– Senedd Cymru am 4:01 pm ar 25 Medi 2018.
Symudwn ni nawr at ddatganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: blaenoriaethau ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr, Gadeirydd gweithredol croesawgar.
Mae'n bleser gen i gyflwyno fy mlaenoriaethau ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, fel y'u nodwyd yn y ddogfen yr wyf yn gobeithio eich bod chi i gyd wedi'i derbyn y bore yma, sef y papur yma ymhlith ein cyhoeddiadau diweddaraf o'r adran diwylliant.
Mae'r blaenoriaethau yma yn cwmpasu pedair thema allweddol. Yn gyntaf, rydw i am inni adeiladu ar y cynnydd gwych rydym ni wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth ofalu am ein safleoedd a thirweddau hanesyddol unigryw. Yn ail, rydw i am sicrhau bod gyda ni'r sgiliau drwy'r sector er mwyn helpu i'w gwarchod yn briodol. Yn drydydd, rydw i am helpu pobl i fwynhau a gwerthfawrogi ein safleoedd hanesyddol a'u hannog i gymryd rhan fwy gweithgar ac amlwg yn y broses o ofalu am ein treftadaeth. Ac yna, yn olaf ac yn bedwerydd, mae ein safleoedd hanesyddol yn asedau sydd hefyd yn cyfrannu at fywiogrwydd economaidd Cymru. Maen nhw wedi gwneud cyfraniad sy'n ymestyn y tu hwnt i'w gwerth i gymdeithas a'n gwybodaeth am y gorffennol. Maen nhw'n gwneud cyfraniad sylweddol at dwristiaeth ac ymdrechion i hyrwyddo Cymru fel lleoliad unigryw i fuddsoddi ynddo, ac yn arbennig fel lle hynod i ni i gyd fyw a gweithio ynddo.
Fodd bynnag, mae'r themâu hyn yn dibynnu ar ei gilydd. Mae angen inni sicrhau bod yr amgylchedd hanesyddol yn gwneud y cyfraniad mwyaf posib at ein llesiant economaidd, ond fedrwn ni ddim manteisio ar werth economaidd ein treftadaeth os nad ydym ni'n gofalu amdani, ac mae angen talu am hynny. Felly, mae'r sector amgylchedd hanesyddol yn cynnal rôl allweddol yn y gwaith o gyflawni amcanion ehangach Llywodraeth Cymru. Mae'n cyfrannu at themâu strategaeth ffyniannus ‘Ffyniant i Bawb’, sydd yn rhan o'n strategaeth genedlaethol, drwy helpu i greu cenedl fwy ffyniannus, gweithgar ac unedig sy'n dysgu. Mae hefyd yn ategu'r uchelgeisiau a nodir yn ein cynllun gweithredu economaidd, drwy gydnabod y lleoedd arbennig yma sy'n asgwrn cefn economïau lleol ar draws Cymru. Ond yn fwy na dim, mae'r amgylchedd hanesyddol wrth wraidd ein nodau llesiant a'n hymdeimlad o falchder fel cenedl, peth sy'n amhosibl rhoi pris arno, fe fyddwn i’n tybio.
A dod nôl at y thema gyntaf, y man cychwyn ydy gofalu am ein hamgylchedd hanesyddol. Fe wnaethom ni gyflwyno fe Llywodraeth, cyn i mi ymuno â hi, Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 a'r canllawiau a’r rheoliadau cysylltiedig. Rydym yn cynnal a chadw ac yn gofalu am y 130 o henebion sydd yng ngofal y Llywodraeth. Rydym hefyd yn helpu perchenogion preifat ac ymddiriedolaethau i ofalu am ein hasedau pwysig, p'un ai drwy grantiau neu gyngor ac arweiniad.
At yr ail thema, mae'r broses o ddiogelu a gwarchod ein hamgylchedd hanesyddol yn dibynnu ar ddealltwriaeth o'i briodweddau arbennig a set o sgiliau crefft cadwraeth benodol. Rwy'n awyddus iawn i gefnogi camau i feithrin y ddealltwriaeth honno a datblygu'r sail sgiliau ymarferol. Er mwyn gwneud hyn, bydd raid prif ffrydio sgiliau crefft treftadaeth yn y diwydiant adeiladu ehangach ac yn y cwricwlwm sgiliau, ac adeiladu ar yr enghreifftiau sefydledig sydd i'w gweld eisoes o fewn cyrsiau'r meysydd llafur yma.
