1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Medi 2018.
2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prifysgolion Cymru? OAQ52647
Wel, rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd sector addysg uwch o'r radd flaenaf sy'n ffynnu i les economaidd a chymdeithasol Cymru. Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth, wrth gwrs, i'r sector trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a fydd, ynghyd â'n diwygiadau i gymorth myfyrwyr, yn creu sector cryfach a mwy cynaliadwy yng Nghymru.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Gwn y bydd y Prif Weinidog yn cytuno bod yr ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit yn cael effaith enfawr ar y sector prifysgolion. Yn anffodus, dioddefwyd y gostyngiad mwyaf yn y DU gan Gymru o ran nifer yr ymgeiswyr Undeb Ewropeaidd rhwng 2017 a 2018. Felly, pa gymorth all Llywodraeth Cymru ei gynnig i'r prifysgolion, sy'n amlwg yn rhan hanfodol o'n heconomi yng Nghymru, i atal neu geisio gwyrdroi'r duedd at i lawr hon o fyfyrwyr yr UE yn dod i brifysgolion Cymru?
Wel, gallaf ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cyhoeddi sawl elfen ychwanegol o gyllid ar gyfer CCAUC dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gan gynnwys £6 miliwn yn 2017-18 i ymdrin â goblygiadau byrdymor newid demograffig ac i baratoi ar gyfer goblygiadau Brexit. Rydym ni hefyd wedi dyrannu £3.5 miliwn i Cymru Fyd-eang hefyd o gronfa bontio Ewrop i hybu marchnata rhyngwladol a chysylltiadau ar gyfer y sector addysg uwch yng Nghymru, a byddwn yn edrych ar gyfleoedd pellach i gronfa bontio'r UE i gynorthwyo'r sector hwn.
Prif Weinidog, yn amlwg, nid yw'r cynnig yn ddigon cryf ar hyn o bryd. Pan edrychwch chi ar y ffigurau, mae gostyngiad o 7 y cant o wledydd nad ydynt yn yr UE a gostyngiad o 10 y cant o wledydd yr UE yn dod i brifysgolion yng Nghymru. Ac eto bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr a ymrestrodd ym mhrifysgolion Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr arian, sydd i'w groesawu, sut ydych chi'n mynd i newid y cynnig a fydd wir yn dechrau cael mwy o fyfyrwyr i ddod i Gymru, fel y cynigion eraill sydd ar gael mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac sy'n gweld cynnydd i'w niferoedd ymrestru?
Wel, ceir mater, wrth gwrs, sy'n effeithio ar y DU gyfan, sef y mater o'r hyn sy'n cael ei wneud o ran mudo. Mae myfyrwyr yn teimlo nad oes croeso iddynt. Yn sicr, mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi ei glywed lawer iawn o weithiau o ran myfyrwyr o India—maen nhw'n teimlo nad oes croeso iddyn nhw yn y DU. Mae hefyd yn bwysig dros ben ein bod ni'n gallu cael gafael ar y staff academaidd sydd eu hangen er mwyn i'n prifysgolion fod yn gystadleuol ac, yn y pen draw, dyna wraidd y mater—mae'r prifysgolion yn cystadlu mewn marchnad fyd-eang. Rwyf i eisoes wedi egluro'r hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran prifysgolion yng Nghymru ac, wrth gwrs, rwy'n frwd dros annog ein prifysgolion i werthu eu hunain dramor i ddeall eu bod yn gweithredu mewn marchnad fyd-eang ac, wrth gwrs, i wneud yn siŵr bod mwy o fyfyrwyr yn dod i Gymru oherwydd ansawdd yr addysg prifysgol sydd ar gael yma.
Ond mae'r pwynt yn ddilys, onid yw? Mae yna rywbeth unigryw ynglŷn â'r ffigurau yma yng Nghymru, oherwydd mae gweddill y Deyrnas Unedig wedi gweld cynnydd o 2 y cant yn y myfyrwyr israddedig sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd ond mae Cymru wedi gweld cwymp o 10 y cant. Nawr, awgrym gan eich Ysgrifennydd addysg chi, wrth gwrs, yw bod y ffordd y mae'r gefnogaeth i fyfyrwyr yng Nghymru wedi newid nawr yn golygu, wrth edrych ar y gefnogaeth, fod myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd yn gweld, efallai, neu'n cael y canfyddiad, y bydden nhw'n cael llai o gefnogaeth nag y bydden nhw yn y gorffennol. Felly, gyda hynny'n benodol mewn golwg, beth mae eich Llywodraeth chi'n ei wneud i farchnata'r cyfleoedd a'r gefnogaeth sydd yno i'r myfyrwyr hynny, oherwydd ar hyn o bryd mae'n amlwg nad ydyn nhw'n clywed y neges?
Wel, rydw i'n credu ei bod yn wir dweud bod yna effaith wedi bod ynglŷn â newid y system o gefnogaeth i fyfyrwyr. Byddai hynny'n rhywbeth hollol naturiol i'w weld. Mae'n anodd gwybod a yw hynny'n wir ai peidio heb edrych ar beth sy'n digwydd yn y pen draw, dros y blynyddoedd, i weld a yw hwn yn rhywbeth sydd yn anarferol neu i weld a yw hwn yn rhywbeth sydd yn trend. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae'n ddyletswydd ar y prifysgolion i farchnata eu hunain, ac, wrth gwrs, i edrych ar ddenu myfyrwyr i mewn i'w prifysgolion. Rydym ni'n gweithio gyda nhw fel Llywodraeth. Rydw i wedi gweithio gyda sawl prifysgol sydd wedi mynd dramor er mwyn gwerthu'r prifysgolion hynny ar draws y byd. Ond beth sy'n hollbwysig, wrth gwrs, yw sicrhau bod y staff academaidd gyda nhw sy'n gallu cynnig y fath o addysg y byddem ni'n moyn ei gweld. Ar hyn o bryd, beth sy'n peryglu hynny'n fwy na dim byd yw'r ffaith nad oes yna eglurder o gwbl ynglŷn â beth fydd statws staff academaidd o'r Undeb Ewropeaidd a gwledydd eraill yn y pen draw. A fydd croeso iddyn nhw ai peidio? Rydw i'n gobeithio, wrth gwrs, y bydd y croeso yn dal i fod yno.