– Senedd Cymru ar 19 Medi 2018.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar safonau ysgolion. Galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig. Suzy Davies.
Cynnig NDM6776 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod cyrhaeddiad graddau TGAU rhwng A * a C yng Nghymru yn haf 2018 ar y lefel waethaf ers 2005.
2. Yn mynegi pryder am safonau ysgol, o ystyried nifer yr ysgolion yng Nghymru a roddwyd mewn mesurau arbennig gan Estyn a sydd wedi cael hysbysiadau rhybuddio gan awdurdodau addysg lleol Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn addysg i fynd i'r afael â'r bwlch ariannu fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cael cryn dipyn i'w wneud yn fy 24 awr gyntaf yn y rôl newydd hon. Hoffwn ddechrau, gyd-Aelodau, ar ran pawb ohonom, rwy'n credu, drwy longyfarch myfyrwyr, athrawon a staff ledled Cymru ar y gwaith a wnaethoch ar gyfer yr arholiadau eleni, a chynnig ein dymuniadau gorau i bawb, beth bynnag oedd eu canlyniadau.
Mae yna nifer o ffyrdd o lunio dyfodol, a dim ond rhan o'r arfau sydd gennych i wneud hynny yw tystysgrifau arholiad. Ein rôl ni yma yw bod yn sicr fod yr arfau hynny o'r ansawdd gorau a'r hyn sydd ei angen arnoch yn bersonol ar gyfer dechrau llunio'r math o ddyfodol boddhaol a chynhyrchiol a fydd yn eich cynnal. Ond ni fydd dyfodol cynhaliol, boddhaol a chynhyrchiol pawb wedi'i lunio gan ganlyniadau arholiad da, felly mae llawn gymaint o rôl gennym i adeiladu system addysg sy'n helpu ein pobl ifanc i gaffael arfau gwahanol i adeiladu'r bywydau hynny—rhywbeth y byddwn yn ei drafod ar ddiwrnod arall rwy'n siŵr.
Felly, os oedd yr Aelodau'n gobeithio cyfrannu at y ddadl drwy alw'r cynnig hwn yn ymosodiad ar bawb rwyf newydd eu llongyfarch, rydych ar y trywydd anghywir. Dadl yw hon am ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn perthynas â chyflawni addewidion y mae pawb ohonom eisiau eu gweld yn cael eu cadw: safonau uwch, dysgwyr mwy hyderus, cynnwys cyrsiau sy'n fwy perthnasol, gan arwain at gymwysterau academaidd gwerth chweil yn yr achos hwn, ac sy'n ennyn parch pawb. Ac fel yr awgryma'r cynnig, Ysgrifennydd y Cabinet, nid ydych wedi cyrraedd yno eto.
Pwrpas dadl fel hon, ar wahanol adegau, yw profi a yw'r llwybr rydych chi arno yn agos o gwbl i'r lle rydych chi'n ceisio ei gyrraedd. Ac mae'r ateb i bwynt 1 ein cynnig, a roddir yn eich gwelliant cyntaf, mor llawn o wrthgyhuddiadau fel fy mod yn amau eich bod chi hefyd yn boenus mai graddau TGAU A* i C yr haf hwn yw'r rhai gwaethaf ers 13 mlynedd. Roedd y TGAU newydd ar gyfer Cymru yn unig i fod i sicrhau'r gorau gan ein myfyrwyr.
Nawr, gadewch i ni fod yn deg yma: mae nifer y graddau A ac A* yn TGAU wedi cynyddu ychydig bach o gymharu â llynedd—tua 0.5 y cant—er yn dal i fod yn is na'r ddwy flynedd flaenorol. Ond yn bersonol, rwy'n falch o weld rhywfaint o gynnydd. Hoffwn feddwl bod y myfyrwyr disgleiriaf yn cael cyfran decach o sylw, sydd wedi bod yn anodd pan oedd ysgolion yn teimlo rheidrwydd i ganolbwyntio ar fyfyrwyr ar ffin C/D yn TGAU er mwyn osgoi ystadegau negyddol. Ac nid wyf o reidrwydd yn rhoi'r bai ar ysgolion am hynny. Rwy'n beio degawdau o system sydd, er gwaethaf blynyddoedd o siarad am hyn, heb wneud dim i sicrhau parch cydradd i gymwysterau anacademaidd. Mae wedi golygu bod pobl ifanc dirifedi wedi cael eu gwthio i ddilyn cyrsiau TGAU sy'n llesteirio'u cyflawniad a'u hyder tra'u bod yn colli allan ar addysg wahanol a allai gydnabod ac ymestyn eu cryfderau.
Trof yn ôl at y cynnig. Mae nifer y goreuon wedi cynyddu ychydig, ond mae'r gyfradd o raddau A* i C wedi gostwng 1.2 y cant ers y llynedd. Efallai nad yw hynny'n swnio'n llawer, ond mae'n werth cofio bod canlyniadau y llynedd yn is nag ar unrhyw adeg ers 2006, gyda Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru yn beio'r newyddion drwg ar y naid yn nifer y cofrestriadau cynnar—disgyblion 15 oed neu iau.
Nawr, rydym wedi cael blynyddoedd o ddisgyblion yn sefyll arholiadau'n amhriodol o gynnar a dylem fod wedi rhoi'r gorau i hyn amser maith yn ôl. Ond nawr eu bod yn cael eu hatal—mae'r nifer wedi gostwng 77 y cant eleni—mae cyrhaeddiad graddau TGAU da yn is byth: mae graddau A* i C mewn mathemateg, Saesneg iaith a llenyddiaeth, Cymraeg iaith, bioleg, cemeg a ffiseg—y pethau mawr—i gyd wedi gostwng yn ôl Cymwysterau Cymru. Ni allwch guddio hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych wedi ceisio'i wneud yn eich gwelliant, drwy gyfuno'r ffigurau anffodus hyn ag eraill. Rydym wedi derbyn gwelliant bychan yn y ganran o raddau A i A* yn TGAU, ond rydych yn gobeithio awgrymu bod y darlun yn well yn gyffredinol trwy ychwanegu cynnydd yn y graddau hynny a graddau A* i C Safon Uwch.
Yr hyn nad ydych yn ei ddweud yw bod nifer y dysgwyr sy'n sefyll arholiadau Safon Uwch wedi gostwng 10 y cant—10 y cant. Dywedodd Cymwysterau Cymru fod 'llai o ymgeiswyr gwannach'—eu geiriau hwy, nid fy ngeiriau i—wedi sefyll arholiadau Safon Uwch eleni, felly wrth gwrs fod cyfran y graddau uchaf wedi codi. Cynnydd o 50 y cant yn y niferoedd sy'n gwneud TGAU gwyddoniaeth, y fersiwn newydd—mae hynny'n newyddion gwych. Ond a yw hynny oherwydd nad oedd cyfran ohonynt wedi sefyll yr arholiad ym mlwyddyn 10, fel oedd yn digwydd gyda chohortau blaenorol? Nid yw'r gwelliannau bach mewn mathemateg a mathemateg rhifedd yn 16 oed yn celu'r gostyngiad cyffredinol yn y cofrestriadau ar gyfer pob oedran ychwaith, ond yn sicr maent yn cadarnhau'r synnwyr da o gael gwared ar gofrestriadau cynnar. Rwy'n falch o weld, fodd bynnag, ein bod ein dwy yn derbyn gair Cymwysterau Cymru pan fyddant yn dweud, er gwaethaf yr holl newidiadau, fod y safonau'n sefydlog. Mae'n berffaith deg, fel rwy'n dweud, i gymharu eleni â llynedd a'r blynyddoedd cyn hynny.
