addysg cyfan sy'n cael digon o hyfforddiant o safon uchel. Dyfarnwyd £5.85 miliwn o ddyraniad cyllid dysgu proffesiynol i'r consortia rhanbarthol yn ystod 2017-18 i gefnogi gwaith arloeswyr dysgu proffesiynol ac i wella gallu consortia i ddatblygu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol. Rydym hefyd wedi rhyddhau £5.5 miliwn pellach yn ystod 2018-19 i ddatblygu'r dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn gallu cynllunio'n briodol ar gyfer newid y cwricwlwm a thu hwnt.
Fel y gwyddoch—mae'n rhywbeth y mae eich plaid chi a fy mhlaid i wedi ymgyrchu drosto ers nifer o flynyddoedd—bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb dros bennu cyflog ac amodau athrawon o ddiwedd y mis hwn. Rwy'n disgwyl cael adroddiad pwysig yr wythnos hon gan yr Athro Mick Waters gydag opsiynau ar sut y gallwn ddefnyddio'r pwerau newydd hynny i wobrwyo ein hathrawon yn well a denu recriwtiaid o ansawdd uchel i'r proffesiwn. Rwyf am ailadrodd un peth fodd bynnag, sef nad yw hyn yn ymwneud yn unig ag arian a chyflogau. Caiff y rhai sydd am weithio gyda'n plant eu hysgogi gan rywbeth cymaint mwy na hynny—mae yna ffyrdd gwell o ddod yn gyfoethog. Cânt eu hysgogi gan yr awydd i fod yn rhan o'r gweithlu sector cyhoeddus i wneud rhywbeth anhygoel ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc.
Felly, rhaid inni edrych hefyd ar fater amodau. Mae cymryd cyfrifoldeb am gyflog ac amodau athrawon yn gam hynod o bwysig yn ein system addysg. O'r cychwyn cyntaf, rydym am wneud yn siŵr fod gennym system sy'n seiliedig ar werthoedd tegwch a rhagoriaeth, ac ymrwymiad i wasanaeth addysg cyhoeddus cynhwysol. Credaf fod hyn yn hanfodol i gefnogi a chryfhau ein proffesiwn addysgu.
I gloi, Lywydd, nid ydym yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, sydd ond yn camliwio ac yn bychanu'r newidiadau a'r cynnydd a wnawn yma yng Nghymru. Yn sicr, nid wyf am wrando ar unrhyw bregeth ganddynt ar faterion cyllid.
Aeth Mohammad Asghar i drafferth fawr i ddyfynnu'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, felly gadewch imi ddweud wrtho beth y mae'r sefydliad hwnnw yn ei ddweud am ein system. Rydym yn gweld cynnydd mewn nifer o feysydd polisi a newid yn y dull o wella ysgolion yng Nghymru o gyfeiriad polisi tameidiog a thymor byr tuag at un sy'n cael ei arwain gan weledigaeth hirdymor.
Rwy'n gwybod—rwy'n gwybod—nad oes unrhyw le i laesu dwylo, ond gan weithio gyda'r sector, byddwn yn parhau ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol ac sy'n ennyn hyder y cyhoedd.