7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Da byw yr Ucheldir

– Senedd Cymru ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 3 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:35, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen at eitem 7, sef dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar dda byw yr ucheldir, a galwaf ar David Rowlands i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6779 Gareth Bennett

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylid dychwelyd defaid, y cyfeiriwyd atynt yn y gorffennol fel cynrhon gwlanog, i fryniau Cymru.

2. Yn gresynu at y ffaith bod y penderfyniad i ddileu hawliau pori ar ucheldiroedd Cymru wedi arwain at ddifrod enfawr i ucheldiroedd Cymru, bywyd gwyllt a'r amgylchedd yn gyffredinol. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar unrhyw gymhellion sy'n annog symud da byw o ardaloedd yr ucheldir ac, yn lle hynny, darparu cymhellion i ailboblogi'r ardaloedd hynny â da byw.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:35, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau trwy ddweud na allaf gefnogi unrhyw un o'r gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig hwn, yn gyntaf oherwydd bod pob un yn dechrau gyda'r gosodiad twp hwnnw, 'Dileu popeth', sy'n golygu wrth gwrs y byddent yn dileu popeth rwy'n ei gyflwyno—sy'n safbwynt hollol wirion? Ond hefyd oherwydd nad oes unrhyw beth a osodir yn eu lle yn ymdrin â phrif fyrdwn fy nadl, sef effaith amgylcheddol dadstocio'r ucheldiroedd. Mae'r holl welliannau a gyflwynwyd yn ymdrin yn unig ag economeg yr ucheldir.

Mae fy nadl yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r cynrhon gwlanog yn ôl ar ein mynyddoedd. Yn dilyn y penderfyniad, dan law Elliot Morley a'r Farwnes Barbara Young bellach, i gychwyn polisi o gael gwared ar anifeiliaid sy'n pori—cyfeiriwyd at ddefaid fel 'cynrhon gwlanog'—oddi ar ein bryniau, proses a elwir yn gyffredinol yn ddad-ddofi tir, rydym yn gweld dinistrio amgylchedd ein hucheldir ac effaith drychinebus ar y bywyd gwyllt yn ein hucheldiroedd. Felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar unrhyw gymhellion i ffermwyr fynd â'u hanifeiliaid oddi ar y bryniau a gosod mesurau ar waith i wrthdroi'r polisi difeddwl hwn a rhoi camau ar waith ar unwaith i ailboblogi'r ardaloedd hyn.

Ceir corff sylweddol o dystiolaeth sy'n profi bod diboblogi ein bryniau yn y fath fodd yn cael effaith hynod o andwyol ar rywogaethau bywyd gwyllt ac amgylchedd cyffredinol ein mynyddoedd. Yn sgil symud da byw oddi ar yr ucheldir, mae twf rhedyn niweidiol wedi lledaenu ac uchder grug pori wedi cynyddu, i'r graddau nad yw grug mwyach yn cynnig cynefin da ar gyfer adar sy'n nythu ac nid yw rhedyn yn cynnig fawr o gynefin addas os o gwbl i unrhyw un o'n rhywogaethau bywyd gwyllt. Os ychwanegwn at hyn effaith bellach twf glaswellt heb ei reoli, rydym yn gweld cyfuniad o ffactorau sy'n effeithio'n sylweddol ar nifer ac amrywiaeth y rhywogaethau sy'n byw ar ein bryniau. Gwyddys hefyd fod y dŵr hynod wenwynig sy'n llifo o wreiddiau rhedyn yn effeithio'n andwyol ar ecoleg ein nentydd a'n hafonydd.

Un canlyniad pellach sy'n deillio o ordyfiant ar ein bryniau yw'r duedd iddo ledaenu tanau gwyllt. Glaswellt tal, a sych yn aml, a gordyfiant o rug ac eithin yw rhai o'r mathau mwyaf llosgadwy o lystyfiant. Canlyniad hyn yw ein bod bellach yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y digwyddiadau dinistriol hyn. Am ganrifoedd, bu ffermwyr yn defnyddio llosgi dan reolaeth i reoli twf rhywogaethau yn ogystal â chreu bylchau tân. Mae pawb ohonom wedi gweld yr effaith ddinistriol y mae tanau afreolus wedi ei chael ac yn ei chael ar ein cynefin mynyddig. Oni bai ein bod yn ailfeddwl yn sylfaenol ynglŷn â rheoli'r ucheldir, gallwn ddisgwyl i amlder a maint y tanau hyn waethygu.

Unwaith eto, oherwydd diffyg stoc pori yn bennaf, gwelwn cynnydd digyffelyb mewn rhywogaethau trogod ar ein bryniau. Mae glaswellt hir yn gynefin delfrydol ar gyfer trogod. Mae hyn wedi arwain at nifer cynyddol o achosion o glefyd Lyme, yn enwedig ymhlith pobl sy'n cerdded y bryniau a'u hanifeiliaid anwes. Gall clefyd Lyme arwain at effeithiau trychinebus a gwanychol ar y sawl sy'n dioddef ohono a chan mai gwybodaeth gyfyngedig am y clefyd sydd gan feddygon teulu—a David, nid wyf yn gwneud unrhyw sylwadau arbennig o ran hynny—gall fynd heb ddiagnosis am gyfnodau hir, gan wneud ei effeithiau hyd yn oed yn fwy dinistriol. Effaith hirdymor hyn yw y bydd twristiaeth yn dioddef wrth i gerddwyr ac ati fod yn llai a llai parod i wynebu'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â phla trogod. Yn Ffrainc, y llynedd, cafodd oddeutu 60,000 o bobl eu heffeithio gan frathiadau trogod.

Yn olaf ond nid yn lleiaf, rhaid i ni gydnabod effaith economaidd tynnu stoc werthfawr iawn oddi ar ein bryniau. Wrth gwrs, mae gan Gymru nifer fawr iawn o ardaloedd ucheldirol. O ganlyniad, mae'r golled refeniw o stoc mynydd yn sylweddol. Er y gellir digolledu ffermwyr unigol, yn y tymor byr yn unig wrth gwrs, mae'r wlad i gyd dan anfantais yn ariannol. Roedd stoc mynydd yn cyfrannu'n sylweddol at economi amaethyddol Cymru.