Cyn dychwelyd at y cynnig eto, a gaf fi eich cymeradwyo ar eich dewrder yn cyfeirio at ffigurau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid ym mhwynt c eich gwelliant cyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet? Prin mai buddugoliaeth yw hawlio bod gwariant fesul disgybl yma bellach yn llawer nes at wariant Llywodraeth wahanol ar y sail fod y Llywodraeth arall bellach yn llai hael na'r hyn ydoedd yn flaenorol. Mae'n wir fod Llywodraeth y DU yn gwario llai y pen nag yn 2008, ond rydych chithau hefyd, ac o'r pwynt lle mae'r data rhwng Cymru a Lloegr yn gwbl gyson, sef 2013-14, fwy neu lai, mae gwariant y pen Cymru wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn, ond ni ddechreuodd y dirywiad yn Lloegr tan ddwy flynedd yn ôl. A pham y bu gostyngiad yn y gwariant y pen yn Lloegr? Oherwydd bod cynnydd o 10 y cant yn y boblogaeth ddisgyblion, ac nid yw'r adnoddau wedi dal i fyny â hynny eto. Pam y bu gostyngiad yng ngwariant y pen yng Nghymru—ac mae'n dal i fod tua 2 y cant yn is? Niferoedd disgyblion statig a thoriad bwriadol yng nghyfanswm y gwariant—stori wahanol iawn ac un sy'n gwbl groes i'r addewid i fuddsoddi £100 miliwn yn ychwanegol ar godi safonau ysgolion yn eich rhaglen lywodraethu. Mae pwynt 3 ein cynnig ni a dau welliant Plaid Cymru, a gefnogwn, yn rhoi stori wahanol iawn. Felly, gadewch i ni weld sut rydych yn gwario'r £23.5 miliwn o arian canlyniadol Barnett y byddwch yn ei gael gan Lywodraeth y DU. Efallai y gallwch ddweud wrthym hefyd a ydych yn bwriadu defnyddio'r cyfle i ddiwygio llywodraeth leol fel cyfle i ddiwygio cyllid addysg yn ogystal.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, ar bwynt 2 ein cynnig a'n pryder ynglŷn â nifer yr ysgolion yng Nghymru sy'n peri pryder i Estyn ac sydd wedi cael hysbysiadau rhybuddio gan awdurdodau lleol, beth bynnag am y cyfeiriad yng ngwelliant y Llywodraeth at y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mae yna 45 o sefydliadau addysg ar draws hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru sydd mewn mesurau arbennig neu angen gwelliant sylweddol. Mae un ohonynt wedi bod yn y sefyllfa honno ers pedair blynedd. Rwy'n credu bod nifer yr ysgolion uwchradd yn y categori coch wedi codi, ac fel y gwyddoch, rydym wedi dadlau yn y gorffennol fod yr ysgolion yn y categori melyn a gwyrdd—mae'r cynnydd yno'n deillio lawn cymaint o newid y categorïau ag y mae o welliant go iawn. Ni chydymffurfiwyd â dwy ran o dair o'r hysbysiadau rhybuddio statudol hynny i ysgolion. Credaf fod hyn yn ddigalon ac nid wyf yn dychmygu am un eiliad eich bod ronyn yn hapusach na ninnau ynglŷn â'r sefyllfa. Ond roeddwn yn gobeithio, oherwydd eich ymrwymiad i addysg, y byddech yn cymryd cam y mae eich cyd-Aelodau o'r Cabinet i'w gweld yn benderfynol o'i osgoi.
Rwyf wedi treulio blynyddoedd yn gwrando ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, yn enwedig, yn dweud wrthym beth y mae'n ei ddisgwyl gan y byrddau iechyd wrth graffu ar berfformiad. A phan na fydd y disgwyliadau hynny'n cael eu gwireddu, nid yw'n gwneud dim heblaw ailadrodd ei ddisgwyliadau. Nid yw'n defnyddio ei bwerau i ymyrryd ac nid yw rheolwyr byrddau iechyd lleol yn cael cymorth o ganlyniad i hynny, ac mewn rhai achosion, ni chânt eu cosbi. Mae gennych bwerau o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i ymyrryd mewn ysgolion sy'n tangyflawni pan ddaw'n glir na allant ddatrys eu problemau eu hunain er gwaethaf pob cymorth her ysgolion a chymorth consortiwm a gânt. Ym mis Ionawr eleni, nid oedd y pwerau hynny wedi cael eu defnyddio yn y pum mlynedd ers i'r Ddeddf ddod i fodolaeth. Nawr, credaf y dylai pob ysgol gael cyfle i wella'i hun, ond daw amser pan fo'n rhaid i Ysgrifennydd Cabinet ystyried yr arfau sydd ganddynt i lunio dyfodol pobl a thrin y pwerau hynny i ymyrryd fel dyletswyddau i ymyrryd. A hoffwn wybod a ydych chi'n credu bod yr amser hwnnw wedi dod bellach. Diolch.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, ac a gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol?
Gwelliant 1—Julie James
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Croesawu:
a. bod cyfran y disgyblion sy’n cael y graddau uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu;
b. bod cynnydd o 50% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o gofrestriadau yn cael A*-C;
c. bod cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan gydnabod y canlyniadau gorau a gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd a’r haf;
d. bod 76.3 y cant o ddisgyblion a oedd yn gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers 2009.
2. Nodi:
a. rhybudd Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid bod yn ofalus wrth lunio unrhyw gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf 2018 a chanlyniadau blynyddoedd blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn sefydlog ar y cyfan;
b. bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl maes polisi, a nodi bod ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a byrdymor i fod yn un sy’n cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a
c. casgliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn, i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy wlad.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth?
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod yr holl weithlu addysg yn derbyn hyfforddiant digonol ac o safon uchel.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu addysg yn denu gweithlu gyda lefel uchel o sgiliau.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Plaid Cymru. Wrth gwrs, rydym wedi gweld nifer o newidiadau a diwygiadau dros y blynyddoedd, yn enwedig dros ddau dymor diwethaf y Cynulliad efallai. Rydym wedi gweld yr adolygiad o'r system gymwysterau, rydym wedi gweld adolygiad parhaus yn awr o'r cwricwlwm cenedlaethol, rydym wedi gweld newidiadau i anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal, wrth gwrs. Ac fel y clywsom, oherwydd maint a chymhlethdod y newidiadau diweddar hynny, mae Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru yn ein hatgoffa'n rheolaidd y dylem fod yn ofalus wrth ddod i unrhyw gasgliadau yn sgil cymharu canlyniadau o un flwyddyn i'r llall. Wel, wyddoch chi beth? Rwyf wedi bod yma ers saith mlynedd bellach, ac nid wyf yn meddwl fy mod wedi cael un flwyddyn lle na chefais wybod ei bod hi'n anodd gwneud y cymariaethau hynny, ac mae hynny'n dangos i mi, rwy'n credu, y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gyson wedi diwygio, newid, symud y pyst gôl—fel y dylent, i raddau helaeth, rwy'n siŵr. Ond mae'n gwneud i mi feddwl tybed a fyddwn ni byth yn cyrraedd lefel o gysondeb yn y system lle gallwn wneud y mathau hynny o gymariaethau yn y dyfodol o bosibl.
A meddyliwch am yr athrawon sy'n gorfod ymdopi â'r newidiadau hynny yn y rheng flaen yn ddyddiol, ac wrth gwrs, mae'r newid mwyaf eto i ddod gyda diwygio'r cwricwlwm a'r newidiadau yn sgil hynny i gymwysterau a systemau asesu.
Mae yna eironi, rwy'n credu, yn y modd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicr o ddweud wrthym mewn munud na ddylem wneud y cymariaethau hynny o un flwyddyn i'r llall, ond yng ngwelliant y Llywodraeth, wrth gwrs, mae'n croesawu'r cynnydd yng nghanlyniadau mathemateg a mathemateg rhifedd A* i C yn TGAU. Wel, nid wyf yn siŵr y gallwn ei chael hi'r ddwy ffyrdd. Efallai y gallwn, ond wyddoch chi, beth y mae hynny'n ei wneud o ran drysu pobl ynglŷn â'n gallu i wneud cymariaethau ystyrlon?
Rhaid imi ddweud, o ystyried y gostyngiad enfawr yn nifer y cofrestriadau cynnar ar gyfer TGAU eleni o gymharu â'r llynedd—credaf fod tua 16 y cant o'r holl gymwysterau y llynedd yn gofrestriadau cynnar a bellach prin ei fod yn 4 y cant eleni—roeddwn yn gobeithio efallai y byddai hynny'n gwneud argraff ar y gyfradd sy'n llwyddo i gael A* i C yn gyffredinol, ond mae'n siomedig ein bod wedi gweld y prif ystadegyn i lawr eto eleni. Ac wrth gwrs, mae'r bwlch rhwng cyrhaeddiad yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon—er y gallai fod cafeatau a rhybuddion, mae'n gymhariaeth y bydd pobl yn ei gwneud. Felly, efallai mai'r cwestiwn y dylem ei ofyn yw: os yw cymharu'n anodd, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu disgyblion, rhieni a'r cyhoedd yn ehangach ynglŷn â sut y gwnawn hynny?
Felly, er bod yn rhaid cyfaddef ei bod hi'n fwyfwy anodd gwneud cymariaethau blynyddol, credaf fod un peth yn amlwg iawn, sef, wrth gwrs, ei bod yn afrealistig ac yn annheg i Lywodraeth Cymru ac unrhyw un arall ddisgwyl gwelliant flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y perfformiad Safon Uwch a TGAU pan welwn gyllidebau ysgol o un flwyddyn i'r llall yn lleihau ac yn crebachu a'r adnoddau sydd ar gael yn mynd yn llai. Oni bai bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn cael cyllid tecach, nid wyf yn meddwl mewn gwirionedd y gallwn ddisgwyl i'n disgyblion wella'n gyson a chyrraedd eu potensial llawn.