Er mwyn cyflawni'r drydedd thema—trysori a mwynhau ein hamgylchedd hanesyddol gwerthfawr—rydw i am annog llawer mwy o bobl i ymweld â'n safleoedd hanesyddol ac i'w gwneud hi'n haws iddyn nhw i gyd, beth bynnag fo'u hanghenion neu'u galwadau personol, wneud hynny.
Mae niferoedd ymweld yn bwysig. Yn ystod 2016-17, fe ymwelodd dros 1.4 miliwn o bobl â 24 o safleoedd Cadw sydd wedi'u staffio. Fodd bynnag, mae yna gyfle inni wneud mwy i annog ymwelwyr iau, ac rydw i’n awyddus i weld mwy o weithgareddau'n cael eu cynnal i'r teulu yn henebion Cadw a deunydd dehongli diddorol. A dyna yw ystyr digwyddiadau difyr megis agor Drysfa Gilbert a Ffau'r Dreigiau yng nghastell Caerffili, ym mhresenoldeb yr Aelod Cynulliad lleol, wrth gwrs. Roedd y rhyfeddod ar wynebau'r plant a'r oedolion yn brofiad llawen iawn ac amhrisiadwy i mi.
Hefyd, mae angen inni barhau i wella mynediad i'r rhai sydd â chwestiynau a phroblemau ynglŷn â symud, a gwneud hynny mor effeithiol ag y gallwn ni. Rydw i'n gobeithio bod rhai ohonoch chi wedi cael cyfle i weld y pontydd mynediad rhagorol yng nghastell Caernarfon ac yng nghastell Harlech. Rydw i am weld cynnydd sylweddol yn y gwella ar y mynediad at lefelau uwch rhai o'n cestyll mewn ffordd sy'n gydnaws â'u cymeriad hanesyddol a heb darfu ar y profiad unigryw o fod o fewn henebion o'r math yma. Hefyd, rydw i wedi gofyn i Cadw ailystyried y canllawiau ar fynediad hawdd i bawb i adeiladau hanesyddol a sicrhau eu bod nhw'n cyd-fynd â'r farn a'r safon ddiweddaraf. Mae mynediad at safleoedd Cadw, wrth gwrs, yn dechrau ymhell cyn i ymwelwyr gyrraedd y fynedfa. Rydw i wedi gofyn am adolygiad o'r ffordd y mae ymwelwyr yn teithio i henebion Cadw, sy'n ystyried arwyddion, parcio, llwybrau cerdded, darpariaeth seiclo, a hefyd ar gydlynu trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r angen i gynnal partneriaethau effeithiol yn sail i lwyddiant y pedair thema rydw i wedi eu hamlinellu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o lwyddiannau sector yr amgylchedd hanesyddol wedi bod yn seiliedig ar bartneriaethau o'r fath, gan gynnwys y rhai â'r grŵp penodol sydd yn ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol, y fforwm treftadaeth adeiledig ac, wrth gwrs, awdurdodau lleol, sy'n hollbwysig inni allu gweithredu'n effeithiol ar y rheng flaen yn lleol. Yn fwy diweddar, mae fforwm addoldai Cymru—ac rydw i wedi cael y cyfle i fod yn un o'u cyfarfodydd nhw'n weddol ddiweddar—yn mynd i'r afael â chwestiwn anodd sydd gyda ni sydd yn aelodau o gymunedau ffydd o weld lleihau cynulleidfaoedd crefyddol: y ffaith bod nifer gynyddol o gapeli ac eglwysi, bellach, yn segur, a hwythau wedi bod, yn y gorffennol o leiaf, yn ffocws i'w cymunedau.