Ceir llawer o enghreifftiau o'r modd y mae dad-ddofi cynefinoedd ucheldir fel y'i gelwir wedi cael effaith drychinebus. Mae polisi English Nature a Natural England o ddadstocio Dartmoor i'w weld yn cael effaith amgylcheddol negyddol iawn, gyda llawer o'r canlyniadau a amlinellwyd uchod yn dod yn amlwg, gyda chanlyniadau trychinebus. Mae cominwyr Dartmoor bellach yn gweld canlyniadau ofnadwy'r polisi dadstocio a gyflawnwyd dros yr 20 i 25 mlynedd diwethaf.

Yn nes at adref, mae Geraint Davies, ffigwr adnabyddus ac uchel ei barch yn y diwydiant ffermio yng Nghymru, sy'n rhedeg fferm fynydd fawr ger y Bala, lle mae ef a'i wraig wedi bod yn adfer rhannau o'r fferm i'w gwneud yn fwy croesawgar ar gyfer bywyd gwyllt, yn credu'n gryf fod cael gwared ar stoc oddi ar ein bryniau yn cael effaith andwyol ar fywyd gwyllt. Geraint a nododd wrthyf y golled bosibl i'r diwydiant twristiaeth wrth i bobl sy'n cerdded y bryniau ei chael hi'n fwyfwy anodd cerdded mewn rhannau o'r ucheldir oherwydd y twf glaswellt a rhedyn.

Un arbenigwr cydnabyddedig ym maes cynefin yr ucheldir yw Geoff Eyre, a wnaeth waith adfer ar 6,000 erw o rostir Howden yn y Peak District rhwng 1989 a 2006, yn cynnwys chwistrellu, llosgi, ail-hadu grug a phorfeydd bwytadwy, a chael gwared ar redyn a chynnydd masnachol hyfyw decplyg yn nifer y gwartheg a defaid, ac arweiniodd at weld bywyd gwyllt yn dychwelyd ar raddfa go anghyffredin, gan brofi'n bendant fod dadstocio ucheldiroedd yn gwbl wrthgynhyrchiol i gynnal neu gynyddu bywyd gwyllt yn ardaloedd yr ucheldir. Mae Geoff wedi rheoli ac adfer tua 40,000 hectar o gynefin ucheldirol.

Felly, o ystyried y dystiolaeth uchod, ni all fod unrhyw ddadl gredadwy dros barhau gyda'r polisi cyfredol. Felly, galwaf eto ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi ei pholisi mewn perthynas â chymorthdaliadau ucheldir a rhoi'r cynrhon gwlanog, ynghyd â'u ffrindiau buchol mwy o faint, yn ôl ar fryniau Cymru.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:43, 19 Medi 2018

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Andrew R.T. Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd da byw yng Nghymru yn y broses o gefnogi'r diwydiant bwyd-amaeth ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

2. Yn credu bod diwydiant da byw Cymru yn sector integredig a bod da byw yr ucheldir a'r iseldir yn ddibynnol ar ei gilydd.

3. Yn nodi pwysigrwydd ffermio ar yr ucheldir i gymunedau gwledig, ac yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i hybu mwy o gapasiti prosesu yng Nghymru er mwyn ychwanegu gwerth at y sector da byw.

4. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau newid o ran sut y mae incwm yr ardoll hyrwyddo yn cael ei ddosbarthu a, drwy hynny, sicrhau gwell elw, yn enwedig ar gyfer diwydiant defaid Cymru a Hybu Cig Cymru, y sefydliad sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru. 

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 5:43, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 1 yn ffurfiol yn enw Paul Davies yn y ddadl a gyflwynodd UKIP y prynhawn yma mewn perthynas â stocio ein hardaloedd ucheldir a'r ddadl amaethyddol gyffredinol am y sector da byw yma yng Nghymru.

Rwy'n gresynu nad ydym yn gallu cefnogi'r cynnig oherwydd credaf mai proses negyddol yw dileu cynigion yn eu cyfanrwydd, ond teimlaf fod y cynnig a gyflwynwyd gennych yn llawer rhy eang inni ddod o hyd i unrhyw agwedd go iawn y gallem gefnogi safbwynt arni. Yn benodol, ceir rhai achosion lle mae cymhellion gwerth chweil ar waith i symud da byw o ardaloedd penodol oherwydd statws safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig er enghraifft, y ddadl dal carbon a manteision amgylcheddol eraill y gellir eu cyflawni yn rhai o'n hucheldiroedd.

Dyna pam rydym wedi cyflwyno gwelliant heddiw sy'n edrych ar ddarlun cyffredinol o ffermio da byw, ar ucheldir ac iseldir, oherwydd mae'r patrwm da byw hanesyddol yma yng Nghymru yn un cydgysylltiedig, lle na ellir rhannu'r ucheldir a'r iseldir. Weithiau, pan fyddwn yn trafod yn y Siambr hon, rwy'n teimlo ein bod yn ceisio rhannu'r diwydiant da byw yn sectorau penodol ar draul y sector arall. Ceir integreiddio sy'n rhan annatod o wead amaethyddiaeth Cymru a gwae inni chwalu hwnnw. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych, pan fyddwn yn sôn am amaethyddiaeth, ar ddull gweithredu cydgysylltiedig sy'n cynnwys yr ucheldir a'r iseldir yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y sector da byw yma yng Nghymru yn gryfach ac yn fwy gwydn, fel y gallwn ychwanegu mwy o werth at yr hyn y mae ein ffermydd da byw yn ei gynhyrchu ac yn y pen draw, cadw mwy o arian yn ein cymunedau gwledig ac yn anad dim, cynnig mwy o gyfle i bobl ifanc yn y gymuned amaethyddol, gydag chyfleoedd newydd mewn ffermydd ar hyd a lled Cymru. Ni all fod yn iawn ar hyn o bryd mai oedran cyfartalog ffermwyr yng Nghymru yw 61. Nid oes fawr o gyfle os o gwbl i ffermwyr ifanc ddod i mewn i'r diwydiant, a chyda Brexit, mae hynny'n cynnig cyfle—fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud, a bod yn deg—i ni allu saernïo polisïau sy'n hybu amaethyddiaeth yma yng Nghymru, polisïau sy'n benodol i Gymru ac i'r DU.