Mae awdurdodau lleol, athrawon ac undebau athrawon yn dweud wrthym fod yr ysgolion bellach wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Yn sgil toriadau termau real o £300 y disgybl i'r cyllid ers 2009, mae'r undebau addysg yn dweud ein bod yn gweld cynnydd ym maint dosbarthiadau, mae'n arwain at orddibyniaeth ar gynorthwywyr addysgu, nad ydynt, wrth gwrs, yn cael eu talu'n briodol, mae'n arwain at effaith niweidiol ar y cwricwlwm, ac yn anochel bydd addysg disgyblion yn dioddef o ganlyniad. Felly, mae'n wyrth, mewn gwirionedd, eu bod yn cyflawni gystal ag y maent yn ei wneud o dan yr amgylchiadau hynny. Ac mae hynny wedi cael effaith ar forâl athrawon a disgyblion yn ogystal, ac mae cylch dieflig yno, onid oes? Gyda lefelau staffio'n gostwng fwyfwy mewn llawer o'n hysgolion, mae llwyth gwaith yr athrawon sy'n weddill yn uwch o lawer ac mae'r pwysau a'r straen yn rhwym o ddangos. Yn sicr, caiff ei adlewyrchu yn y ffordd y mae llai o bobl yn cael eu denu i'r proffesiwn yn awr, gyda niferoedd athrawon dan hyfforddiant newydd yn methu cyrraedd y targedau, nifer athrawon ysgolion uwchradd draean yn is na'r targed yn 2016-17, y targed ar gyfer athrawon cynradd dan hyfforddiant heb ei gyrraedd chwaith, a dywedodd traean o'r athrawon a ymatebodd i arolwg cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg o'r gweithlu addysg eu bod yn bwriadu gadael y proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf. Ac wrth gwrs mae ffigurau Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru wedi dangos bod dros 15,000 diwrnod gwaith y flwyddyn bellach yn cael eu colli gan athrawon oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â straen.
Nawr, roedd maniffesto Plaid Cymru yn 2016 a gostiwyd yn llawn yn amlinellu sut y byddem yn cyflwyno nifer o fentrau, gan gynnwys taliad premiwm blynyddol i athrawon a thaliad yn ogystal i gynorthwywyr addysgu—rhaid inni beidio ag anghofio amdanynt hwy. Roeddem yn trafod canolbwyntio mwy ar ganiatáu amser ar gyfer hyfforddiant, mwy o bwyslais ar ddatblygiad proffesiynol parhaus, mwy o amser i baratoi ac i addysgu ac i farcio, ond wrth gwrs, mae hyn oll yn costio, ac rydym yn cydnabod hynny. Ond mae creu system addysg o'r radd flaenaf yn mynd i gostio arian, ac ni allwn dwyllo ein hunain y gallwn ei wneud mewn unrhyw ffordd arall. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, a nes y bydd hynny'n digwydd ni allwn ddisgwyl yn deg ac yn rhesymol i'n hathrawon a'n disgyblion gyflawni'r safonau a'r canlyniadau gwell y mae pawb ohonom am eu gweld.
Arferem fod yn genedl a oedd yn hyrwyddo addysg ar un adeg—ni oedd yr arloeswyr gydag ysgolion y wladwriaeth, safonau a lefelau cyflawni uchel a gennym ni oedd un o'r prifysgolion cyntaf a oedd yn agored i bawb. Bellach, rydym yn tangyflawni ar bob lefel.
Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, Ddirprwy Lywydd; dyma eiriau Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ei haraith fel arweinydd i gynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru bedair blynedd yn ôl, a heddiw, mae fy araith, mewn gwirionedd, yn ymwneud â'i haddewidion a'i geiriau a'i pherfformiad hi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Yn ei haraith yng Nghasnewydd, honnodd fod cenhedlaeth o'n plant wedi cael cam gan system addysg sy'n dal i wynebu problemau.
Yn anffodus, mae'r problemau hynny'n parhau heddiw. Canlyniadau TGAU eleni yw'r rhai gwaethaf ers dros ddegawd. Mae lefelau cyrhaeddiad graddau A i C ar gyfer pob oedran wedi disgyn mewn Cymraeg, llenyddiaeth Saesneg, y gwyddorau a mathemateg. Mae hyn yn peri pryder arbennig pan fyddwch yn ystyried bod nifer y dysgwyr sy'n anelu am gymwysterau Safon Uwch wedi gostwng bron 10 y cant ers 2015. Bedair blynedd yn ôl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn gresynu at y canlyniadau PISA gwael ar gyfer Cymru. Cwynai am y ffaith bod Cymru, am y trydydd tro yn olynol, wedi disgyn ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Ac eto mae'r ffigurau a gyhoeddwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dangos mai gan Gymru y mae'r system addysg sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig. Am y pedwerydd tro mewn degawd, gorffennodd Cymru gryn dipyn ar ôl holl wledydd eraill y DU yn y safleoedd PISA. Dengys ffigurau mwyaf diweddar Estyn fod 45 o sefydliadau addysg ledled Cymru ar hyn o bryd yn destunau mesurau arbennig neu angen gwelliant sylweddol. Rwy'n pryderu wrth weld bod y nifer uchaf o sefydliadau addysg sy'n destunau mesurau arbennig yng Nghasnewydd, a Thorfaen sydd â'r nifer uchaf o ysgolion sydd angen gwelliant sylweddol—y ddau le, wrth gwrs, yn fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn un o'i hareithiau cynhadledd bedair blynedd yn ôl—ac rwy'n dyfynnu:
Mae gormod o'n hysgolion yn tangyflawni—a phob un ohonynt yn cael eu tangyllido.
Heddiw, mae ysgolion yng Nghymru yn parhau i fod wedi'u tangyllido'n sylweddol, gyda chanlyniadau difrifol i safonau addysgol ar draws ein gwlad. Yn ôl NASUWT, mae'r bwlch cyllid yn y gwariant fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr wedi cynyddu i £678. Mae hyn wedi cael effaith ganlyniadol ddinistriol ar gadw athrawon, hyfforddiant athrawon, atgyweirio adeiladau ysgol a mesurau amrywiol i gefnogi anghenion dysgu grwpiau dan anfantais a phlant o deuluoedd tlotach. I ddechrau, torrodd Ysgrifennydd y Cabinet y cyllid ar gyfer addysgu plant o grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, sy'n draddodiadol ymhlith y mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae wedi methu adfer y grant yn llawn. Mae Estyn yn honni bod y bwlch rhwng y gyfran o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac sy'n cyflawni pump gradd A i C yn TGAU a'r rhai nad ydynt yn gwneud hynny yn parhau i fod yn ystyfnig o fawr, a hyn oll dan law Ysgrifennydd y Cabinet a honnai bedair blynedd yn ôl—unwaith eto, fe ddywedodd, yn ei geiriau ei hun, fod— plentyn o'r cefndir tlotaf yng Nghymru'r Blaid Lafur yn llawer llai tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol na phlant o gefndiroedd tebyg yn Lloegr.
Cau'r dyfyniad. Ddirprwy Lywydd, a dyfynnu o araith Ysgrifennydd y Cabinet yn 2014 unwaith eto:
Yn rhy aml, mae ein cenedl wych sy'n meddu ar gymaint o bobl dalentog ac ysbryd cymunedol mor ardderchog, yn rhy aml yn cael cam gan Lywodraeth ddi-fflach sy'n methu cyflawni dro ar ôl tro.
Rwy'n cytuno â hynny. Mae'n drychineb i Gymru fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dewis ymuno â'r Llywodraeth aflwyddiannus a di-fflach hon er mwyn ei chadw mewn grym. Diolch.
'Dim gwelliannau arwyddocaol ym maes addysg yng Nghymru tan 2022'. Nid fy ngeiriau i ond geiriau prif arolygydd ysgolion Cymru. Nawr, efallai na fyddai hynny'n rhy ddrwg pe bai'r system addysg yng Nghymru yr orau yn y byd, neu hyd yn oed yr orau yn Ewrop. Byddai'r orau yn y DU ein gwneud yn llai pryderus ein bod yn wynebu pedair blynedd o ddiffyg cynnydd. Ond nid yw hynny'n wir. O dan y Llywodraeth Lafur hon, sy'n siarad am gydraddoldeb, gan Gymru y mae'r system addysg waethaf yn y DU.