Mae'r bartneriaeth strategol newydd rhwng Cadw a'r tri sefydliad treftadaeth cenedlaethol arall yng Nghymru yn rhoi safle gwirioneddol i rannu sgiliau a phrofiad masnachol—sut i sicrhau refeniw a chyllid a'u cael i mewn i'r gwaith o dreftadaeth—ac rydw i’n edrych ymlaen at gael adroddiadau rheolaidd ar gynnydd yn y cyfeiriad yma. Ar yr un pryd, fel un a fu'n byw yn y llyfrgell genedlaethol, bron, am rai blynyddoedd, mewn cyfnod lle roeddwn i'n ceisio bod yn ysgolhaig, cyn imi ddilyn temtasiynau eraill—nid yw hynny yn y datganiad swyddogol, gyda llaw—rydw i am gydnabod cyfraniad y llyfrgell genedlaethol, yr amgueddfa genedlaethol a'r comisiwn brenhinol henebion, a'r gwaith y mae'r rhain yn ei wneud, yn eu hawl eu hunain, ansawdd eu gwaith, a'u pwysigrwydd, yn fy marn i. Fel y dadleuais i, beth amser yn ôl, mewn sefyllfa wahanol, ynglŷn â'u dyfodol nhw, mae eu gwaith unigryw nhw ac ansawdd eu gwaith nhw fel cyrff unigol yn bwysig iawn. Nid ydw i am weld y sefydliadau hyn, felly, yn colli eu hunaniaethau unigol, ond rydw i yn edrych ymlaen at ddatblygiad trefniadau llywodraethol newydd o fewn Cadw: sefydlu bwrdd mewnol newydd, a fydd yn digwydd yn ystod y misoedd nesaf, a mwy o gymorth gweithredol, wedyn, yn galluogi Cadw i weithredu'n fwy effeithiol, ochr yn ochr â'i bartneriaid mewn amgylchedd masnachol.
Rydw i'n dod i ben rŵan, mae'n dda gen i ddweud. Mae sector yr amgylchedd hanesyddol yn wynebu cyfnod anodd oherwydd pwysau ariannol ac ansicrwydd y dyfodol. Mae'r sector wedi manteisio'n sylweddol, fel y gwyddom ni, ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd dros y blynyddoedd, ac mi fydd y broses o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—ond nid ag Ewrop, ac nid byth â diwylliant Ewrop—yn arwain at heriau sylweddol. Ond mae o hefyd yn gyfnod cyffrous. Mae'r ffaith ein bod ni wedi cyflawni cymaint dros y blynyddoedd diwethaf yn brawf o'r partneriaethau llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru, drwy Cadw, wedi'u sefydlu gydag ystod eang o randdeiliaid. Mae yna gyfle go iawn bellach i'n treftadaeth ragorol fod yn ganolog i'n llesiant yn y dyfodol. Dyma yw gwraidd ein hunaniaeth ddiwylliannol fel cenedl, a hyn sydd yn dweud stori Cymru wrth y byd. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o wneud fy nghyfraniad cyntaf fel llefarydd treftadaeth a diwylliant newydd fy mhlaid, yn dilyn enghraifft wych y sawl sydd yn awr yn cadeirio ein trafodion; rwy'n credu bod hynny'n gyswllt rhagorol. A gaf i ddweud, Gweinidog, ers 12 mlynedd nodedig iawn, rydych chi wedi bod yn eistedd yn y gadair honno ac wedi hyrwyddo'r cysyniad o her adeiladol, a dyna'r math o berthynas rwy'n credu y bydd gennym ni bellach, ac mae'n un yr wyf yn edrych ymlaen ati yn fawr?
