5. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: Blaenoriaethau ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 25 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:26, 25 Medi 2018

Diolch yn fawr, Cadeirydd gweithredol ar y pryd. Diolch yn fawr. A allaf hefyd ddiolch a chroesawu'r datganiad yma gan y Gweinidog ar flaenoriaethau ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru, a hefyd croesawu ymddangosiad y ddogfen yna heddiw y mae David Melding wedi cyfeirio ati eisoes? Achos, wrth gwrs, efo'r agenda yma mae gennym ni drysor yma; trysor i'w drysori yn wir. 

A allaf ddechrau drwy groesawu ambell i beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud eisoes? I ddechrau, pan rydych chi'n dweud eich bod yn cydnabod y cyfraniadau mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn eu gwneud yn eu rhinwedd eu hunain, ac mae ansawdd eu gwaith wedi creu argraff arnoch chi—wedi creu argraff arnom ni i gyd fe fuaswn i'n fodlon dweud—ac rydych chi ymhellach yn mynd ymlaen i ddweud,

'Nid wyf am weld y sefydliadau hyn yn colli eu hunaniaethau unigol.'

Clywch, clywch, ddywedwn ni, felly rwy'n eich llongyfarch chi ar allu dweud y fath ddatganiad.

Rydych chi'n mynd ymlaen cyn y diwedd i sôn am yr heriau ariannol i'r sector yma, wrth gwrs, wrth inni adael Ewrop. Felly, y cwestiwn sy'n deillio o hynny ydy: sut ydych chi fel y Gweinidog yn y fan hyn yn mynd i sicrhau parhad ariannol pan fydd yr arian Ewropeaidd yn dod i ben? 

Mae hwnnw'n un cwestiwn penodol ond, wrth gwrs, fel rydych chi wedi awgrymu, mae'r rhan fwyaf o hyn yn ymwneud â hanes cenedl y Cymry, ac angen i ehangu y profiad amgylcheddol drwy addysgu yn y man a'r lle. Hynny yw, wrth i'n pobl ni, ein disgyblion ni a'n plant ni fynd i ymweld â rhyw safle hanesyddol, fod yna hefyd rôl addysgiadol yn fanna yn dysgu ein hanes ni fel cenedl y Cymry. Rwy'n cydnabod eich bod wedi dechrau yn wirioneddol dros yr haf rŵan wrth danlinellu rôl cestyll y Cymry—hynny yw, fel castell y Bere, ac ati—i'w cyferbynnu efo'r cestyll arferol rydym yn clywed amdanyn nhw, megis Conwy, Biwmares, Harlech ac unrhyw gastell gormesol arall rydych chi eisiau sôn amdano fe.

Ond y pwynt sylweddol ydy: yn absenoldeb dysgu hanes ein gwlad ni fel Cymry yn ein hysgolion ni—rydym wedi cael amryw o drafodaethau yn y gorffennol, a byddwn yn parhau i gael y trafodaethau yna, sbo—a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n ofynnol i ddisgrifiadau yn ein cestyll ni olrhain hanes dewr y Cymry yn eu brwydr am annibyniaeth, a'r ffordd greulon y cawsom ni ein gormesu yn aml yn y gorffennol? Achos, wrth gwrs, fel rydych chi wedi ei gydnabod eisoes, yn ôl pob sôn, mae yna fwy o gestyll i'r filltir sgwâr yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn Ewrop. Mi allai hynny fod yn gryfder o ran gwerthu'r peth unigryw yma, ond hefyd mae'n adlais dwfn o'n hanes yn y gorffennol.

Felly, rwyf yn croesawu eich gwaith yr haf yma yng nghastell y Bere, wrth gwrs, castell y Cymry, yr olaf i ddisgyn i'r Saeson—neu'r Eingl-Normaniaid y buasai'n well i mi eu galw nhw yn fan hyn; mi ddaethant yn Saeson yn nes ymlaen—ac, wrth gwrs, cyfraniad castell Caergwrle a hefyd castell Cricieth. Ond yr haf yma, wrth imi fynd i ymweld ag un o'r cestyll Eingl-Normanaidd—hynny yw, castell Llansteffan ar y pryd—beth rydych chi'n ei gael yn fanna yw disgrifiad yn unig o fanylion yr adeiladwaith. Nid ydych yn cael dim byd o hanes y lle, na hanes y wlad o gwmpas, na hanes Cymru fel cenedl na dim byd. Rydych chi'n cael disgrifiadau o sut oedd y castell yma wedi datblygu dros y canrifoedd, beth oedd uchder y waliau ac yn y blaen, lle oedden nhw'n byw, lle y gwnaethon nhw symud ryw ddwy ganrif yn nes ymlaen. Nid oes yna olrhain pwt o'n hanes ni fel cenedl yn fanna—pam adeiladwyd y castell yna i ormesu'r Cymry lleol.