Ac yn sicr yn fy rôl newydd fel y llefarydd dros amaethyddiaeth a materion gwledig ar y meinciau Ceidwadol, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at edrych ar ffyrdd newydd o ddatblygu cymorth ar gyfer y diwydiant amaethyddol drwy ychwanegu gwerth at y cynnyrch gwych a gynhyrchwn. A dyna pam, ym mhwynt 4 y gwelliant sydd ger bron y Cynulliad heddiw, gofynnwn am eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â pha gynnydd y gallodd ei wneud ar ailgydbwyso'r ardoll hyrwyddo. Cafwyd dadl barhaus a thrafodaeth ers cryn dipyn o amser, oherwydd ni waeth faint o dda byw sydd gennym yn yr ucheldiroedd, boed yn ddefaid neu'n wartheg, ceir ardoll hyrwyddo sy'n gallu mynd yn ôl i mewn i'r diwydiant i hyrwyddo ac annog mwy o ddefnydd o gynnyrch Cymreig ac ar hyn o bryd, cynhyrchir y system honno yn y man prosesu, h.y. y lladd-dy, yn hytrach nag ar adeg magu. Ac felly, oherwydd natur y sector prosesu yma yng Nghymru a'r cyfle cyfyngedig, yn enwedig yn y sector gwartheg, i'r anifeiliaid gael eu prosesu yma yng Nghymru, caiff nifer o'r gwartheg y mae'r gymuned ffermio wedi colli chwys a dagrau yn eu pesgi ar gyfer y farchnad eu prosesu yn Lloegr a rhannau eraill o'r DU ac mae'r ardoll hyrwyddo honno'n aros o fewn yr awdurdodaeth honno yn hytrach nag yma yng Nghymru. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n anghyfiawnder sydd angen ei ailgydbwyso, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn defnyddio'r cyfle y prynhawn yma i roi sylw, gan ei fod yn ein gwelliant.

Y pwynt arall yr hoffwn ei wneud hefyd, fel y mae'r gwelliant yn crybwyll, yw natur y cymunedau yn yr ucheldiroedd o ran y ffordd y maent yn cefnogi economi ehangach cefn gwlad Cymru yn arbennig. Y sector twristiaeth, er enghraifft—fel y mae'r sawl a gynigiodd y cynnig wedi nodi, caiff £250 miliwn ei ychwanegu i'r diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru gan sector ucheldir ffyniannus gyda gweithgaredd yn ganolog iddo ac sydd â chymuned sy'n creu cyfoeth. Ac ni ddylem anghofio bod y sector da byw yma yng Nghymru yn cyfrannu at ddiwydiant bwyd-amaeth gwerth £6.9 biliwn sy'n cyflogi cynifer o bobl ar hyd a lled Cymru.

Rydym wedi mynd drwy 25 mlynedd o ddiwygiadau Ewropeaidd amrywiol, o ddiwygiadau MacSherry yn y 1990au cynnar, a aeth ati am y tro cyntaf i symud cymorthdaliadau cynhyrchu oddi wrth gynhyrchu da byw ac yn fwy tuag at—fel y bydd rhai o'r Aelodau yn gyfarwydd â hwy—y trefniadau neilltuo tir ac yn amlwg, y cynlluniau amgylcheddol a gyflwynwyd yn y 1990au a'r 2000au. Mae angen sicrhau cydbwysedd, ond buaswn yn awgrymu mai ffermwyr yw ffrindiau gwreiddiol ymgyrchwyr cyfeillion y ddaear, oherwydd, yn y pen draw, maent yn dibynnu ar y tir am eu bywoliaeth ac maent am weld amgylchedd cryf gyda rhagolygon amaethyddol da sy'n symud y genhedlaeth nesaf yn ei blaen.

Ac fel y dywedais, gallwn gael y ddadl am yr Undeb Ewropeaidd a chanlyniad y refferendwm yn y Siambr hon dro ar ôl tro, ond y ffaith amdani yw bod yna gyfle i greu pecyn cymorth amaethyddol Cymreig, pecyn cymorth amaethyddol gwledig sy'n cadw'r amgylchedd ac amaethyddiaeth i gydsymud gyda'i gilydd a datblygu atebion gorau'r byd. Rwy'n gobeithio y gallwn fanteisio ar y cyfleoedd hynny, ac yn y pen draw, y gallwn sicrhau dyfodol i bobl ifanc allu dod i mewn i'r diwydiant amaethyddol ac economi wledig sy'n ffynnu, sy'n ddynamig, ac sy'n cynnig y cyfleoedd hynny, a dyna pam rwy'n cynnig y gwelliant i'r cynnig yn enw Paul Davies y prynhawn yma.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:48, 19 Medi 2018

Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Llyr Gruffydd.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod ffermydd defaid yr ucheldir yn rhan bwysig o economi Cymru.

2. Yn nodi â phryder y peryglon y mae gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn eu hachosi i ffermydd defaid yr ucheldir.

3. Yn cefnogi aros yn yr UE fel ffordd o gadw statws y farchnad sengl ond, os byddwn yn gadael yr UE ac yn colli aelodaeth o'r farchnad sengl, yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth digonol i ffermydd defaid yr ucheldir gan adeiladu ar safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchel.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:48, 19 Medi 2018

Diolch, Llywydd, ac a gaf i gyfeirio Aelodau at fy nghofrestr buddiannau, sy'n berthnasol i'r pwnc yma, wrth gwrs? Ac a gaf i gychwyn drwy resynu at yr iaith y mae UKIP yn ei defnyddio yn eu cynnig, fel rydym ni wedi'i chlywed? Mae'n gychwyn ymfflamychol i drafodaeth y mae nifer ohonom ni wedi bod yn trio ei hannog mewn modd adeiladol a phositif dros y blynyddoedd diwethaf. Rydw i'n credu ei bod hi'n gwbl anghyfrifol i gyflwyno'r ddadl rydych chi'n ei gwneud gan ddefnyddio'r iaith yr ydych chi yn ei gwneud. Mae yna lawer mwy o gonsensws a thir cyffredin rhwng amaethwyr ac amgylcheddwyr nag, yn amlwg, rŷch chi'n meddwl sydd yna. 