Rwyf yn cymeradwyo'r ddogfen. Rwy'n credu ei bod wedi ei gosod allan yn dda gyda darluniau pwrpasol. Roeddwn yn arbennig o falch o weld llun yno o Abaty Nedd—yn fwy penodol, y ffordd yr addaswyd Abaty Nedd ar ôl terfysg y diwygiad Protestannaidd, a'i foderneiddio'n braf gan y Tuduriaid i fod yn blasty a phreswylfa, sy'n ein hatgoffa o'r grymoedd anhygoel sydd gennym ni mewn hanes. Ond fe'm ganwyd i ddwy filltir o'r safle hwn. Mae'r rhan fwyaf o'm teulu yn byw yn weddol agos ato, hyd yn oed heddiw, a phan rwy'n dychwelyd i Gastell-nedd, rwy'n aml yn mynd am dro sy'n mynd â mi i lawr i Abaty Nedd ar hyd Camlas Tennant. Rydych chi'n gweld y gamlas yno, ac wedyn yr arwyddion cynnar eraill o ddiwydiannu a gweithfeydd copr, a'r abaty. Mae'n olygfa ryfeddol. Credaf ei fod yn gymharol, bron—bron; doedd ganddo ddim bardd rhamantus—gydag Abaty Tyndyrn, ac fe ddylem gofio bod gennym ni'r safleoedd hyn. Maen nhw fymryn bach yn is na'r uwch-gynghrair, ond yn werthfawr iawn, a gwn pa mor falch yw pobl Castell-nedd o Abaty Nedd. Nid oes gennym ni gastell godidog o'r fath. Ein prif safle hanesyddol, o'r oes honno, yw'r abaty, ac rwy'n falch o weld darluniau ohono.
A gaf i gymeradwyo eich ymrwymiad i gydweithio? Credaf, yn y sector hwn, bod hyn yn allweddol. Bu'r gwaith gyda gwirfoddolwyr a gwaith gyda grwpiau dinesig bob amser yn aruthrol iawn. Yn wir, yn yr 1920au, pan oedd grŵp archeolegol mawr yn gweithio ar olion Abaty Nedd, yn gymysgedd o academyddion a phobl mewn cymdeithasau dinesig a phobl a oedd yn ddim ond selogion—fe wnaeth hynny fraenaru'r tir. Mae'n bwysig iawn, iawn. Tybed a fyddai modd efallai hyd yn oed mynd mor bell â chanmol gwaith Dr Mark Baker. Mae fy nghyd-Aelod yn gynghorydd Ceidwadol yn y gogledd, ond mae ei ymrwymiad i dreftadaeth yn hynod, ac mae wedi ei gydnabod am ei waith yn arbed a gwarchod Castell Gwrych—gwaith a ddechreuodd pan oedd yn 13 oed yn unig—ac mae Prif Weinidog y DU wedi ei gydnabod â gwobr Points of Light arbennig. Nid wyf yn gwneud pwynt pleidiol yma o gwbl; dim ond dweud yr wyf i mai pobl â'r weledigaeth honno sy'n allweddol mewn gwirionedd, oherwydd maen nhw'n gwerthfawrogi eu safleoedd lleol ac yn gweld eu gwir arwyddocâd, fel yr awgrymais efallai gydag Abaty Nedd.
O sôn am Abaty Nedd, rwy'n amlwg yn falch o weld y cyfeiriad at Fforwm Addoldai Cymru. Cyfeiriasoch at hyn a'r dreftadaeth anhygoel sydd gennym ni gyda chapeli. Rwy'n credu bod rhywbeth fel un yr wythnos yn cael ei agor yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg—5,000 neu fwy o fannau addoli. Un o arwyddion mawr o gynnydd y ffydd Gristnogol efengylaidd, ac mae'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch ohono. Yn amlwg, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo ymlyniad i'r math hwnnw o Gristnogaeth werinol mwyach, ond roedd yn bwysig iawn, iawn.
Ac a gaf i gymeradwyo, nawr nad wyf yn gwasanaethu ardal Castell-nedd—bu fy mywyd gwleidyddol i yma yng Nghanol De Cymru—y prosiect tirweddau ffydd, sy'n cael ei redeg gan Esgobaeth Llandaf rwy'n credu, a ddylai fod yn amlwg yn hyn o beth, ac am eu partneriaeth â sefydliadau eraill fel Sefydliad Coleridge yng Nghymru? Rwy'n credu bod hynny'n dangos y dychymyg sydd ei wir angen arnom ni. Mae'n bwysig iawn, iawn ein bod yn dilyn nod eu prosiect i hyrwyddo Cymru fel lle rhyngwladol pwysig i ddarganfod treftadaeth ffydd a chredoau, ac fe allem ni gymhwyso hynny yn y meysydd eraill o ddiddordeb hanesyddol a diwylliannol.