Ar 1 Rhagfyr 2016, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wrth The Guardian fod yna ymdeimlad newydd o ddiben, a mynegodd ei siom na wnaethom yn dda iawn yn y safleoedd PISA. Ffordd gwmpasog iawn o ddweud, 'Nid ydym yn gwneud yn dda iawn yn yr ystafell ddosbarth' yw honno, 'Nid ydym yn gwneud yn dda iawn dros ein teuluoedd a'u plant' ac 'Nid ydym yn gwneud yn dda iawn dros ein heconomi sydd angen gweithwyr ac entrepreneuriaid sydd wedi cael addysg'. Sut y gallwn ddenu teuluoedd ifanc, uchelgeisiol i Gymru pan fydd arbenigwr yn dweud wrthynt na fydd y system addysg aflwyddiannus yn gwella am bedair blynedd arall fan lleiaf?
Rydym yn brin o feddygon a gweithwyr proffesiynol eraill addysgedig, ond nid ydym byth yn mynd i allu denu'r rheini sydd wedi elwa o addysg dda ac eisiau yr un fath i'w plant i ddod â'u sgiliau a'u teuluoedd yma. Pa gyngor fyddai'r Llywodraeth yn ei roi i rieni sy'n ystyried symud i Gymru—'Peidiwch â thrafferthu am y pedair blynedd nesaf'? Cyfeiriai'r erthygl yn 2016 at y degawd blaenorol a gollwyd, ac eto siarad yn unig am ymdeimlad newydd o ddiben a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet. Wel, roedd hynny bron ddwy flynedd yn ôl, a beth oedd canlyniadau'r ymdeimlad newydd hwnnw o ddiben dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet? Gadewch i ni glywed geiriau'r prif arolygydd ysgolion unwaith eto: 'Dim gwelliannau arwyddocaol ym maes addysg yng Nghymru tan 2022'.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog wedi cynhyrchu llif ymddangosiadol ddiddiwedd o ddatganiadau'n cyhoeddi y bydd arian yn cael ei ddyrannu i brosiectau amrywiol a chafodd nifer dda o siopau siarad eu creu. Ond sut y gallwn fod yn hyderus y bydd y newidiadau hyn yn gweithio? Mae'r Llywodraeth Lafur wedi bod yn rhedeg addysg ers dros 20 mlynedd ac wedi bod yn methu ers y diwrnod cyntaf. Pa esgus sydd yna dros ddegawdau o fethiant? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ei egluro? Rwy'n amau. Rhaid inni gael gwybod bod y Llywodraeth yn gwybod beth sydd wedi bod yn mynd o'i le er mwyn inni allu bod yn hyderus y byddant yn datrys y problemau, ond mae gwelliant Llafur yn dangos nad oes gennym unrhyw reswm dros gredu bod Llafur yn deall y broblem. Ac felly, maent yn analluog i'w datrys. Gallaf ddweud o ymateb Ysgrifennydd y Cabinet nad yw'n credu bod yna broblem, ond rwy'n siŵr y caf glywed ganddi ar hynny mewn munud.
Maent yn dweud bod y perfformiad wedi bod yn sefydlog—ydy, nid yw wedi newid o fod yn wael; mae'n gadarn wael. Felly, bydd UKIP yn cefnogi'r cynnig hwn heb ei ddiwygio. Efallai y bydd Llafur yn teimlo nad oes angen iddynt wneud llawer â'r portffolio y maent wedi'i ddympio ar y Democrat Rhyddfrydol sy'n fwch dihangol iddynt, ond mae gweddill Cymru yn anghytuno. Rydym wedi blino ar Lywodraeth sy'n mynd ati'n systematig i ddefnyddio lansiad menter newydd fel esgus dros berfformiad gwael yn flaenorol ac fel ffordd o ddargyfeirio beirniadaeth gyfiawn. Rhowch y gorau i siomi ein pobl ifanc a dechreuwch fod yn rhan o'r gwaith o adeiladu eu dyfodol a dyfodol economi Cymru. Ariannwch addysg yn briodol a pheidiwch â derbyn na fydd dim yn gwella tan 2022—mae hynny'n llawer rhy hwyr i filoedd o bobl ifanc. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio y gwnewch chi faddau imi am fy hyfdra yn dechrau gyda newyddion da, oherwydd mewn gwirionedd, mae yna rywfaint o newyddion da allan yno. Gwn ein bod wedi taro ar ein gilydd yn y ffreutur yn ystod toriad yr haf, sy'n profi bod Aelodau'r Cynulliad yn parhau i weithio drwy'r hyn y mae'r byd y tu allan yn parhau i'w alw'n gyfnod y gwyliau, ac fe eglurais fod fy nith Nia ar fin cael ei graddau Safon Uwch a'i bod hi wedi sefyll arholiadau mewn pynciau STEM. Roeddem yn siarad am yr angen i annog disgyblion i ymgymryd â her pynciau STEM, ac rwy'n falch o ddweud ei bod wedi cael y graddau ac wedi cael lle yn ei dewis cyntaf, sef Prifysgol East Anglia, i astudio peirianneg amgylcheddol. Felly, mae hi'n mynd i Norwich ddydd Sadwrn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom am anfon ein dymuniadau gorau i'r holl bobl ifanc sy'n cychwyn ar y cam mwyaf cyffrous hwn yn eu bywydau. Maent yn dangos potensial ein pobl ifanc, ac wrth gwrs, mae hi bob tro'n drasiedi pan nad ydym yn cyrraedd y lefel honno lle gall y nifer fwyaf posibl o'n pobl ifanc gael y mathau hynny o brofiadau bywyd a dechrau cyrraedd eu gwir botensial.
Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn herio ein hunain o ran y safonau a gyflawnwn ym maes addysg, a chredaf ei bod yn briodol inni edrych ar ganlyniadau'r arholiadau, edrych ar PISA, ac annog y Llywodraeth i gael strategaeth sydd o ddifrif yn newid pethau fel y gallwn fod ar y blaen yn y Deyrnas Unedig unwaith eto, neu efallai yn Ewrop a'r byd. Pam lai? Dyna'r math o uchelgais a ddylai fod gennym, fel bod cenedlaethau'r dyfodol yn siarad am ein system addysg yn y ffordd yr arferai llawer o bobl siarad am yr athrawon a gweithwyr proffesiynol niferus a gâi eu cynhyrchu gan y system addysg yng Nghymru genedlaethau yn ôl. Ac rwy'n credu mai dyna sut yr ydym eisiau i weddill y DU siarad amdanom.
A gaf fi ddweud bod fy ymrwymiad penodol i i'r sector addysg ym maes anghenion arbennig? Rwy'n gadeirydd corff llywodraethu Ysgol Meadowbank, sef ysgol gynradd ar gyfer plant ag anawsterau dysgu iaith a lleferydd ac anableddau ehangach yn ogystal bellach. Ac o ran y ddadl y prynhawn yma, rwy'n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Headlands, sef ysgol i bobl ifanc ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol sylweddol. Yn dechnegol, ysgol annibynnol yw hi sy'n cael ei rhedeg gan yr elusen Gweithredu dros Blant, ond mewn gwirionedd mae'n darparu lleoedd ar gyfer sector y wladwriaeth. Credaf ei bod yn enghraifft wirioneddol ddisglair o'r hyn a gyflawnir gan ddisgwyliadau uchel, oherwydd ceir diwylliant o gyflawniad a disgwyliadau uchel yno. Ein harwyddair yw 'Disgwyliadau yw popeth', ac rydym yn annog pobl ifanc i sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch, ac rwy'n falch o ddweud y bydd rhai ohonynt yn ein gadael yn awr ac yn symud ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch. Dyma'r math o ganlyniadau yr ydym am eu gweld, oherwydd dylem weld y bobl ifanc hyn fel rhai sy'n llawn o botensial, a pheidio â gweld eu hanhawster penodol fel rhywbeth sy'n eu diffinio.
Credaf fod grwpiau eraill yn allweddol yma o ran disgwyliadau: rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim—mae angen inni wneud yn llawer gwell ar gyfer y grŵp hwnnw o bobl ifanc—a hefyd, plant sydd wedi cael profiad o ofal. Nid wyf am ganolbwyntio ar hynny y prynhawn yma, ond yn amlwg maent mewn categori tebyg. Unwaith eto, credaf fod yn rhaid i'n disgwyliadau fod yn uwch pan fyddwn yn gosod ein polisïau a'r hyn a ddisgwyliwn gan ysgolion: pa fecanweithiau cymorth a ddylai fod ganddynt ar waith? Sut y maent yn goresgyn y diffygion amlwg y bydd rhai yn yr ardaloedd hynny'n eu profi, fel lle gallant fynd i wneud gwaith cartref a chael mynediad at offer modern? A hyd yn oed ein pobl ifanc na allant ddibynnu ar eu rhieni neu eu gwarcheidwaid i helpu gyda'u gwaith cartref mathemateg neu rywbeth. Mae'n brofiad cyffredin, a dylem allu sicrhau, yn ein system, fod myfyrwyr o'r fath yn cael y cymorth y mae eraill yn ei gael pan fydd ganddynt fynediad drwy ffrindiau a pherthnasau at y math hwnnw o arbenigedd.