Felly, ni fydd yn syndod i chi bod Plaid Cymru yn argymell yn ein gwelliant ni ein bod ni'n dileu'r cyfan o'r cynnig, ond mi ydym ni, wrth gwrs, yn ein gwelliant yn tanlinellu pwysigrwydd ffermydd defaid yn ucheldir Cymru fel rhan gwbl allweddol o'n heconomi ni, ond rŷm ni hefyd, wrth gwrs, yn tanlinellu peryglon gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau a'r difrod diamheuol y bydd hynny yn ei greu i ffermydd yr ucheldir. Nid dim ond defaid a fydd wedi gadael yr ucheldir mewn blynyddoedd i ddod. Yn sgil Brexit, mae’n bosib y bydd pobl yn gadael yr ucheldir, oherwydd yr effaith y bydd yn ei chael ar hyfywedd ffermydd teuluol yng Nghymru. Rŷm ni wedi clywed yr ystadegau mewn nifer o ddadleuon yn y Siambr yma: 96 y cant o gig oen Cymru sy’n cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd; sôn am dariffau allforio a fydd yn cael eu cyflwyno a fydd, wrth gwrs, yn cael effaith negyddol. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi bod yn glir ac yn gyson ein bod ni am gadw ein haelodaeth a’n statws o fewn y farchnad sengl, ac, yn wir, y ffordd orau i wneud hynny yw aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Ond, os ydym ni yn gadael ac yn colli ein haelodaeth o’r farchnad sengl, yna, yn amlwg, mae angen mesurau cryf i amddiffyn buddiannau amaeth yng Nghymru, yn enwedig ein ffermydd ar yr ucheldiroedd.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:50, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddweud ychydig eiriau yn awr am ymgynghoriad parhaus Llywodraeth Cymru, 'Brexit a'n tir'. Nawr, y tro diwethaf y bu'r Llywodraeth yn ystyried newidiadau mawr i daliadau fferm yng Nghymru, aethant ati i asesu faint y byddai pob busnes, pob sector, pob sir yng Nghymru yn ei golli neu'n ei ennill drwy fodelu cynhwysfawr iawn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau allweddol. Nawr, y newidiadau arfaethedig diweddaraf hyn yw rhai o'r newidiadau mwyaf a welsom yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sicr, os nad dros y genhedlaeth hon mae'n debyg. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa asesiadau a wnaed y tro hwn o faint y gallai Ynys Môn, Ceredigion, sir Gaerfyrddin, ei ennill neu ei golli, ei effaith ar swyddi yn y siroedd hynny a siroedd eraill, cyn mynd ymhellach ar drywydd y polisi hwn na chafodd ei weithredu erioed o'r blaen, oherwydd nid wyf yn ymwybodol fod y gwaith hwnnw wedi'i wneud.

Yn ogystal fe wyddom fod yr Alban yn dal at y taliad sylfaenol ar gyfer eu ffermwyr. Mae Gogledd Iwerddon yn debygol o wneud yr un peth hefyd a bydd ffermwyr ledled yr Undeb Ewropeaidd yn ei gael hefyd. Mewn gwirionedd, oherwydd canlyniadau ariannol Brexit i'r UE, ymddengys y bydd eu cyllid colofn 2 yn cael ei dorri ac y bydd eu taliadau uniongyrchol yn cael eu clustnodi, felly wyddoch chi, bydd ffermwyr yr UE yn well eu byd mewn cymhariaeth oherwydd Brexit. Ond mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn mynd y ffordd arall ac yn bwriadu cael gwared ar y taliadau sylfaenol. Enw papur safbwynt Llywodraeth yr Alban, os cofiaf yn iawn, yw, 'Stability and Simplicity'. Wel, roedd rhywun yn awgrymu y dylid galw cynigion Llywodraeth Cymru yn 'Ansefydlogrwydd a Chymhlethdod' o bosibl. Y cyfan a wnewch yw dilyn polisi Michael Gove a'r Torïaid yn Lloegr fel y defaid diarhebol, ac mae'n rhaid i mi gwestiynu dilysrwydd eich proses ymgynghori yma. Gwn eich bod wedi honni mai mythau yw'r hyn y bu Undeb Amaethwyr Cymru yn ei ddweud—wel, nid dyna ydynt; maent yn bryderon dilys. Efallai fod yna wahaniaeth barn, ond maent yn bryderon dilys gan randdeiliaid allweddol. A yw'n wir fod eich llythyr at ffermwyr, hanner ffordd drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus—? A yw'n iawn eich bod chi fel Ysgrifennydd Cabinet yn ymyrryd i ddylanwadu ar safbwyntiau pobl ac yn diystyru'r hyn sy'n bryderon dilys yn fy marn i gan randdeiliaid allweddol? Rydych yn dweud yr hoffech glywed safbwyntiau pobl, ond wedyn rydych yn ysgrifennu ac mae'n ymddangos i mi nad ydych yn barod i glywed barn pobl oni bai eu bod yn cytuno â chi. Ac roedd yn arwyddocaol iawn, rhaid imi ddweud, eich bod yn dweud yn y datganiad a aeth gyda'ch llythyr agored i ffermwyr yng Nghymru, a dyfynnaf:

'Bydd ein rhaglen Rheoli Tir newydd yn cynnwys dau gynllun mawr hyblyg'.