Rwy'n credu mai'r peth allweddol yn hyn o beth yw sut yr ydym ni'n defnyddio mannau addoli rhestredig er mwyn eu cynnal nhw. Ac mae gwir angen canfod defnydd i'r rhai mwyaf godidog, ac efallai y gallai'r defnydd hwnnw amrywio o oriel—un draddodiadol—ond gallai fod yn dŷ bwyta, gallai fod yn ganolfan gymunedol o ryw fath; amrywiaeth o bethau. Ac mae angen inni warchod yr adeiladau hynny, ond mae angen inni eu defnyddio, ac rwy'n credu bod hynny'n allweddol.
Roeddwn yn falch eich bod wedi cyfeirio at Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, sydd wrth gwrs yn ceisio dynodi a gwarchod ystod gyfan o safleoedd hanesyddol pwysig. Mae llawer o'r rhain bellach yn cael eu datgelu gan dechnegau mapio newydd a ffotograffiaeth o'r awyr, yn enwedig y rheini sy'n perthyn i'r cyfnod canoloesol cynnar, oes yr haearn, a hyd yn oed yr oes Neolithig. Rydym yn darganfod nifer rhyfeddol o safleoedd, a bydd llawer ohonynt yn sicr o arwyddocâd rhyngwladol, o bosib, oherwydd cryfder y diwylliannau cynnar hynny yn y rhan hon o orllewin Ewrop ar hyd yr arfordir. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, iawn, ein bod yn cefnogi pobl, tirfeddianwyr yn arbennig a'r cynghorau lleol, lle bynnag y mae'r safleoedd hyn, a'u diogelu ac yna, yn amlwg, eu dehongli, oherwydd bydd rhai ohonynt yn sicr yn dod i'r amlwg fel safleoedd o'r pwysigrwydd mwyaf.
A gaf i orffen gan ddod i gasgliad ynghylch marchnata a thwristiaeth? Fel y dywed y ddogfen, yn ymarferol mae'n ddiwydiant gwerth £1 biliwn yng Nghymru, a chredaf eich bod yn iawn i sôn am y potensial economaidd a'r angen i ni gael gweledigaeth ar gyfer Cymru. Rwy'n falch bod cestyll yn cael eu crybwyll, oherwydd mae'n hawdd i ni weld hyn fel math o orthrwm Eingl-Normanaidd ar Gymru, ond yr ochr arall o ddehongli hynny oedd y buddsoddiad milwrol oedd ei angen i reoli'r ardal honno, ac mae'n ganmoliaeth ryfeddol mewn ffordd ryfedd.
Ond os ydym yn edrych ar Gastell Conwy, er enghraifft, mae ganddo, rwy'n credu, yr hawl fwyaf digamsyniol i fod yn uchafbwynt y gwaith o adeiladu cestyll, ac mae'r adeilad yn ddelfrydol fel castell caerog ar gyfer ei ardal ddaearyddol ac ar gyfer—yn yr achos hwnnw— diben gwleidyddol creulon. Mae'n bwysig pan fydd pobl yn dod i Brydain i ymweld â chestyll eu bod yn sylweddoli os ydynt eisiau gweld sut mae castell caerog yn gweithio—ac mae wedi ei gadw bron yn berffaith; nid adfail mohono, mae fel y cafodd ei adeiladu, fwy neu lai—mae angen iddyn nhw fynd i Gonwy.