Felly, credaf ei fod yn hynod bwysig, a hoffwn weld pethau fel proses arolygu Estyn yn cael ei haddasu fel ein bod yn rhoi pwyslais go iawn ar is-setiau mewn perthynas â pherfformiad mewn arholiadau, megis anghenion arbennig—y darperir ar eu cyfer yn y brif ffrwd; dyna gyfeiriad cynyddol ar gyfer polisi cyhoeddus ac un rwy'n fras o'i blaid—ac fel y dywedais, prydau ysgol am ddim a phlant sydd wedi cael profiad o ofal. Yn anad dim, nid wyf am weld diwylliant yn datblygu yng Nghymru lle mae rhai myfyrwyr yn cael eu hannog rhag sefyll arholiadau TGAU neu Safon Uwch am fod hynny'n cael ei weld fel ffordd o guddio'r perfformiad cyffredinol go iawn yn y gymuned ysgol honno.
Y broblem gyda siarad ar y pwynt hwn mewn unrhyw ddadl—wel, hon yn sicr—yw bod llawer o bethau wedi cael eu dweud. Mae hanner yr Aelodau eisoes wedi rhoi cic i fwch dihangol y Democratiaid Rhyddfrydol, neu beth bynnag. Roeddent yn eiriau anffodus, ac nid fy ngeiriau i oeddent, Kirsty, ond geiriau Aelodau eraill. Ac yn awr mae David Melding wedi tynnu'r mat cadarnhaol o dan fy nhraed drwy sôn am rai o'r pethau da sydd wedi digwydd yng Nghymru. Felly, ychydig o amser sydd ar ôl gennyf i ychwanegu at y sylwadau da a aeth o'r blaen, heblaw dweud yr hoffwn innau hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i fyfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed i gael eu graddau yr haf hwn, yn ogystal â'r athrawon a'r rhieni a'u cefnogodd. Rwy'n gobeithio o leiaf fod y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi cael yr hyn oedd ei angen arnynt i symud ymlaen i gam nesaf eu gyrfaoedd. Rwy'n falch iawn o glywed am eich perthynas, David Melding, ac yn dymuno'n dda iddi ym Mhrifysgol East Anglia.
Er bod nifer o ganlyniadau ar draws Cymru wedi bod yn siomedig, hoffwn dynnu sylw at rai o'r canlyniadau mewn ysgolion yn fy etholaeth fy hun, gan gynnwys fy hen ysgol, Croesyceiliog, a aeth yn groes i'r duedd genedlaethol ac a welodd welliant yng nghanran y myfyrwyr a gafodd bum gradd A* i C gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Yn yr arholiadau Safon Uwch, gwelodd Ysgol Gyfun Trefynwy ac Ysgol y Brenin Harri VIII gynnydd yng nghanran y myfyrwyr a gafodd dair gradd A* i C, gan godi i 75 y cant a 55 y cant yn eu tro, yn ogystal â gwelliant addawol yn y gyfradd lwyddo yng Nghas-gwent. Gwn fod gennych yr holl ffigurau hyn ar flaen eich bysedd, felly rydych yn gwybod am y rhain, Ysgrifennydd y Cabinet. [Torri ar draws.] Rwy'n mynd i roi'r gorau iddi yn y fan honno gyda'r ysgolion. Yn gyffredinol, gwelodd sir Fynwy welliannau ym mhob un o'r dangosyddion allweddol ar gyfer Safon Uwch, ond ar lefel TGAU, roedd ysgolion uwchradd sir Fynwy yn dilyn y duedd genedlaethol a gwelwyd gostyngiad yn y mesur pum gradd A* i C, felly credaf yr hoffwn glywed—a hoffai pawb ohonom glywed—gan Ysgrifennydd y Cabinet beth yw rhai o'r rhesymau pam y teimlwch ein bod yn gweld y dirywiad hwn ledled Cymru ar y lefel honno o gymhwyster.
O gofio ein bod yn ymdrin â chymwysterau newydd, sut y gallwch ein sicrhau y caiff safonau eu cynnal o flwyddyn i flwyddyn, a bod C a gafwyd yn 2016 o safon gyfartal i'r hyn a gafwyd yn 2017 neu 2018? Mae yna bryderon go iawn mewn ysgolion nad yw'r clwydi ar yr un uchder yn union. Os mai canfyddiad yn unig yw hynny, canfyddiad ydyw, ond mae'n un sydd angen ei ystyried a rhoi sylw iddo er mwyn inni allu cael hyder yn y system. Rwy'n sicr y byddech yn cytuno bod angen inni gael cymwysterau trylwyr a chadarn. Rhaid i raddio fod yn deg i bob grŵp blwyddyn hefyd fel y gall ein heconomi gael hyder yn yr hyn y mae'r graddau hynny'n ei olygu.
Nawr, fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddyn rhesymol ac yn debyg i David Melding, rhaid imi ddweud bod yna feysydd sy'n effeithio ar safonau mewn ysgolion lle mae Llywodraeth Cymru yn haeddu rhywfaint o glod. Yr wythnos diwethaf, ymwelodd y Prif Weinidog ag ysgol newydd sbon, Ysgol Gyfun Mynwy—prosiect gwerth £45 miliwn ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy a arweinir gan y Ceidwadwyr. Gwn fod yr hyn a gyflawnwyd yno wedi creu argraff ar y Prif Weinidog—adeilad syfrdanol ac enghraifft o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdod lleol i gyflawni yn ôl y model ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rwyf hefyd yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyfraniad pellach i fy awdurdod lleol yn y rownd nesaf o gyllid ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain mewn ymgais i uwchraddio peth o'r hyn sy'n weddill o rai o'r adeiladau gwaethaf, yn enwedig yn y sector uwchradd. Felly, edrychaf ymlaen at glywed am eich cynlluniau i barhau'r broses o ailgynllunio addysg drwy addasu adeiladau ein hysgolion.
Yn olaf, hoffwn ddweud ychydig am y bwlch cyllido y cyfeiriodd Aelodau eraill ato, ac rwy'n croesawu'r ffaith fod yna dderbyniad petrus o'r diwedd mewn gwelliant gan y Llywodraeth fod yna fwlch cyllido, er eich bod yn honni ei fod wedi lleihau, nid oherwydd unrhyw gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru, ond oherwydd penderfyniadau a wnaethpwyd yn Lloegr. Gydag addysg, nid wyf yn credu ei fod yn fater o daflu'r baich a beio Llywodraeth y DU, fel y clywn yn rhy aml. Yn amlwg, mae problem gydag arian yn gyffredinol, ond mae'n rhaid inni wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd gennym a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei dargedu yn y ffordd orau. Erys y ffaith bod bwlch cyllido wedi bod, ac yn parhau i fod, sy'n gannoedd o bunnoedd y disgybl, ac sydd, mewn ysgol gynradd gyfartalog o 210 o ddisgyblion, yn gallu golygu cymaint â £100,000 y flwyddyn. Mae hynny'n golygu athrawon ychwanegol, cynorthwywyr ychwanegol, offer technoleg gwybodaeth ychwanegol, yr holl bobl sy'n cyfrannu at y canlyniadau positif wrth i bobl ifanc gyrraedd eu potensial llawn. Dyna'r realiti ar lawr gwlad. Mae fy awdurdod lleol fy hun wedi cynyddu gwariant ysgolion fel cyfran o'i gyllideb, er iddo ddioddef rhai o'r toriadau dyfnaf o blith holl awdurdodau lleol Cymru o ran y swm cyffredinol—y grant cynnal refeniw—a gwyddom fod tanariannu cynghorau gwledig yn parhau i fod yn broblem. Fe wyddoch yn iawn, a chithau'n dod o etholaeth wledig, beth y gall hynny ei olygu.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, fel y clywsom yn y ddadl flaenorol, rydym yn aml yn clywed llawer o eiriau yn y Siambr hon sydd wedi'u bwriadu'n dda iawn, ond i aralleirio Lee Waters yn y ddadl flaenorol, rwy'n credu bod yr amser i siarad yn dod i ben yn gyflym ac mae gwir angen inni weld gweithredu a gwelliannau yn y meysydd hyn.
Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Fel cyn-athrawes, rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â rhoi cyfle i ddisgyblion fanteisio ar eu doniau a'u galluogi i gyflawni eu huchelgeisiau. Er fy mod yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud, mae gennym lwybr hir i'w droedio o hyd, a rhaid inni gael strategaeth ymarferol ar waith er mwyn sicrhau llwyddiant i ddisgyblion Cymru, nid yn unig ar gyfer y genhedlaeth hon, ond ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddilyn. Mae'n ffaith mai canlyniadau TGAU y flwyddyn hon yw'r rhai gwaethaf ers degawd, ac fe sylwyd bod newidiadau i'r cwricwlwm wedi'u gohirio ymhellach. Yn ôl pennaeth Estyn, ni fyddwn yn gweld unrhyw gynnydd sylweddol tan ar ôl 2022, a theimlaf fod hynny'n ei gadael hi'n rhy hwyr o lawer i'r cohort presennol o ddisgyblion. Y genhedlaeth bresennol o ddisgyblion yw ein dyfodol, a rhaid inni sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i roi pob cyfle iddynt lwyddo yn eu huchelgeisiau. Y bobl ifanc hyn yw ein meddygon, ein nyrsys, ein rhaglenwyr cyfrifiadurol, ein gwyddonwyr data a'n harweinwyr busnes yn y dyfodol. Os nad ydym yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol iddynt, sut y maent yn mynd i wireddu eu breuddwydion a'u huchelgeisiau? Heb y sgiliau hyn, bydd ein heconomi'n dioddef, a bydd ein sector iechyd a gofal cymdeithasol yn brin o staff, gan ychwanegu mwy o bwysau ar amgylchedd sydd eisoes dan bwysau.
Addysg yw carreg sylfaen ein cenedl ac mae llwyddiant ein heconomi yn dibynnu ar lwyddiant ein cyflawniadau addysgol a chyraeddiadau cenedlaethau'r dyfodol. Rydym wedi mynd i ganolbwyntio gormod ar gyrraedd targedau artiffisial yn hytrach na chanlyniadau. Yr wythnos hon, amlygodd y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau fod pwysau targedau yn arwain at dynnu disgyblion oddi ar gofrestri ysgolion fel nad yw eu graddau'n cyfrif tuag at fesurau perfformiad yr ysgol. Mae hyn yn warthus, a diolch byth mae Llywodraeth Cymru wedi nodi na fydd hyn yn cael ei oddef.
Fodd bynnag, dyma'r sefyllfa a grëwyd. Mae athrawon dan bwysau aruthrol i gyrraedd targedau perfformiad er gwaethaf cyllidebau sy'n crebachu. Mae angen inni symud oddi wrth fesurau perfformiad artiffisial a chanolbwyntio ar ddarparu system addysg sy'n canolbwyntio ar anghenion y plentyn. Rhaid inni gael cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar anghenion ein cenedl yn ogystal â'r plentyn, ac yn anad dim, rhaid inni sicrhau bod gan ysgolion adnoddau i ddiwallu'r anghenion hynny.
Mae'r canlyniadau TGAU eleni yn ysgytwad, ond maent hefyd yn gyfle i edrych ar bethau mewn ffordd wahanol, a gweithio ar bethau nad ydynt wedi bod mor llwyddiannus ag y dymunwn iddynt fod, o bosibl. Felly mae gennym gyfle gwych yma, ac fel rhywun sy'n credu'n gryf mewn datganoli, ac fel cyn-athrawes, credaf mewn rhoi cyfle i'n pobl ifanc. Mae hyn yn ein dwylo ni. Dewch, gadewch inni gyd gydweithio a rhoi'r cyfle y maent yn ei haeddu i bawb fel y gallwn oll weithio gyda'n gilydd i sicrhau canlyniad cadarnhaol i bawb. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn ôl ym mis Awst, cefais y fraint o ddathlu canlyniadau arholiadau gyda'r dysgwyr yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ar gyfer Safon Uwch ac Ysgol Gorllewin Mynwy ar ddiwrnod y canlyniadau TGAU. Hoffwn longyfarch nith David. Fel myfyriwr STEM, rhagwelais y byddai'n gwneud yn dda, ac yn amlwg, mae hi wedi gwneud yn dda, a gwn fod gan Aelodau Cynulliad eraill yn y Siambr ddiddordeb uniongyrchol yn y diwrnod canlyniadau TGAU, a gwn fod ganddynt lawer i'w ddathlu yn eu teuluoedd eu hunain. Rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau'n dymuno llongyfarch dysgwyr ledled Cymru ar eu cyflawniadau aruthrol eu hunain ac yn cytuno â mi pan fanteisiaf ar y cyfle hwn i ganmol ein hathrawon am eu gwaith caled ym mhob maes addysg ac yn arbennig y rhai sydd wedi gweithio mor ddiflino i addasu i newidiadau wrth gyflwyno'r cymwysterau TGAU newydd, gan gynnwys y 15 cymhwyster a ddyfarnwyd am y tro cyntaf yr haf hwn.
Rhaid imi gyfaddef, Ddirprwy Lywydd, fy mod wedi fy siomi wrth ddarllen cynnig y Ceidwadwyr, sy'n llwyr anwybyddu'r pethau cadarnhaol yn y canlyniadau yr haf hwn. I ddechrau, maent yn anwybyddu'r canlyniadau Safon Uwch eleni'n llwyr am nad yw hynny'n cyd-fynd â'u naratif. Gobeithio y byddant yn croesawu'r ffaith bod 76.3 y cant o ddysgwyr yng Nghymru wedi cael gradd A* i C yn eu Safon Uwch, ac mai dyna'r ffigur uchaf ers 2009. Gobeithio y byddant hefyd yn croesawu'r gyfradd uchaf erioed o fyfyrwyr a gafodd A* yn eu Safon Uwch. Yn wir, o ran perfformiad A* i A Safon Uwch, dim ond rhanbarth Llundain a de-ddwyrain Lloegr sy'n gwneud yn well na Chymru.
O ran TGAU, mae'n gywir wrth gwrs, a fi yw'r cyntaf i gydnabod, fod gostyngiad wedi bod yn y canlyniadau cyffredinol o gymharu â'r llynedd. Ni fyddaf yn derbyn, ac nid wyf yn derbyn, fod gostyngiad wedi bod yn y safonau. Y gwrthwyneb sy'n wir. Rwyf wedi dweud yn glir y bydd y Llywodraeth hon yn cefnogi pob un o'n dysgwyr. Ni ddylem byth ostwng ein disgwyliadau ar gyfer unrhyw un o'n pobl ifanc, ni waeth beth fo'u cefndir. A dyna pam nad wyf am ymddiheuro am ddal i bwyso yn hytrach na dewis y llwybr hawdd a llaesu dwylo.
Rwy'n croesawu'r camau cryf gan ysgolion wrth newid o wyddoniaeth alwedigaethol i TGAU gwyddoniaeth. Anelu am gymwysterau galwedigaethol yn 16 oed, fel BTEC gwyddoniaeth, yw'r llwybr cwbl gywir ar gyfer rhai o'n dysgwyr yng Nghymru. Ond nid yw'n dderbyniol i mi, nac i eraill yn y Siambr heddiw rwy'n gobeithio, fod yr ysgolion wedi meddwl ei bod hi'n briodol i 40 y cant o ddysgwyr ddilyn cwrs galwedigaethol. Efallai fod hyn wedi sicrhau'r canlyniadau a ddymunir iddynt o ran mesurau perfformiad ysgol, ond ni ddylai hynny byth bythoedd ddod o flaen buddiannau dysgwyr. Ac rydych chi a minnau, David, yn cytuno ar y pwynt hwnnw.
Rwy'n falch ein bod wedi gweld cynnydd o 50 y cant eleni yn nifer y myfyrwyr a gofrestrwyd ar gyfer TGAU gwyddoniaeth—rwy'n ei ddweud eto: 50 y cant yn fwy o gofrestriadau ar gyfer TGAU gwyddoniaeth—gyda mwy o'r ymgeiswyr hynny'n ennill gradd A* i C. Ac mae hefyd yn braf iawn gweld bod y nifer a gofrestrwyd ar gyfer gwyddorau unigol—bioleg, cemeg a ffiseg—wedi codi dros 10 y cant. Nawr, bydd cynnydd mor enfawr yn y cohort yn ystumio'r canlyniadau wrth gwrs. Roedd pawb ohonom yn gwybod y byddai'r penderfyniad anodd hwn yn ei gwneud hi'n haws i'r gwrthwynebwyr feirniadu a chamgyflwyno'r canlyniadau cyffredinol. Mae'n benderfyniad anodd, ond mae hefyd yn benderfyniad cywir—codi safonau a gwella'r cyfle i bawb o'n dysgwyr ac yn bennaf oll, i rai o gefndir tlotach. Mae'r cam hwn, ochr yn ochr ag eraill, megis rhoi diwedd ar y defnydd amhriodol o gofrestriadau cynnar, yn ei gwneud hi'n anodd ffurfio cymariaethau ystyrlon. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i gymharu canlyniadau eleni gyda blynyddoedd blaenorol. Nawr, nid fy marn i yw hynny—dyna farn y rheoleiddiwr annibynnol, Cymwysterau Cymru, a ddisgrifiodd y broses o wneud cymariaethau fel un 'or-syml', oherwydd y newid sylweddol ym maint a natur y cohort, heb sôn am y newidiadau i'r arholiadau eu hunain.