'Bydd yn cynnwys'. Felly, a yw'r penderfyniad wedi'i wneud eisoes? Roeddwn yn meddwl mai ar ganol ymgynghoriad yr oeddem. Yn wir, mae eich gwelliant yn adlewyrchu'r un iaith yn union. Felly, gyda'ch ymyrraeth ddigynsail a'r math o iaith a welwn—hynny yw, nid wyf yn siŵr a ydym yn nhiriogaeth adolygiad barnwrol. Nid fi sydd i ddweud; mae hynny i eraill ei ystyried. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn eich annog i arafu eich argymhellion, dilynwch esiampl yr Alban, Gogledd Iwerddon a gweddill yr UE a chynnig sefydlogrwydd i ffermwyr Cymru. Ar yr adeg fwyaf heriol hon yn ein hanes diweddar, gadewch i ni o leiaf roi elfen o sicrwydd o gyllid i'n ffermwyr a gadewch i ni roi chwarae teg iddynt fan lleiaf.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:54, 19 Medi 2018

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol gwelliant 3 yn enw Julie James, ac i siarad—Lesley Griffiths.

Gwelliant 3—Julie James

Dileu popeth a rhoi yn ei le

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod canlyniad refferendwm Brexit a’r heriau masnach a fydd yn deillio ohono i ffermio ucheldir Cymru yn golygu bod angen i ni edrych tua’r dyfodol, ac nid i’r gorffennol, gan ddatblygu model cymorth newydd ar gyfer rheolwyr tir.

2. Yn nodi canlyniadau gwahanol ymarferion cynllunio senarios ar gyfer amaeth ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae’r cyfan yn rhagweld dyfodol anodd ar gyfer ffermio defaid yn yr ucheldir os bydd y DU yn ymadael â’r farchnad sengl a’r undeb tollau.

3. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i greu rhaglen, a fydd yn cynnwys ffermwyr yr ucheldir, a fydd yn mynd i’r afael â’r materion a nodir uchod drwy gyflwyno dau gynllun mawr a hyblyg: sef Cynllun Cadernid Economaidd a chynllun Nwyddau Cyhoeddus.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:54, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, ac rwy'n cynnig ein gwelliant yn ffurfiol.

Mae'r cynnig a gyflwynwyd gan UKIP yn ymwneud â chynigion i ddiwygio cymorth amaethyddol, ac yn fwy penodol, â chymorth i ffermwyr defaid yr ucheldir. Fel y mae'r Aelodau'n gwybod, a chyfeiriwyd at hyn, rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar 'Brexit a'n tir'. Ynddo, rydym yn cynnig mesurau sy'n wahanol iawn i'r rhai yn y cynnig hwn. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 30 Hydref ac rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymateb. Datblygwyd y ddogfen yn dilyn trafodaethau manwl gydag aelodau o fy mwrdd crwn gweinidogol ar Brexit, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o gyrff anllywodraethol amgylcheddol ac undebau ffermio. Mae llawer o'r Aelodau hynny wedi dweud wrthyf nad oedd unrhyw beth annisgwyl yn y ddogfen derfynol honno, oherwydd eu bod wedi chwarae cymaint o ran yn y trafodaethau hynny. Daw'r angen am newid o ganlyniad uniongyrchol i'r DU yn gadael yr UE, ac roedd nifer o Aelodau yn y Siambr hon yn awyddus iawn i alw am Brexit, ond i'w gweld yn llai awyddus i ymdrin â'r canlyniadau a'r heriau niferus a ddaw yn ei sgil. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am warantau y bydd cyllid ar gyfer ffermio yn cael ei gadw ar lefelau cyn Brexit, fel yr addawodd yr ymgyrch dros adael, ac na fydd yr arian yn ddarostyngedig i fformiwla Barnett. A dywedodd Prif Weinidog Cymru y bydd yr arian wedi'i glustnodi ar gyfer amaethyddiaeth.

Mae angen polisi ffermio ar gyfer y dyfodol i Gymru a fydd yn ymdrin â newidiadau penodol y mae'r sector yn debygol o'u hwynebu wedi i'r DU adael yr UE, yn enwedig mewn perthynas â masnach a chystadleurwydd. Gallwn i gyd gytuno ar yr angen i sicrhau bod ffermwyr Cymru yn parhau i ffermio; dyna egwyddor gyntaf ein diwygiadau. Fodd bynnag, mae'r heriau y bydd amaethyddiaeth Cymru yn eu hwynebu mewn dyfodol ar ôl Brexit yn galw am ateb soffistigedig sy'n gweithio i bob ffermwr, nid dychwelyd at bolisïau aflwyddiannus y gorffennol. Nid yw mynd ati'n syml i gynyddu nifer y defaid ar y bryniau yn galluogi ffermwyr i ffynnu ar ôl Brexit. Bydd angen ystyried canlyniadau trefniadau masnach, ond wrth gwrs, ar hyn o bryd nid oes gennym syniad sut fath o fynediad a fydd i farchnad yr UE.

Nodaf bwyntiau Plaid Cymru ynghylch risgiau a achosir o ganlyniad i adael y farchnad sengl a'r undeb tollau. Fodd bynnag, ni fydd y cynlluniau talu presennol yn galluogi ffermwyr i leihau'r risgiau hynny drwy addasu eu busnesau i'r amgylchedd economaidd newydd. Cynllun y taliad sylfaenol yw'r ffynhonnell fwyaf o arian o'r polisi amaethyddol cyffredin. Fodd bynnag, fel math o gymhorthdal incwm, nid yw'n darparu cymhellion ar gyfer arloesi, nac yn ymgorffori effeithlonrwydd busnes. Dros y 10 mlynedd diwethaf, gyda'r system bresennol o daliadau, mae cynhyrchiant wedi dirywio. Mae gwerth ychwanegol gros o amaethyddiaeth yng Nghymru wedi gostwng dros gyfnod pan fo gwerth ychwanegol gros Cymru wedi cynyddu dros 80 y cant. Dros yr un cyfnod, mae diogelwch y cyflenwad bwyd wedi lleihau, a chynefinoedd a rhywogaethau sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth wedi profi tuedd ar i lawr.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 5:57, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ofyn chi egluro  eich ffigur gwerth ychwanegol gros? Oherwydd ceir enghraifft y mae'r Prif Weinidog yn ei defnyddio'n aml iawn ynglŷn â'r modd y mae pobl yn gweithio yng Nghaerdydd ond yn byw yn y Cymoedd ac felly dyna pam y mae gwerth ychwanegol gros yn ymddangos yn isel yn y Cymoedd. Gwneuthum y pwynt fod y sector prosesu yn Lloegr i raddau helaeth bellach ar gyfer llaeth, ar gyfer cig eidion yn arbennig, felly does bosibl nad yw hynny'n dangos bod y gwerth rydym yn ei gynhyrchu yma yng Nghymru yn cael ei symud allan o Gymru ac yn cael ei briodoli i werth ychwanegol gros Lloegr. Onid ydych yn cydnabod bod angen inni wneud llawer mwy i ddatblygu prosesu yma yng Nghymru er mwyn inni allu cadw mwy o werth yma yng Nghymru a fyddai'n rhoi hwb i'r ffigurau gwerth ychwanegol gros hynny?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Fe ddof at hynny wrth imi barhau â fy sylwadau.