Ac a gaf i orffen drwy ddweud y credaf fod technoleg fodern yn faes allweddol yn hyn o beth a bod sgiliau yn bwysig iawn? Hoffwn glywed yn benodol am unrhyw beth y byddwch yn ei wneud yn y maes digidol, dehongli diwylliannol ac o ran adnoddau. Mae gan Lywodraeth y DU brosiect digidol, diwylliannol penodol. Rwy'n siŵr ein bod yn gwneud rhywbeth tebyg, ond byddai ychydig mwy o wybodaeth ynglŷn â hynny yn bwysig, oherwydd gall pobl weld hynny yng Ngogledd America, Awstralia, neu ble bynnag arall, a phan maen nhw'n cynllunio eu taith, gallant gael gwybod am, ac yna gael ymweliad rhithwir â Chastell Conwy, ac yna dod i'w weld fel y mae'n bodoli. Ond byddwn yn gweithio'n adeiladol yn y maes pwysig iawn hwn i sicrhau bod Cymru yn cael y gwerth mwyaf posib ar gyfer ei dinasyddion ei hun, i ni i gyd, ond hefyd i'r rhai sy'n ymweld â ni.
Diolch yn fawr iawn ichi, David, am eich sylwadau cadarnhaol a hael.
Ymwelais â Chastell-nedd, ac roedd yn agoriad llygad i mi weld y ffordd y llwyddwyd i adfer yr abaty. Mewn gwirionedd fe sefais yno yn syllu ar y gwaith pwyntio a gyflawnwyd gan y rhai a gyflogir gan Cadw ar y gwaith ar y safle hwnnw. Ond fe geir hefyd, fel y byddai fy nghyd-Aelod ar fy chwith yma yn fy atgoffa i, y gwaith haearn. Mae'r ardal gyfan honno o amgylch Castell-nedd, gan gynnwys y system gamlas, yn faes y gellid ei ddatblygu, rwy'n credu, er na ddylwn i ddweud gormod, oherwydd, yn amlwg, mae buddiannau masnachol, o ran pobl sy'n weithgar yn y maes hwnnw gyda'u busnesau eu hunain. Ond rwy'n siŵr y gellid datblygu'r ardal yn brif atyniad ardal gadwraeth i dwristiaid sy'n ymweld.
Ac yn yr un modd, ymwelais â Gwrych—sut na allwn i beidio ag ymweld â Chastell Gwrych, oherwydd rwy'n byw dim ond rhyw 10 milltir o'r safle— a gweld y gwaith rhyfeddol y mae'r Dr Mark Baker yn ei wneud yno. Ar ei ben ei hun mae wedi gwarchod a diogelu hen dir hela y Tywysog Llywelyn yn fy ardal i fy hun, sef Dwyfor, ac mae'n berson hynod llawn dychymyg ac yn adnodd gwych i ni. Ac yn wir, rydym wedi buddsoddi yn y gwaith cychwynol o gynnal a chadw ac adfer Castell Gwrych. Nid yw'n ffolineb; mae'n ymdrech unigryw i ailadeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ryfeddodau y cyfnod canoloesol, ac felly mae'n cyfateb, mae'n debyg, i fynd yn ôl i fy ngorffennol academaidd i fy hun, i lenyddiaeth ramantus, llenyddiaeth a barddoniaeth ramantus yn benodol. Mae'n adeilad, fel petai, yn nhraddodiad Samuel Taylor Coleridge. Ac felly, mae cynnal hynny a'i leoliad penodol, yn weladwy fel y mae o'r A55 ac o brif reilffordd gogledd Cymru, a'i ailadeiladu fel atyniad i dwristiaid, rwy'n credu, yn gyfle enfawr.
Rwyf hefyd yn falch o ddweud fy mod ar fin ymweld â chadeirlan fawr anghydffurfiaeth yn Nhreforys.
Mae croeso cynnes i chi.
Felly, credaf y byddaf yn cadw fy sylwadau ar gapeli i mi fy hun nes fy mod wedi cael y drafodaeth honno yn Nhreforys, ond rwyf yn awyddus i weld beth y gallwn ei wneud gyda threftadaeth y capeli. Mae llawer ohonynt eisoes wedi cael eu trosi'n dai preifat godidog. Mae rhai ohonynt wedi eu troi yn garejys, mae rhai ohonynt yn garejys da iawn. Mae'n bwysig cydnabod yr holl ddefnyddiau hyn sydd gennym ar gyfer ein hadeiladau crefyddol, yn fy marn i.
