Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch i chi, ac rwy'n cynnig ein gwelliant yn ffurfiol.
Mae'r cynnig a gyflwynwyd gan UKIP yn ymwneud â chynigion i ddiwygio cymorth amaethyddol, ac yn fwy penodol, â chymorth i ffermwyr defaid yr ucheldir. Fel y mae'r Aelodau'n gwybod, a chyfeiriwyd at hyn, rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar 'Brexit a'n tir'. Ynddo, rydym yn cynnig mesurau sy'n wahanol iawn i'r rhai yn y cynnig hwn. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 30 Hydref ac rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymateb. Datblygwyd y ddogfen yn dilyn trafodaethau manwl gydag aelodau o fy mwrdd crwn gweinidogol ar Brexit, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o gyrff anllywodraethol amgylcheddol ac undebau ffermio. Mae llawer o'r Aelodau hynny wedi dweud wrthyf nad oedd unrhyw beth annisgwyl yn y ddogfen derfynol honno, oherwydd eu bod wedi chwarae cymaint o ran yn y trafodaethau hynny. Daw'r angen am newid o ganlyniad uniongyrchol i'r DU yn gadael yr UE, ac roedd nifer o Aelodau yn y Siambr hon yn awyddus iawn i alw am Brexit, ond i'w gweld yn llai awyddus i ymdrin â'r canlyniadau a'r heriau niferus a ddaw yn ei sgil. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am warantau y bydd cyllid ar gyfer ffermio yn cael ei gadw ar lefelau cyn Brexit, fel yr addawodd yr ymgyrch dros adael, ac na fydd yr arian yn ddarostyngedig i fformiwla Barnett. A dywedodd Prif Weinidog Cymru y bydd yr arian wedi'i glustnodi ar gyfer amaethyddiaeth.
Mae angen polisi ffermio ar gyfer y dyfodol i Gymru a fydd yn ymdrin â newidiadau penodol y mae'r sector yn debygol o'u hwynebu wedi i'r DU adael yr UE, yn enwedig mewn perthynas â masnach a chystadleurwydd. Gallwn i gyd gytuno ar yr angen i sicrhau bod ffermwyr Cymru yn parhau i ffermio; dyna egwyddor gyntaf ein diwygiadau. Fodd bynnag, mae'r heriau y bydd amaethyddiaeth Cymru yn eu hwynebu mewn dyfodol ar ôl Brexit yn galw am ateb soffistigedig sy'n gweithio i bob ffermwr, nid dychwelyd at bolisïau aflwyddiannus y gorffennol. Nid yw mynd ati'n syml i gynyddu nifer y defaid ar y bryniau yn galluogi ffermwyr i ffynnu ar ôl Brexit. Bydd angen ystyried canlyniadau trefniadau masnach, ond wrth gwrs, ar hyn o bryd nid oes gennym syniad sut fath o fynediad a fydd i farchnad yr UE.
Nodaf bwyntiau Plaid Cymru ynghylch risgiau a achosir o ganlyniad i adael y farchnad sengl a'r undeb tollau. Fodd bynnag, ni fydd y cynlluniau talu presennol yn galluogi ffermwyr i leihau'r risgiau hynny drwy addasu eu busnesau i'r amgylchedd economaidd newydd. Cynllun y taliad sylfaenol yw'r ffynhonnell fwyaf o arian o'r polisi amaethyddol cyffredin. Fodd bynnag, fel math o gymhorthdal incwm, nid yw'n darparu cymhellion ar gyfer arloesi, nac yn ymgorffori effeithlonrwydd busnes. Dros y 10 mlynedd diwethaf, gyda'r system bresennol o daliadau, mae cynhyrchiant wedi dirywio. Mae gwerth ychwanegol gros o amaethyddiaeth yng Nghymru wedi gostwng dros gyfnod pan fo gwerth ychwanegol gros Cymru wedi cynyddu dros 80 y cant. Dros yr un cyfnod, mae diogelwch y cyflenwad bwyd wedi lleihau, a chynefinoedd a rhywogaethau sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth wedi profi tuedd ar i lawr.