Rydym wedi creu sector lle mae busnesau fferm yn dibynnu ar gymorthdaliadau ar gyfer 81 y cant ar gyfartaledd o incwm eu busnesau fferm, ac mae hyn yn dangos pam nad yw'r status quo yn opsiwn, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei araith yn y Sioe Frenhinol. Mae cynlluniau amaeth-amgylchedd a'r cynllun taliad sylfaenol wedi datblygu dros y 40 mlynedd diwethaf i gefnogi ffermwyr ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Arfau di-fin ydynt, sy'n cefnogi ffermwyr ar draws gwledydd sydd â modelau economaidd ac amgylcheddol gwahanol iawn. Mae dull yr UE o weithredu rheoliadau archwilio a chyfrifyddu hefyd wedi bod yn unffurf. Beth bynnag fydd canlyniadau'r trafodaethau Brexit, yma yng Nghymru rydym yn bwriadu rhoi rhyddid a hyblygrwydd i ffermwyr ffynnu, rhyddid i reoli eu busnes yn y ffordd y gwelant yn dda, a hyblygrwydd i addasu eu busnes a manteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol. Ni fydd busnes fel arfer neu gamu'n ôl i'r gorffennol yn helpu ffermwyr Cymru yn y tymor hir. Mae angen dull mwy deallus, wedi'i dargedu, sy'n helpu ffermwyr i gynyddu eu cynhyrchiant a'u cystadleurwydd.

Dyna pam ein bod wedi lansio cynigion ar gyfer rhaglen rheoli tir newydd trwy ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'. Mae'n cynnwys dau gynllun: un ar gadernid economaidd, a'r llall ar nwyddau cyhoeddus. Hyd nes y bydd y rhaglen hon ar waith, bydd ffermwyr yn parhau i dderbyn cyllid trwy'r system bresennol. Bydd cynllun y taliad sylfaenol yn parhau i gael ei dalu rhwng 2018 a 2019. Rydym wedi argymell cyfnod pontio, a ddaw i ben yn 2025.

Soniodd Andrew R.T. Davies, yn ei sylwadau, am fater yr ardoll cig coch, sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd lawer a gwn fod llawer o ffermwyr wedi ei ddwyn i fy sylw dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Soniais wrth Michael Gove amdano eto yn y cyfarfod pedairochrog yn Llundain ddydd Llun. Dywedais yn glir iawn wrtho, tua blwyddyn yn ôl mwy na thebyg, fy mod yn disgwyl gweld darpariaethau ym Mil Amaethyddiaeth y DU. Roeddwn wedi gobeithio ei weld ar wyneb y Bil; mae wedi dweud wrthyf bellach nad yw hynny'n bosibl. Rwy'n disgwyl ei weld—ac unwaith eto, soniais wrtho am hyn ddydd Llun—fel gwelliant gan y Llywodraeth, oherwydd roedd yn dweud y gallai gael ei godi fel gwelliant meinciau cefn. Nid wyf am weld hynny; rwyf am weld gwelliant gan y Llywodraeth i'r Bil i fynd i'r afael â hyn fel mater o frys, a byddaf yn ysgrifennu at Michael Gove i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Bydd ariannu drwy'r cynllun cadernid economaidd a'r cynllun nwyddau cyhoeddus yn dilyn ein pum egwyddor ar gyfer diwygio rheoli tir. Mae'r egwyddorion hyn yn nodi ein hymrwymiad i gefnogi cynhyrchiant bwyd, cadw rheolwyr tir ar y tir, adeiladu diwydiant rheoli tir ffyniannus a chadarn, cefnogi'r gwaith o ddarparu nwyddau cyhoeddus, a sicrhau bod pob rheolwr tir yn gallu cael mynediad at y cynlluniau.

Bydd y cynllun cadernid economaidd yn darparu cyllid ar gyfer mesurau penodol. Byddwn yn gweithio gyda ffermwyr i sicrhau bod cyllid yn cefnogi gwelliannau yn eu busnesau. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod hyn yn peri braw, ond bydd cymhelliant i wella busnes yn creu canlyniadau mwy cadarnhaol, a rhoddir cymorth hefyd i ymdrechion ar y cyd. Bydd mesurau'n targedu'r gadwyn gyflenwi gyfan, gan gynnwys cynyddu capasiti prosesu, fel y crybwyllwyd yng ngwelliannau'r Ceidwadwyr. Bydd hyn yn arwain at gostau is ac yn cynyddu arbedion effeithlonrwydd i ffermwyr.

Ochr yn ochr â'r cynllun cadernid economaidd, nod y cynllun nwyddau cyhoeddus yw darparu ffrwd incwm ychwanegol i ffermwyr. Byddant yn cael arian am ganlyniadau nad oes unrhyw farchnad ar eu cyfer ar hyn o bryd, megis lleihau perygl llifogydd neu wella ansawdd dŵr. Yn ogystal â darparu ffrwd incwm, bydd hyn yn gwella cynaliadwyedd ffermydd, yn cyfrannu at ddatblygu economi gylchol, a gostyngiad mewn costau allanol. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnig ffordd i ffermwyr defaid mynydd allu ffynnu. Gyda'n cymorth ni, gallant arallgyfeirio, buddsoddi mewn technolegau neu offer newydd, a chael eu talu am ddarparu dyfodol a nwyddau cyhoeddus pellach. Bydd cadwyni cyflenwi mwy effeithlon hefyd yn cyfrannu at gynyddu cystadleurwydd.