Rwyf hefyd wedi cael cyfle gwych i ymweld â rhai o'r safleoedd Neolithig. Mae Bryn Celli Ddu ar y safle hwnnw ar Ynys Môn yn lle anhygoel. Mae'r gwaith sydd wedi'i wneud eisoes i warchod y lle hwnnw gan bobl fel Dr Ffion Reynolds ac eraill yn Cadw yn hyfrydwch enfawr a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn hynny.
Mae cestyll yn arbennig iawn oherwydd, fel y dywedasoch chi yn briodol iawn gynnau, David, mae'n ymwneud â'r etifeddiaeth Eingl-Normanaidd. Mae'n ymwneud â Llywodraeth Cymru yn gofalu am safleoedd milwrol mawr a sefydlwyd ar gyfer ymgais aneffeithiol ar goncwest. Yr hyn sydd yr un mor bwysig i mi yw cestyll yr Arglwyddi a'r Tywysogion, a byddwn yn hybu'r rheini hefyd. Ond mae'r ddeubeth hyn yn ddrama o hanes Cymru, ac os gallwn gyfleu'r rheini i'n hymwelwyr ac, yn wir, yn ddigidol i'r rhai sydd heb fod yno eto, mae hynny'n rhan o swyddogaeth Llywodraeth, oherwydd fel y dywedais tua thair gwaith, rwy'n credu, yn y datganiad hwn, dyna ein hunaniaeth a'r hyn sy'n gwneud Cymru yn wahanol yn y byd. Felly, mae'n rhywbeth yr wyf yn teimlo'n gryf iawn ynglŷn â'i hyrwyddo. Diolch.
Gyda llaw, mae croeso bob amser i lefarwyr y gwrthbleidiau ddod i drafod y materion hyn, oherwydd nid yw treftadaeth Cymru yn perthyn i Lywodraeth Cymru yn unig.
Diolch yn fawr, Cadeirydd gweithredol ar y pryd. Diolch yn fawr. A allaf hefyd ddiolch a chroesawu'r datganiad yma gan y Gweinidog ar flaenoriaethau ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru, a hefyd croesawu ymddangosiad y ddogfen yna heddiw y mae David Melding wedi cyfeirio ati eisoes? Achos, wrth gwrs, efo'r agenda yma mae gennym ni drysor yma; trysor i'w drysori yn wir.
A allaf ddechrau drwy groesawu ambell i beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud eisoes? I ddechrau, pan rydych chi'n dweud eich bod yn cydnabod y cyfraniadau mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn eu gwneud yn eu rhinwedd eu hunain, ac mae ansawdd eu gwaith wedi creu argraff arnoch chi—wedi creu argraff arnom ni i gyd fe fuaswn i'n fodlon dweud—ac rydych chi ymhellach yn mynd ymlaen i ddweud,
'Nid wyf am weld y sefydliadau hyn yn colli eu hunaniaethau unigol.'
Clywch, clywch, ddywedwn ni, felly rwy'n eich llongyfarch chi ar allu dweud y fath ddatganiad.
Rydych chi'n mynd ymlaen cyn y diwedd i sôn am yr heriau ariannol i'r sector yma, wrth gwrs, wrth inni adael Ewrop. Felly, y cwestiwn sy'n deillio o hynny ydy: sut ydych chi fel y Gweinidog yn y fan hyn yn mynd i sicrhau parhad ariannol pan fydd yr arian Ewropeaidd yn dod i ben?
Mae hwnnw'n un cwestiwn penodol ond, wrth gwrs, fel rydych chi wedi awgrymu, mae'r rhan fwyaf o hyn yn ymwneud â hanes cenedl y Cymry, ac angen i ehangu y profiad amgylcheddol drwy addysgu yn y man a'r lle. Hynny yw, wrth i'n pobl ni, ein disgyblion ni a'n plant ni fynd i ymweld â rhyw safle hanesyddol, fod yna hefyd rôl addysgiadol yn fanna yn dysgu ein hanes ni fel cenedl y Cymry. Rwy'n cydnabod eich bod wedi dechrau yn wirioneddol dros yr haf rŵan wrth danlinellu rôl cestyll y Cymry—hynny yw, fel castell y Bere, ac ati—i'w cyferbynnu efo'r cestyll arferol rydym yn clywed amdanyn nhw, megis Conwy, Biwmares, Harlech ac unrhyw gastell gormesol arall rydych chi eisiau sôn amdano fe.
