Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, rydym wedi cael dadl go ddiddorol, ond yn anffodus nid oedd yn ymwneud â'r hyn y mae'r cynnig yn sôn amdano, fel y nododd David Rowlands yn ei araith agoriadol am natur y gwelliannau a gyflwynwyd gan y pleidiau eraill. Ceisiodd Andrew R.T. Davies gyfiawnhau gwelliant y Ceidwadwyr ar y sail na ellid diwygio ein cynnig i gynnwys y pwyntiau sydd gan welliant y Ceidwadwyr ar y papur trefn, ond ni allwn weld pam lai. Nid wyf yn gweld pam y mae'n rhaid dileu cynnig UKIP er mwyn cyflwyno'r pwyntiau adeiladol iawn y mae cynnig y Ceidwadwyr yn rhoi sylw iddynt, a gallem ni yn ein plaid ni fod wedi cefnogi pob un ohonynt. Ac o'r herwydd, gallem fod wedi cael ein cynnig ni, yn ogystal â gwelliannau'r Blaid Geidwadol.
Nid oes gennyf syniad sut y gallai Llyr Gruffydd gredu bod ein cynnig heddiw yn ymfflamychol. Roeddem yn mynd i'r afael â phroblem benodol iawn sef dad-ddofi'r bryniau ac effaith amgylcheddol y gyfundrefn bresennol, sy'n achosi llawer o anawsterau o ran rheoli tir a hefyd o ran rheoli clefydau. Mae'n drueni fod y ddadl hon wedi troi'n ddadl arall eto am Brexit, ac ar un ystyr, dylem fod yn hapus iawn am hynny yn UKIP, ond roeddem o ddifrif yn ceisio cyflwyno cynnig heddiw nad oedd yn mynd i ganolbwyntio ar rinweddau neu wendidau gadael yr UE ar gyfer y sector amaethyddol, er mor bwysig yw hynny wrth gwrs fel cefndir i bopeth. Ond diolch i Andrew R.T. Davies a Llyr Gruffydd, yn ogystal ag Ysgrifennydd y Cabinet wrth gwrs, am eu cyfraniadau diddorol ac fe gyfeiriaf at rai o'r pwyntiau a wnaethant.