Hoffwn gyfeirio at y sylwadau gan Llyr. Mewn perthynas â gwahaniaeth barn, nid oes gennyf broblem gyda gwahaniaeth barn. Fy mhryder ynghylch Undeb Amaethwyr Cymru yw eu bod wedi gofyn i'w holl aelodau wrthod ein holl gynigion—yn ddiwahân. Maent yn gwneud anghymwynas â'u haelodau, oherwydd mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn clywed eu barn. Felly, mae gwrthod ein cynigion, i mi, yn golygu na fydd ganddynt lais yn yr hyn rydym yn ei gyflwyno. Rydych chi'n hollol gywir mai ymgynghori ar y ddau gynllun hwnnw'n unig a wnawn. Rydym wedi dweud yn glir iawn y bydd taliadau uniongyrchol yn dod i ben, ond mae'n ymgynghoriad ystyrlon iawn. Dyma'r ymgynghoriad hiraf i mi ei gael erioed fel Gweinidog. Mae'n 16 wythnos o hyd, a hynny oherwydd y gwyddwn y byddai pobl yn eithriadol o brysur dros yr haf. Felly, hoffwn glywed cymaint o safbwyntiau â phosibl, ond roeddwn yn credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â'r mythau a oedd allan yno, nid yn unig gan yr undebau ffermio o reidrwydd, ond—clywais rai dros yr haf yn y sioeau amaethyddol—gan ffermwyr y bûm yn siarad â hwy.

Fe sonioch am yr Alban, fe sonioch am Ogledd Iwerddon, ac fe sonioch am Loegr. Rhaid inni lunio polisi unigryw ar gyfer Cymru. Mater i'r tair gwlad honno yw beth y maent hwy yn ei wneud, a bydd hynny'n targedu—[Torri ar draws.]—Nid oes gennyf amser, mae'n ddrwg gennyf. Bydd yn targedu cymorth lle bydd iddo'r effaith fwyaf drwy wireddu gwerth llawn economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol tir Cymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:03, 19 Medi 2018

Galwaf ar Neil Hamilton i ymateb i'r ddadl.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, rydym wedi cael dadl go ddiddorol, ond yn anffodus nid oedd yn ymwneud â'r hyn y mae'r cynnig yn sôn amdano, fel y nododd David Rowlands yn ei araith agoriadol am natur y gwelliannau a gyflwynwyd gan y pleidiau eraill. Ceisiodd Andrew R.T. Davies gyfiawnhau gwelliant y Ceidwadwyr ar y sail na ellid diwygio ein cynnig i gynnwys y pwyntiau sydd gan welliant y Ceidwadwyr ar y papur trefn, ond ni allwn weld pam lai. Nid wyf yn gweld pam y mae'n rhaid dileu cynnig UKIP er mwyn cyflwyno'r pwyntiau adeiladol iawn y mae cynnig y Ceidwadwyr yn rhoi sylw iddynt, a gallem ni yn ein plaid ni fod wedi cefnogi pob un ohonynt. Ac o'r herwydd, gallem fod wedi cael ein cynnig ni, yn ogystal â gwelliannau'r Blaid Geidwadol.

Nid oes gennyf syniad sut y gallai Llyr Gruffydd gredu bod ein cynnig heddiw yn ymfflamychol. Roeddem yn mynd i'r afael â phroblem benodol iawn sef dad-ddofi'r bryniau ac effaith amgylcheddol y gyfundrefn bresennol, sy'n achosi llawer o anawsterau o ran rheoli tir a hefyd o ran rheoli clefydau. Mae'n drueni fod y ddadl hon wedi troi'n ddadl arall eto am Brexit, ac ar un ystyr, dylem fod yn hapus iawn am hynny yn UKIP, ond roeddem o ddifrif yn ceisio cyflwyno cynnig heddiw nad oedd yn mynd i ganolbwyntio ar rinweddau neu wendidau gadael yr UE ar gyfer y sector amaethyddol, er mor bwysig yw hynny wrth gwrs fel cefndir i bopeth. Ond diolch i Andrew R.T. Davies a Llyr Gruffydd, yn ogystal ag Ysgrifennydd y Cabinet wrth gwrs, am eu cyfraniadau diddorol ac fe gyfeiriaf at rai o'r pwyntiau a wnaethant.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 6:05, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Ond i fynd yn ôl at yr hyn y mae'r ddadl hon yn ymwneud ag ef mewn gwirionedd, sef bod dad-ddofi tir mynyddig Cymru, yn dilyn o gyfarwyddeb cynefinoedd yr UE, wedi achosi cynnydd trychinebus yn niferoedd y rhan fwyaf o ysglyfaethwyr, ac wedi sicrhau bod rhai rhywogaethau ar eu ffordd i ddifodiant, yn enwedig rhai sy'n agored i niwed. Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle inni wella amgylchedd yr ucheldir ac yn rhoi pŵer i'r Cynulliad hwn fabwysiadu ymagwedd wahanol iawn i'r un a fabwysiadwyd hyd yma. Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at y cyfleoedd y mae hyn yn eu rhoi i Gymru lunio polisi amaethyddol sy'n addas ar gyfer problemau topograffig a hinsoddol penodol ein hardaloedd ucheldirol yn benodol. Yn ystod ei haraith disgrifiodd y polisi amaethyddol cyffredin presennol a'r cynllun taliadau sylfaenol fel offer di-fin iawn, ac mae hynny'n wir. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi ar hynny. Mae'r polisi amaethyddol unffurf ar gyfer Ewrop gyfan yn anwybyddu llawer o elfennau pwysig yn y gyfundrefn amaethyddol yma yng Nghymru, a chymeradwyaf ei geiriau yn dweud ei bod am gyflwyno mwy o ryddid i ffermwyr gynyddu cynhyrchiant a chyflawni eu busnes mewn modd mwy cynhyrchiol. Ymddengys i mi fod hwnnw'n bwynt da iawn i'w wneud, yn hytrach na'r pwyntiau cynhennus pleidiol arferol am allforio cig oen, ac ati ac ati, ac fe wnaf ymdrin â'r hyn a ddywed Llyr Gruffydd am hynny nesaf.