A rhaid imi ddweud, cefais fy nrysu braidd gan ymagwedd y llefarydd Ceidwadol newydd. Mae'n ymddangos ei bod hi'n methu deall natur unedol ein cymwysterau TGAU gwyddoniaeth newydd. Mae hi eisiau parch cydradd rhwng cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau academaidd, ond wedyn mae'n bwrw iddi i feirniadu gostyngiad yn nifer y cofrestriadau Safon Uwch. Gadewch inni fod yn gwbl glir pam fod cwymp yn nifer yr ymgeiswyr Safon Uwch—pan fydd gostyngiad ym maint y cohort, yn syml iawn, bydd yna lai o fyfyrwyr o'r oedran hwnnw yn ein hysgolion a'n colegau. Ac i'r myfyrwyr a oedd yn cael trafferth gyda Safon Uwch am eu bod wedi cael eu gorfodi i ddilyn cyrsiau Safon Uwch, symud at gymwysterau mwy galwedigaethol yw'r peth hollol iawn i'w wneud. Felly, ni allwch ddweud ar y naill law eich bod yn flin nad yw myfyrwyr llai galluog yn gwneud Safon Uwch mwyach, a galw wedyn am barch cydradd. Rydych yn methu'n llwyr â deall hefyd beth yw effaith barhaus cofrestriad cynnar ar ffigurau cyffredinol, ond rydym wedi newid y polisi hwnnw. Rydym hefyd yn newid mesurau perfformiad i'r union system rydych chi newydd alw amdani sy'n edrych ar ymagwedd fwy cyfannol tuag at y modd y byddwn yn barnu ein hysgolion. Rydym yn buddsoddi mewn arweinyddiaeth, rydym yn buddsoddi yn ein plant mwy galluog a thalentog ac rydym yn gwario mwy ar y grant amddifadedd disgyblion nag erioed o'r blaen i fynd i'r afael â phryderon y grwpiau agored i niwed y soniodd David Melding amdanynt yn awr. A gadewch i mi fod yn hollol glir: bydd arian a dderbyniwyd gan y Llywodraeth hon ar gyfer cyflogau athrawon yn cael ei wario ar gyflogau athrawon.
Nawr, nonsens yw'r syniad ein bod rywsut yn eistedd yn ôl a gwneud dim ynglŷn ag ysgolion sy'n peri pryder. Y rheswm pam y gwn beth yw canlyniadau Ysgol y Brenin Harri yn y Fenni yw ein bod yn edrych yn fanwl ar bob ysgol unigol. Awn yn ôl i wirio'r berthynas a gawsant gyda'u consortiwm rhanbarthol. Rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno adroddiad bob tro y byddant wedi defnyddio hysbysiad statudol ar gyfer ysgol sy'n peri pryder, ac rwy'n cael adroddiadau rheolaidd er mwyn deall, gan bob awdurdod lleol a chonsortiwm, beth y maent wedi'i wneud i gefnogi'r ysgol sy'n destun mesurau arbennig. Ac os nad wyf yn fodlon ar yr ymateb hwnnw, rwy'n mynd yn ôl at y consortiwm rhanbarthol hwnnw ac rwy'n mynd yn ôl at yr awdurdod lleol hwnnw.
Mae cymaint y gallwn ei ddweud am y modd y disgrifiodd Michelle system addysg Cymru. Soniodd am feddygon. Sut y gallwn gael meddygon i ddod i Gymru? Wel, efallai y daw'r meddygon hynny o blith y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr o Gymru sydd wedi ennill lle mewn ysgol feddygol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Byddant yn dychwelyd i'r wlad hon i fod yn feddygon, fel y gall eu plant gael yn union yr un addysg ag y cawsant hwy ac a'u galluogodd i fynd i ysgol feddygol. A bwch dihangol? Bob dydd, rwy'n falch o wneud y gwaith hwn, ac rwy'n falchach byth wrth gofio fy mod, drwy gymryd y swydd wedi eich cadw chi, a'r sylwadau niweidiol a fynegwyd gan eich arweinydd ddoe, rhag dod unman yn agos at y Llywodraeth.
O ran gwelliannau Plaid Cymru, byddwn yn cefnogi'r ddau ohonynt. Rwyf wedi ymrwymo, Llyr, i barhau i fuddsoddi yn ein gweithlu i sicrhau bod gennym weithlu addysg cyfan sy'n cael digon o hyfforddiant o safon uchel. Dyfarnwyd £5.85 miliwn o ddyraniad cyllid dysgu proffesiynol i'r consortia rhanbarthol yn ystod 2017-18 i gefnogi gwaith arloeswyr dysgu proffesiynol ac i wella gallu consortia i ddatblygu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol. Rydym hefyd wedi rhyddhau £5.5 miliwn pellach yn ystod 2018-19 i ddatblygu'r dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn gallu cynllunio'n briodol ar gyfer newid y cwricwlwm a thu hwnt.
Fel y gwyddoch—mae'n rhywbeth y mae eich plaid chi a fy mhlaid i wedi ymgyrchu drosto ers nifer o flynyddoedd—bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb dros bennu cyflog ac amodau athrawon o ddiwedd y mis hwn. Rwy'n disgwyl cael adroddiad pwysig yr wythnos hon gan yr Athro Mick Waters gydag opsiynau ar sut y gallwn ddefnyddio'r pwerau newydd hynny i wobrwyo ein hathrawon yn well a denu recriwtiaid o ansawdd uchel i'r proffesiwn. Rwyf am ailadrodd un peth fodd bynnag, sef nad yw hyn yn ymwneud yn unig ag arian a chyflogau. Caiff y rhai sydd am weithio gyda'n plant eu hysgogi gan rywbeth cymaint mwy na hynny—mae yna ffyrdd gwell o ddod yn gyfoethog. Cânt eu hysgogi gan yr awydd i fod yn rhan o'r gweithlu sector cyhoeddus i wneud rhywbeth anhygoel ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc.
Felly, rhaid inni edrych hefyd ar fater amodau. Mae cymryd cyfrifoldeb am gyflog ac amodau athrawon yn gam hynod o bwysig yn ein system addysg. O'r cychwyn cyntaf, rydym am wneud yn siŵr fod gennym system sy'n seiliedig ar werthoedd tegwch a rhagoriaeth, ac ymrwymiad i wasanaeth addysg cyhoeddus cynhwysol. Credaf fod hyn yn hanfodol i gefnogi a chryfhau ein proffesiwn addysgu.
I gloi, Lywydd, nid ydym yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, sydd ond yn camliwio ac yn bychanu'r newidiadau a'r cynnydd a wnawn yma yng Nghymru. Yn sicr, nid wyf am wrando ar unrhyw bregeth ganddynt ar faterion cyllid.
Aeth Mohammad Asghar i drafferth fawr i ddyfynnu'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, felly gadewch imi ddweud wrtho beth y mae'r sefydliad hwnnw yn ei ddweud am ein system. Rydym yn gweld cynnydd mewn nifer o feysydd polisi a newid yn y dull o wella ysgolion yng Nghymru o gyfeiriad polisi tameidiog a thymor byr tuag at un sy'n cael ei arwain gan weledigaeth hirdymor.
Rwy'n gwybod—rwy'n gwybod—nad oes unrhyw le i laesu dwylo, ond gan weithio gyda'r sector, byddwn yn parhau ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol ac sy'n ennyn hyder y cyhoedd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ymateb i'n dadl, er fy mod yn anghytuno i raddau helaeth, wrth gwrs, â'r hyn a ddywedodd? Agorwyd ein dadl, wrth gwrs, gan Suzy Davies, ein llefarydd newydd yn y rôl hon, ac roeddwn yn meddwl ei bod hi wedi gwneud gwaith rhagorol, er gwaethaf barn ddifrïol Ysgrifennydd y Cabinet. Yn sicr, rwy'n ei chroesawu i'r rôl ac yn gwybod y bydd hi'n hyrwyddwr ardderchog ar ran y system addysg yng Nghymru ac y bydd yn brwydro hyd eithaf ei gallu i'w gwella bob cam o'r ffordd.