Wrth gwrs, fel rydw i wedi crybwyll eisoes, rydym ni erioed wedi clywed cryn dipyn am y cestyll mawrion yn y gogledd, fel Caernarfon a Harlech, sy'n amgylchynu'r gogledd, a gafodd eu hadeiladu gan Edward I i ormesu'r Cymry. Mae e'n hyfryd nodi, though, i Owain Glyndŵr wneud ei farc a rheoli Cymru o gastell Harlech am ryw bedair blynedd. Gwnaeth o lwyddo i gael mynediad i'r lle. Rydw i'n clodfori'r gwaith o gael hygyrchedd i gastell Harlech y dyddiau hyn, ond, wrth gwrs, bu rhywun yno o'r blaen ac yn rheoli cenedl annibynnol am ryw bedair blynedd. Dyna darddiad hanesyddol rhyfelgyrch gŵyr Harlech. Achos buaswn i'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn gallu cytuno â fi fod bod yn ymwybodol o'r hanes yma yn gallu osgoi embaras, felly, fel y fodrwy haearn bondigrybwyll yng nghastell Fflint y llynedd. Os byddech chi'n gwybod taw castell Fflint oedd y cyntaf i gael ei adeiladu ym modrwy ffyrnig, haearnaidd Edward I i ladd y Cymry yn y gorffennol, ni fyddech chi wedi dechrau ar y syniad o feddwl, 'Cawn ni fodrwy haearn, a dechreuwn ni o yng nghastell Fflint, yntefe?'

Jest i symud ymlaen, mae diogelu ein hamgylchedd hanesyddol yn bendant, rydw i'n credu, yn golygu diogelu ein henwau lleol hanesyddol traddodiadol hefyd. Rydym ni wedi clywed am ddigon o enghreifftiau, fel Cwm Cneifion yn Eryri yn dod yn 'Nameless Cwm', ac mae yna ddwsinau o enghreifftiau tebyg—sawl enw newydd Saesneg yn disodli'r enwau Cymraeg hanesyddol. Felly, a ydy'r Gweinidog yn dal i gredu ei fod o yn iawn i bleidleisio yn erbyn fy Mesur i i ddiogelu enwau hanesyddol y llynedd, ac, o gofio rydym ni'n dal i dderbyn esiamplau eleni o golli enwau hanesyddol, a oes ganddo unrhyw fwriad i roi diogelwch cyfreithiol i arbed a diogelu ein henwau hanesyddol? Wedi'r cwbl, mae planhigion prin yn cael eu diogelu yn gyfreithiol. Beth am amddiffyn ein henwau traddodiadol, sy'n ein diffinio ni fel Cymry?

Ac yn olaf—rydw i yn ymwybodol o'r amser—gwnaf i droi at fforwm addoldai Cymru, ac rydw i'n falch o weld cyfeiriad at hwnnw a hefyd yn falch o allu dathlu'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Rydw i'n siarad fel ysgrifennydd capel bywiog yn Abertawe a jest i gadarnhau bod yna hanes cyfoethog, fel rydym ni wedi ei glywed, gyda'n capeli a'n heglwysi yma yng Nghymru hefyd. Wedi'r cwbl, fel y clywsom ni gan David, efo anghydffurfiaeth ar ei hanterth, bu i un capel Cymreig newydd gael ei agor bob 10 diwrnod yn y 1880au. Yn y ddegawd honno, agorwyd un capel newydd bob 10 diwrnod. Ac mae'n bosib olrhain hanes Cristnogaeth yng Nghymru o amser y Rhufeiniaid ymlaen drwy fynd i'n hen eglwysi ac wedyn ein capeli a hefyd edrych ar ein hadfeilion Cristnogol. Fel rydw i wedi dweud eisoes, ac fel rydych chi wedi cyfeirio ato, mae yna waith clodwiw yn cael ei wneud yn y maes, ond a allaf i ofyn a fedr y Gweinidog ehangu ar y gwaith bendigedig sydd yn mynd ymlaen a gweld sut byddai gwahanol gynlluniau yn datblygu? Achos mae'n wir inni fod yn cloriannu ac yn clodfori hanes crefyddol ein gwlad hefyd. Diolch yn fawr.