Wrth gwrs, fe wyddom fod tua thraean o gynnyrch cig oen Cymru yn cael ei allforio i'r UE. Caiff dwy ran o dair ei fwyta yn y Deyrnas Unedig, felly gadewch i ni gadw hyn mewn persbectif. Mae'r sector ffermio ei hun fel cyfran o'r incwm cenedlaethol yn eithaf bach. Mae cyfanswm allforion cig oen o'r Deyrnas Unedig oddeutu £300 miliwn y flwyddyn. Nid ydym yn ymdrin â ffigurau mawr yma. I'r graddau bod ffermwyr defaid yn mynd i wynebu problemau pontio, gellid yn hawdd ymdrin â hwy o fewn y cyllidebau a ddaw ar gael o ganlyniad i adael yr UE oherwydd ceir difidend Brexit, fel y gwyddom. Yn hytrach na rhoi cymhorthdal i ffermwyr mewn rhannau eraill o Ewrop, bellach gallwn roi cymhorthdal i ffermwyr yn y Deyrnas Unedig, ac yng Nghymru'n benodol, a Llywodraeth Cymru fydd â'r cyfrifoldeb a'r cyfle i wneud hynny. Rwy'n rhyfeddu eu bod mor wangalon a phesimistaidd ynglŷn â'r cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig i amaethyddiaeth Prydain. Am druenus yw gweld Llywodraeth Cymru yn dweud, 'Byddai'n llawer gwell gennym i Frwsel wneud y penderfyniadau hyn na'u gwneud ein hunain'. Pa fath o lywodraeth sy'n gwrthod credu ynddi ei hun a'i gallu ei hun i ddarparu'r gorau i bobl Cymru, ac yn enwedig i ffermwyr a defnyddwyr Cymru?

Felly, mae gan UKIP olwg optimistaidd ar y dyfodol, ac yn sicr mae gennym ffydd a hyder yn ein gwlad ein hunain a'n gallu ein hunain nid yn unig i oroesi yn y byd, ond hefyd i ffynnu ar sail polisi amaethyddol a gynlluniwyd gennym ni ar ein cyfer ni, ac ar gyfer ein pobl ein hunain. Os cyflwynir polisi amaethyddol, a'i fod yn arwain at fethiant, fe wyddom ble i roi'r bai. Y rhai ar y fainc flaen gyferbyn yma fydd i'w beio.

Felly, os caf ddychwelyd at yr hyn y mae'r ddadl hon yn ymwneud ag ef am eiliad, fel yr eglurodd David Rowlands, gwelsom gynnydd mewn glaswellt trwchus ac anfwytadwy yn llawn trogod, ac o ganlyniad i rug aeddfed heb ei losgi, daw hwnnw hefyd yn gartref i blâu chwilod y grug. Mae rhedyn heb ei reoli yn cynhyrchu tirweddau anffrwythlon sy'n anniogel ar gyfer twristiaid a cherddwyr a hefyd yn fectorau clefyd Lyme. Felly, mae'r rhain yn bwyntiau sy'n hollbwysig i ffyniant cefn gwlad mewn ardaloedd ucheldirol yn ogystal, fel yr eglurodd, ac mae polisi dad-ddofi tir y bryniau yn mynd yn gwbl groes i effaith a phwysigrwydd amaethyddiaeth ym mywyd unrhyw wlad, ac yn enwedig ym mywyd Cymru oherwydd disgrifir 84 y cant o Gymru fel ardal lai ffafriol. Mae gennym gyfran lawer uwch o ardaloedd ucheldirol na rhannau eraill o'r DU, ac felly mae gwella ansawdd yr ardaloedd ucheldirol yn well i ffermwyr a hefyd, fel y nododd, i gerddwyr, i dwristiaid ac i bawb sy'n mwynhau cefn gwlad, yn ogystal â'r rhai sydd ond yn hoffi edrych arno.

Fel y gwyddom, nid yw cefn gwlad yn rhywbeth a gynhyrchir gan natur; mewn gwirionedd caiff ei gynhyrchu gan y rhai sy'n rheoli'r tir, ac yn arbennig gan ffermwyr sy'n gweithredu eu busnesau arno. Felly, mae angen inni gael agwedd gwbl wahanol tuag at ardaloedd yr ucheldir na'r hyn a gafwyd hyd yma. Mae cyfarwyddeb cynefinoedd yr UE wedi esgor ar lawer o ddeddfwriaeth fanwl nad yw wedi bod o fudd i'r gymuned amaethyddol, nac yn wir, i'r cyhoedd yn gyffredinol. Credaf fod y problemau sy'n cael eu creu gan ledaeniad rhedyn ac ati ar y bryniau gan bobl nad ydynt yn deall yr angen i reoli tir yn cael effaith a allai fod yn drychinebus.

Felly, o ganlyniad i'r rhyddid a gawn o ganlyniad i adael yr UE, os defnyddir y rhyddid hwnnw'n ddeallus, gall arwain at wella ansawdd bywyd ac ansawdd tir i bawb. Ni allaf weld y gall fod unrhyw anfantais i hynny. Felly, rwy'n gwahodd Aelodau'r Cynulliad i roi ystyriaethau pleidiol o'r neilltu yn y ddadl hon, i droi dalen newydd ac i ddilyn arweiniad UKIP yn y cyswllt arbennig hwn a phleidleisio o blaid ein cynnig a dangos rhywfaint o barch tuag atom nad ydym, ar yr achlysur hwn, yn ceisio dadlau mewn modd gwleidyddol a phleidiol. Roedd hon yn ymgais ddiffuant i wella bywydau pobl Cymru ac i ddod â'r pleidiau yn y tŷ hwn at ei gilydd ar fater a allai gynnal ymagwedd o'r fath. Felly, ar y sail honno, rwy'n gwahodd yr Aelodau i bleidleisio o blaid ein cynnig ac yn erbyn eu gwelliannau eu hunain.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:12, 19 Medi 2018

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.