1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Medi 2018.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys? OAQ52627
Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn parhau i ragori ar y targed cenedlaethol i ymateb i alwadau lle ceir bygythiad uniongyrchol i fywyd neu alwadau coch o fewn wyth munud. Ym mis Awst, cafodd 74.4 y cant o alwadau coch ymateb o fewn wyth munud, gydag amser ymateb canolrif o ychydig dros bum munud.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Holais Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth am amseroedd ymateb ambiwlansys ym Mhowys, yn dilyn oediadau o ran yr amser y mae'n ei gymryd i ambiwlans gyrraedd yn dilyn galwad 999. Priodolwyd hyn yn rhannol i ambiwlansys yn disgwyl y tu allan i ysbytai i drosglwyddo cleifion i ofal staff yr ysbyty. Mewn llythyr ataf i ar 24 Gorffennaf, cadarnhaodd prif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bod amseroedd trosglwyddo cyfartalog ambiwlansys o fis Ionawr i fis Mehefin eleni yn naw munud yn Telford, 26 munud yn Amwythig, ac amser brawychus o awr a dau funud yn ysbyty Maelor Wrecsam. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddarparu manylion yr hyn yr ydych chi'n ei wneud i wella'r amser trosglwyddo yn ysbyty Maelor Wrecsam, sydd, wrth gwrs, o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, i osgoi oediadau pellach i amseroedd ymateb ambiwlansys i drigolion Sir Drefaldwyn.
Wel, yn amlwg mae problemau yn ysbytai Lloegr hefyd, a bydd adegau pan fydd y galw yn arbennig o ddwys. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho, fodd bynnag, yw, o ran Powys, ym mis Awst, yr ymatebwyd i 71.2 y cant o alwadau coch o fewn wyth munud—mae hynny'n uwch na'r targed cenedlaethol o 65 y cant am y pedwerydd mis yn olynol. Tua pedwar munud ac wyth eiliad oedd yr amser ymateb nodweddiadol ar gyfer y math hwnnw o alwad—yr amser ymateb nodweddiadol cyflymaf yng Nghymru y mis hwnnw. Ac, yn olaf, er nad oes targed amser ffurfiol ar waith ar gyfer galwadau ambr, 20 munud ac 17 eiliad oedd yr ymateb nodweddiadol ar gyfer galwad ambr ym Mhowys ym mis Ionawr, sydd unwaith eto yn well na'r cyfartaledd cenedlaethol o 24 munud ac 19 eiliad.
Rydym ni'n sôn fel arfer am ymateb ambiwlans i bobl sydd â salwch corfforol. Ond, wrth gwrs, mae yna bobl sydd ag anghenion salwch meddyliol hefyd, ac nid oes gennym ni dimau penodol sy'n ymateb i alwadau iechyd meddwl. Rŵan, yn Sweden—yn Stockholm, yn benodol—oherwydd y nifer uchel o hunanladdiadau, mae yna dîm arbennig wedi cael ei sefydlu, sef tîm ymateb brys seiciatryddol. Rŵan, o ystyried yr angen sydd yna am ymateb brys i bobl sydd ag anhwylder acíwt meddwl neu i'r rheini sydd mewn peryg o hunanladdiad, a ydych chi fel Prif Weinidog yn cytuno y dylai'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru fod yn edrych ar y posibilrwydd o greu tîm brys iechyd meddwl, neu dimau brys iechyd meddwl, hefyd yng Nghymru?
Mae hynny'n syniad diddorol. Rydym ni wedi canolbwyntio ar child and adolescent mental health services—ac nid yw hynny, wrth gwrs, yn cynnwys oedolion. Ond mae hi'n wir i ddweud, os yw rhywun â rhyw fath o grisis ynglŷn â'u hiechyd meddwl, wel nid ydynt yn tueddu i feddwl am ambiwlans a'r ysbyty o ran y lle cyntaf i fynd. Ond mae hynny'n rhywbeth, rwy'n credu, sy'n ddiddorol, yn werth edrych arno, ac fe ofynnaf i i'r Ysgrifennydd Cabinet ysgrifennu yn ôl at yr Aelod.
Prif Weinidog, bu cynnydd aruthrol i'r galw am ambiwlansys—cynnydd o tua 128 y cant dros y ddau ddegawd diwethaf. Ond mae'r model ymateb clinigol newydd i fod i sicrhau bod y rhai hynny sydd â'r mwyaf o angen yn cael yr ymateb cyflymaf—boed hynny'n ambiwlans â chriw llawn neu barafeddyg ymateb cyflym. Fodd bynnag, y llynedd, cymerodd 16 y cant o alwadau coch fwy na 10 munud ac arhosodd 68 o bobl mwy na hanner awr am ymateb brys. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod hyn yn annerbyniol, ac a wnewch chi amlinellu'r camau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i leihau nifer y galwadau coch sy'n cymryd mwy na 10 munud a dileu nifer y galwadau sy'n cymryd dros hanner awr i ymateb iddynt? Diolch.
Wel, byddwn i'n siomedig iawn pe byddai'n cymryd mwy na hanner awr i ymateb i alwadau coch. O ran galwadau coch, rydym ni ymhell uwchlaw'r targed. Nid yw'n 100 y cant—rwy'n deall hynny—ond rydym ni'n llawer uwch na'r targed o ran ambiwlansys yn cyrraedd pobl pan fydd eu hangen. Bu problem a godwyd o ran galwadau ambr, wrth gwrs. Ceir rhai cleifion sy'n parhau i aros yn hwy nag y byddem yn ei ddisgwyl, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi comisiynu prif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans i edrych ar y categori ambr, i gynnal adolygiad dan arweiniad clinigol o'r categori ambr. Mae hynny'n cynnwys galwadau difrifol ond nad ydynt yn fygythiad i fywyd—oddeutu dwy ran o dair o holl alwadau gwasanaeth ambiwlans Cymru, a dweud y gwir. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn diweddaru'r Aelodau yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.