Roeddwn yn credu ei bod hi wedi nodi'n glir iawn beth yw realiti'r sefyllfa a'r heriau sy'n ein hwynebu. Er na fyddech yn dychmygu hynny, o ystyried araith Ysgrifennydd y Cabinet yn awr, rydym wedi cael y set waethaf o ganlyniadau TGAU ers dros 15 mlynedd. Sut y mae hynny'n rhywbeth y gallwn fod yn falch ohono yma yng Nghymru? Roedd Ysgrifennydd y Cabinet fel pe bai'n awgrymu mai oherwydd ei bod hi wedi annog pobl rhag gwneud y cwrs BTEC gwyddoniaeth fel cwrs galwedigaethol ac wedi annog pobl i ddilyn TGAU gwyddoniaeth y digwyddodd hyn, ond nid yn y gwyddorau'n unig y gwelwyd gostyngiad yn y ffigurau. Gwelsom ganlyniadau gwaeth mewn mathemateg, canlyniadau gwaeth mewn Saesneg iaith a chanlyniadau gwaeth mewn Saesneg llenyddiaeth—tri phwnc rwyf wedi'u dewis ar hap. Felly, ni allwch awgrymu'n syml mai am eich bod yn annog mwy o bobl i ymgeisio am y cymwysterau academaidd hynny y digwyddodd hyn.
A dweud y gwir, rwyf wedi alaru ar glywed pobl yn difrïo cymwysterau galwedigaethol yn y Siambr hon. Rydym wedi clywed yr holl siarad am 'barch cydradd' gan y Llywodraeth yn y gorffennol, ac eto rydych wedi ceisio cymell ysgolion rhag annog pobl i ymgeisio am gymwysterau galwedigaethol priodol er mai dyna sydd orau ar gyfer y plant yn eu gofal.
Fi fyddai'r person cyntaf yn y Siambr hon i gydnabod gwaith caled athrawon ledled Cymru sy'n gwneud eu gorau i gynorthwyo dysgwyr i gyrraedd eu potensial. Hoffwn longyfarch y bobl ifanc hyn ledled Cymru hefyd, gan gynnwys fy merch a fy mab fy hun, a lwyddodd i gael graddau digon da yn eu TGAU a Safon Uwch eleni. Credaf hefyd ei bod yn briodol imi ddiolch i'r llywodraethwyr ysgolion sydd wedi cyfrannu at lwyddiant a gweddnewidiad llawer o'n hysgolion. Clywsom David Melding yn sôn am ei brofiad fel llywodraethwr ysgol, a gwn fod sawl un, gan fy nghynnwys i, hefyd yn llywodraethwyr ysgolion yn y Siambr hon. Ond gwirfoddolwyr yw'r bobl hyn, sy'n rhoi eu hamser eu hunain, gan ymroi i'w cymuned drwy wasanaethu ar gyrff llywodraethu'r ysgolion hynny, a hoffwn dalu teyrnged i bob un ohonynt.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn hoffi dewis a chymharu â Lloegr pan fo'n gyfleus iddi, ond nid yw'n hoffi gwneud cymariaethau â rhannau eraill o'r DU pan nad yw'n gyfleus iddi wneud hynny. Y gwir yw ein bod yn gwybod bod cyllid y disgybl yng Nghymru yn llai na'r hyn ydyw dros y ffin yn Lloegr. Mae canlyniadau'n deillio o hyn o ran y cyfleoedd i bobl ifanc gael yr adnoddau yn yr ysgolion hynny i allu cyrraedd eu potensial. Nid pethau rwyf fi neu unrhyw un arall ar y meinciau hyn yn eu dweud yw'r rhain; mae unigolion eraill, yr undebau athrawon, hefyd yn ychwanegu at y corws cynyddol o leisiau, a bod yn onest, sy'n dweud bod yn rhaid ichi wneud rhywbeth ynglŷn â hyn.
A rhaid imi ddweud, Suzy—. [Chwerthin.] A rhaid imi ddweud, Kirsty, maddeuwch imi—Ysgrifennydd y Cabinet—fod ychydig bach o wyneb gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn taro bargen—byddai'n well gennym weld Suzy yno—i ddod yn rhan o'r Llywodraeth ar y sail fod £100 miliwn ychwanegol yn mynd i gael ei fuddsoddi mewn addysg er mwyn gwella safonau ysgolion, a'i chwipio ymaith wedyn gan doriadau ar y llaw arall, oherwydd nid ydych wedi ychwanegu £100 miliwn at y gwariant dros y tymor hwn. Nid yw hynny'n digwydd o gwbl, ac os defnyddiwch eich cyfrifiannell, mae'n glir iawn na ddigwyddodd hynny oherwydd, wrth gwrs, mae'r gwariant wedi bod yn lleihau.
Mae gennyf lawer o gydymdeimlad, mewn gwirionedd, â'r hyn a ddywedodd Michelle Brown yn gynharach yn ei chyfraniad. Yn y pen draw, ein heconomi fydd yn talu'r pris am y methiant hwn yn y blynyddoedd i ddod. Os nad oes gennym weithlu addysgedig iawn sy'n addas ar gyfer y dyfodol, mae ein heconomi'n mynd i ddioddef. Ac yn ogystal, nid ydym yn mynd i ddenu pobl i mewn i greu cyfoeth yn ein gwlad os oes gennym system addysg wael, ac rydym yn mynd i atal pobl rhag aros yma hefyd os yw ein system addysg yn wael. Felly, mae'n rhaid i ni godi ein safonau. Rhaid inni wneud yn siŵr ei bod yn system well nag yw hi ar hyn o bryd.
Roedd Mohammad Asghar yn llygad ei le yn tynnu sylw at y methiannau yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn llygad ei le yn sôn am y dreftadaeth fendigedig sydd gennym yma yng Nghymru, o ran y mudiadau ysgol arloesol a sefydlodd Griffith Jones Llanddowror ac eraill yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Ond y realiti wrth inni edrych ar y safleoedd PISA, yw nad wyf yn siŵr beth fydd disgwyliad y Llywodraeth pan gyhoeddir y set nesaf o safleoedd, ond credaf fod yr uchelgeisiau'n go isel yn y Siambr hon gan nad oes neb yn teimlo'n hyderus iawn ein bod wedi llwyddo i newid y sefyllfa ers y set ddiwethaf o ganlyniadau.
A chlywais yr hyn a ddywedodd yr arolygiaeth—y prif arolygydd—na ddylem ddisgwyl unrhyw welliannau sylweddol tan 2022. Wel, a dweud y gwir, mae hynny'n rhy hir i'r plant sydd yn y system addysg ar hyn o bryd, fel y nododd Caroline Jones yn gwbl gywir. Rhaid inni fod yn fwy uchelgeisiol na gorfod aros pedair blynedd a phwyso'r botwm ailosod ar y pwynt hwnnw. Mae angen inni newid y sefyllfa hon yn awr ar gyfer y bobl ifanc hynny, oherwydd fel arall byddant yn genhedlaeth arall sydd wedi cael cam o ganlyniad i'r Llywodraeth flinedig hon dan arweiniad Llafur.
Credaf hefyd fod angen inni fyfyrio ar yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y DU, oherwydd mae'r sefyllfa'n gwella yn Lloegr mewn gwirionedd. Mae'r safonau'n codi. Maent yn dal eu tir o ran economi byd a thablau cynghrair. Ni yw'r unig rai sy'n mynd tuag yn ôl i raddau sylweddol. Ni yw'r unig un o bedair gwlad y DU sydd yn hanner gwaelod y gynghrair fyd-eang, ac nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn ymfalchïo ynddo.
Felly, erfyniaf arnoch, Ysgrifennydd y Cabinet, i gael mwy o arian gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn rownd y gyllideb ar gyfer y flwyddyn hon, i'w fuddsoddi yn ein hysgolion fel bod ganddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i allu gwella'r canlyniadau yn y blynyddoedd i ddod. Rwy'n eich annog i gyflymu'r gwaith o ddiwygio fel nad oes yn rhaid inni aros am bedair blynedd arall cyn inni weld y gwelliannau sydd eu hangen arnom. Rwy'n eich annog i roi hwb go iawn i'r athrawon hynny—nid yn unig yn ein hysgolion, ond hefyd yn ein colegau addysg bellach, y darlithwyr sydd wedi helpu i sicrhau canlyniadau TGAU a Safon Uwch boddhaol eleni—fel y gallwn ddechrau gweld y math o botensial sydd gennym yng Nghymru yn cael ei wireddu'n llawn. Oni welwn hynny, ni fydd y dyfodol i Gymru yn debyg i'r hyn y dylai fod.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.