Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 25 Medi 2018.
A gaf i ddiolch i Llŷr am ei groeso i'r llwybr a ddilynir? Rwy'n siŵr ein bod ni ill dau wedi darllen ac astudio'r ymchwil a'r dystiolaeth am allu hunanwerthusiad i symbylu gwelliannau a gallu system ysgol sydd yn ei gwella ei hun. Os edrychwn ar yr arfer gorau rhyngwladol mewn gwledydd sy'n perfformio'n uchel, mae ymddiriedaeth yn y proffesiwn, yn ogystal â system gadarn o hunanwerthuso a gweithio rhwng ysgol ac ysgol, yn hanfodol i ddatblygu system addysg.
Yn anffodus efallai yn rhai o'r ffyrdd lle yr oeddem wedi cael mesurau atebolrwydd yn y gorffennol, mae hynny wedi gweithio yn erbyn yr egwyddor honno o ysgolion yn rhannu arfer da. Os wyf i mewn chwartel, mae angen imi gael rhywun arall sy'n gwneud yn waeth na fi, felly pam ddylwn i rannu â chi'r dulliau sy'n gweithio'n dda i mi? Felly, mewn gwirionedd, yn y gorffennol, rydym wedi cael system o atebolrwydd a oedd efallai yn anfwriadol wedi gweithio yn erbyn yr egwyddor hon o ysgolion yn cydweithio'n agos ac yn codi safonau ar y cyd, sydd, fel y dywedais, fel y gwyddom o dystiolaeth ryngwladol, yn symbyliad cryf ar gyfer newid system addysg.
O ran amserlenni a'r pwynt pwysig a wnaeth Llŷr am brofi, byddwn yn rhoi prawf ar hyn yn y flwyddyn newydd, yn 2019. Rydych chi'n hollol iawn: mae angen inni ddeall pe byddai'r Llywodraeth yn tynnu'r lifer hwn, beth fyddai ystyr hynny o ddydd i ddydd yn ein hysgolion, ac nid ydym yn dymuno creu cyfres newydd o ganlyniadau anfwriadol yn sgil y newidiadau a wnawn. Felly, fe gaiff ei brofi. I ddechrau, ar hyn o bryd, rydym yn rhannu peth o'r syniadau â'n sector ysgol gynradd ar y ffordd y bydd yn gweithio yn y sector cynradd. Yr hyn sy'n bwysig ei nodi, Llŷr, yw bod y dull hunanwerthuso yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, fel bod gennym y trylwyredd a'r goruchwylio rhyngwladol, gydag Estyn, a fydd â'r swyddogaeth o ddilysu cyfundrefn hunanwerthuso ysgol, ac â'r proffesiwn ei hun fel ein bod yn gwybod ein bod yn dyfeisio system sy'n ymarferol mewn ysgol. Y peth gwaethaf y gallem ei wneud yw dylunio system nad yw, mewn gwirionedd, yn ymarferol ar gyfer ysgol i'w defnyddio a'i helpu i ysgogi gwelliant. Felly, mae'r proffesiwn ynghlwm yn ei datblygiad.
Ond credaf hefyd ei bod yn bwysig—.Rwy'n derbyn eich pwynt bod ysgolion unigol ac awdurdodau lleol yn gwneud gwahanol fathau o benderfyniadau ariannu, ond rwy'n credu bod angen inni gael cyd-ddealltwriaeth ledled y system am yr hyn a olygir wrth hunanwerthusiad ac rydym yn edrych ar yr un ffactorau ym mhob un o'n hysgolion. Unwaith eto, y pethau y byddem yn disgwyl eu gweld yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r fframwaith fyddai ei effeithiolrwydd fel sefydliad addysgol, sut mae'n dangos sut y gall yrru pethau ymlaen, effeithiolrwydd ei brosesau i wella ysgol, yn hanfodol o ran yr effaith ar y disgyblion. Pam ydym ni'n gwneud hyn? Beth yw diben gwneud hyn o gwbl os na fydd eich gwelliant yn arwain at ganlyniadau gwell ac effaith fwy cadarnhaol ar eich disgyblion ysgol? Cynnydd a chyflawniad ynghylch y cwricwlwm ei hun, mae'n amlwg, ond hefyd gan edrych ar fater llesiant.
Rydym wedi cael llawer o ddadleuon yn y Siambr hon yn ddiweddar am yr angen am ddull ysgol gyfan. Mae'n rhaid inni gael ffordd fwy soffistigedig o ddal ysgolion i gyfrif o ran llesiant. Ar ei waethaf, mae llesiant yn ymwneud ag 'A yw'r plant wedi dod i'r ysgol?' ac os ydyn nhw wedi dod, 'Wel, dyna ni, rydym yn mynd i'r afael â llesiant.' Gwyddom, o'r gwaith y mae'r pwyllgor wedi ei wneud, ei bod yn rhaid inni fod yn llawer mwy soffistigedig wrth edrych ar y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â llesiant. Mae angen dull ysgol gyfan arnom. Rydym yn gwybod hefyd bod ysgolion yn gwneud yr hyn y cânt eu gwerthuso arno, felly mae'n rhaid i hyn fod yn rhan bwysig o fframwaith hunanwerthuso wrth i ni fynd ymlaen.
Rydych chi'n iawn: un o'r heriau, Llŷr, yw creu amser ar gyfer hyn i gyd. Yn y lle cyntaf, roeddech chi'n nodi'n gywir ein bod yn rhoi adnoddau i ysgolion arloesi er mwyn gallu gwneud y gwaith hwn. Rydym yn bwriadu ariannu datblygiad cyfleoedd dysgu proffesiynol newydd a fydd yn ei gwneud yn fwy hwylus i bobl wrth fynd a dod rhwng gwahanol ysgolion. Felly, bydd angen adnoddau ar gyfer hynny ac, yn yr hirdymor, dyna pam yr ydym wedi comisiynu Mick Waters i wneud yr adroddiad a grybwyllwyd gennych chi eich hun yn gynharach mewn cwestiynau i arweinydd y tŷ, oherwydd mae hynny'n sôn am y ffordd y gallwn ddechrau meddwl am sut y gallwn wireddu'r pethau hyn gan ystyried cyfyngiadau bywyd gwaith prysur iawn yr athro. Byddaf yn ceisio ymateb yn llawn i'r adroddiad hwnnw pan fyddwn wedi cael cyfle i ystyried popeth sydd ynddo. Ond cefais fy nghalonogi yn fawr iawn eich bod wedi ei gael yn ddiddorol ac yn ysgogol iawn i'w ddarllen, ac mae hynny'n rhoi glasbrint ar gyfer y modd y gall rhai o'r materion hyn gael eu trin yn y tymor hwy mewn ffordd fwy cynaliadwy, yn hytrach na gorfod rhoi ffynonellau ariannu ynghyd drwy'r amser er mwyn i'r pethau hyn ddigwydd.