Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 1 yn ffurfiol yn enw Paul Davies yn y ddadl a gyflwynodd UKIP y prynhawn yma mewn perthynas â stocio ein hardaloedd ucheldir a'r ddadl amaethyddol gyffredinol am y sector da byw yma yng Nghymru.
Rwy'n gresynu nad ydym yn gallu cefnogi'r cynnig oherwydd credaf mai proses negyddol yw dileu cynigion yn eu cyfanrwydd, ond teimlaf fod y cynnig a gyflwynwyd gennych yn llawer rhy eang inni ddod o hyd i unrhyw agwedd go iawn y gallem gefnogi safbwynt arni. Yn benodol, ceir rhai achosion lle mae cymhellion gwerth chweil ar waith i symud da byw o ardaloedd penodol oherwydd statws safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig er enghraifft, y ddadl dal carbon a manteision amgylcheddol eraill y gellir eu cyflawni yn rhai o'n hucheldiroedd.
Dyna pam rydym wedi cyflwyno gwelliant heddiw sy'n edrych ar ddarlun cyffredinol o ffermio da byw, ar ucheldir ac iseldir, oherwydd mae'r patrwm da byw hanesyddol yma yng Nghymru yn un cydgysylltiedig, lle na ellir rhannu'r ucheldir a'r iseldir. Weithiau, pan fyddwn yn trafod yn y Siambr hon, rwy'n teimlo ein bod yn ceisio rhannu'r diwydiant da byw yn sectorau penodol ar draul y sector arall. Ceir integreiddio sy'n rhan annatod o wead amaethyddiaeth Cymru a gwae inni chwalu hwnnw. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych, pan fyddwn yn sôn am amaethyddiaeth, ar ddull gweithredu cydgysylltiedig sy'n cynnwys yr ucheldir a'r iseldir yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y sector da byw yma yng Nghymru yn gryfach ac yn fwy gwydn, fel y gallwn ychwanegu mwy o werth at yr hyn y mae ein ffermydd da byw yn ei gynhyrchu ac yn y pen draw, cadw mwy o arian yn ein cymunedau gwledig ac yn anad dim, cynnig mwy o gyfle i bobl ifanc yn y gymuned amaethyddol, gydag chyfleoedd newydd mewn ffermydd ar hyd a lled Cymru. Ni all fod yn iawn ar hyn o bryd mai oedran cyfartalog ffermwyr yng Nghymru yw 61. Nid oes fawr o gyfle os o gwbl i ffermwyr ifanc ddod i mewn i'r diwydiant, a chyda Brexit, mae hynny'n cynnig cyfle—fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud, a bod yn deg—i ni allu saernïo polisïau sy'n hybu amaethyddiaeth yma yng Nghymru, polisïau sy'n benodol i Gymru ac i'r DU.
Ac yn sicr yn fy rôl newydd fel y llefarydd dros amaethyddiaeth a materion gwledig ar y meinciau Ceidwadol, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at edrych ar ffyrdd newydd o ddatblygu cymorth ar gyfer y diwydiant amaethyddol drwy ychwanegu gwerth at y cynnyrch gwych a gynhyrchwn. A dyna pam, ym mhwynt 4 y gwelliant sydd ger bron y Cynulliad heddiw, gofynnwn am eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â pha gynnydd y gallodd ei wneud ar ailgydbwyso'r ardoll hyrwyddo. Cafwyd dadl barhaus a thrafodaeth ers cryn dipyn o amser, oherwydd ni waeth faint o dda byw sydd gennym yn yr ucheldiroedd, boed yn ddefaid neu'n wartheg, ceir ardoll hyrwyddo sy'n gallu mynd yn ôl i mewn i'r diwydiant i hyrwyddo ac annog mwy o ddefnydd o gynnyrch Cymreig ac ar hyn o bryd, cynhyrchir y system honno yn y man prosesu, h.y. y lladd-dy, yn hytrach nag ar adeg magu. Ac felly, oherwydd natur y sector prosesu yma yng Nghymru a'r cyfle cyfyngedig, yn enwedig yn y sector gwartheg, i'r anifeiliaid gael eu prosesu yma yng Nghymru, caiff nifer o'r gwartheg y mae'r gymuned ffermio wedi colli chwys a dagrau yn eu pesgi ar gyfer y farchnad eu prosesu yn Lloegr a rhannau eraill o'r DU ac mae'r ardoll hyrwyddo honno'n aros o fewn yr awdurdodaeth honno yn hytrach nag yma yng Nghymru. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n anghyfiawnder sydd angen ei ailgydbwyso, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn defnyddio'r cyfle y prynhawn yma i roi sylw, gan ei fod yn ein gwelliant.
Y pwynt arall yr hoffwn ei wneud hefyd, fel y mae'r gwelliant yn crybwyll, yw natur y cymunedau yn yr ucheldiroedd o ran y ffordd y maent yn cefnogi economi ehangach cefn gwlad Cymru yn arbennig. Y sector twristiaeth, er enghraifft—fel y mae'r sawl a gynigiodd y cynnig wedi nodi, caiff £250 miliwn ei ychwanegu i'r diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru gan sector ucheldir ffyniannus gyda gweithgaredd yn ganolog iddo ac sydd â chymuned sy'n creu cyfoeth. Ac ni ddylem anghofio bod y sector da byw yma yng Nghymru yn cyfrannu at ddiwydiant bwyd-amaeth gwerth £6.9 biliwn sy'n cyflogi cynifer o bobl ar hyd a lled Cymru.
Rydym wedi mynd drwy 25 mlynedd o ddiwygiadau Ewropeaidd amrywiol, o ddiwygiadau MacSherry yn y 1990au cynnar, a aeth ati am y tro cyntaf i symud cymorthdaliadau cynhyrchu oddi wrth gynhyrchu da byw ac yn fwy tuag at—fel y bydd rhai o'r Aelodau yn gyfarwydd â hwy—y trefniadau neilltuo tir ac yn amlwg, y cynlluniau amgylcheddol a gyflwynwyd yn y 1990au a'r 2000au. Mae angen sicrhau cydbwysedd, ond buaswn yn awgrymu mai ffermwyr yw ffrindiau gwreiddiol ymgyrchwyr cyfeillion y ddaear, oherwydd, yn y pen draw, maent yn dibynnu ar y tir am eu bywoliaeth ac maent am weld amgylchedd cryf gyda rhagolygon amaethyddol da sy'n symud y genhedlaeth nesaf yn ei blaen.
Ac fel y dywedais, gallwn gael y ddadl am yr Undeb Ewropeaidd a chanlyniad y refferendwm yn y Siambr hon dro ar ôl tro, ond y ffaith amdani yw bod yna gyfle i greu pecyn cymorth amaethyddol Cymreig, pecyn cymorth amaethyddol gwledig sy'n cadw'r amgylchedd ac amaethyddiaeth i gydsymud gyda'i gilydd a datblygu atebion gorau'r byd. Rwy'n gobeithio y gallwn fanteisio ar y cyfleoedd hynny, ac yn y pen draw, y gallwn sicrhau dyfodol i bobl ifanc allu dod i mewn i'r diwydiant amaethyddol ac economi wledig sy'n ffynnu, sy'n ddynamig, ac sy'n cynnig y cyfleoedd hynny, a dyna pam rwy'n cynnig y gwelliant i'r cynnig yn enw Paul Davies y prynhawn yma.