Ond y pwynt sylweddol ydy: yn absenoldeb dysgu hanes ein gwlad ni fel Cymry yn ein hysgolion ni—rydym wedi cael amryw o drafodaethau yn y gorffennol, a byddwn yn parhau i gael y trafodaethau yna, sbo—a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n ofynnol i ddisgrifiadau yn ein cestyll ni olrhain hanes dewr y Cymry yn eu brwydr am annibyniaeth, a'r ffordd greulon y cawsom ni ein gormesu yn aml yn y gorffennol? Achos, wrth gwrs, fel rydych chi wedi ei gydnabod eisoes, yn ôl pob sôn, mae yna fwy o gestyll i'r filltir sgwâr yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn Ewrop. Mi allai hynny fod yn gryfder o ran gwerthu'r peth unigryw yma, ond hefyd mae'n adlais dwfn o'n hanes yn y gorffennol.
Felly, rwyf yn croesawu eich gwaith yr haf yma yng nghastell y Bere, wrth gwrs, castell y Cymry, yr olaf i ddisgyn i'r Saeson—neu'r Eingl-Normaniaid y buasai'n well i mi eu galw nhw yn fan hyn; mi ddaethant yn Saeson yn nes ymlaen—ac, wrth gwrs, cyfraniad castell Caergwrle a hefyd castell Cricieth. Ond yr haf yma, wrth imi fynd i ymweld ag un o'r cestyll Eingl-Normanaidd—hynny yw, castell Llansteffan ar y pryd—beth rydych chi'n ei gael yn fanna yw disgrifiad yn unig o fanylion yr adeiladwaith. Nid ydych yn cael dim byd o hanes y lle, na hanes y wlad o gwmpas, na hanes Cymru fel cenedl na dim byd. Rydych chi'n cael disgrifiadau o sut oedd y castell yma wedi datblygu dros y canrifoedd, beth oedd uchder y waliau ac yn y blaen, lle oedden nhw'n byw, lle y gwnaethon nhw symud ryw ddwy ganrif yn nes ymlaen. Nid oes yna olrhain pwt o'n hanes ni fel cenedl yn fanna—pam adeiladwyd y castell yna i ormesu'r Cymry lleol.
Wrth gwrs, fel rydw i wedi crybwyll eisoes, rydym ni erioed wedi clywed cryn dipyn am y cestyll mawrion yn y gogledd, fel Caernarfon a Harlech, sy'n amgylchynu'r gogledd, a gafodd eu hadeiladu gan Edward I i ormesu'r Cymry. Mae e'n hyfryd nodi, though, i Owain Glyndŵr wneud ei farc a rheoli Cymru o gastell Harlech am ryw bedair blynedd. Gwnaeth o lwyddo i gael mynediad i'r lle. Rydw i'n clodfori'r gwaith o gael hygyrchedd i gastell Harlech y dyddiau hyn, ond, wrth gwrs, bu rhywun yno o'r blaen ac yn rheoli cenedl annibynnol am ryw bedair blynedd. Dyna darddiad hanesyddol rhyfelgyrch gŵyr Harlech. Achos buaswn i'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn gallu cytuno â fi fod bod yn ymwybodol o'r hanes yma yn gallu osgoi embaras, felly, fel y fodrwy haearn bondigrybwyll yng nghastell Fflint y llynedd. Os byddech chi'n gwybod taw castell Fflint oedd y cyntaf i gael ei adeiladu ym modrwy ffyrnig, haearnaidd Edward I i ladd y Cymry yn y gorffennol, ni fyddech chi wedi dechrau ar y syniad o feddwl, 'Cawn ni fodrwy haearn, a dechreuwn ni o yng nghastell Fflint, yntefe?'
Jest i symud ymlaen, mae diogelu ein hamgylchedd hanesyddol yn bendant, rydw i'n credu, yn golygu diogelu ein henwau lleol hanesyddol traddodiadol hefyd. Rydym ni wedi clywed am ddigon o enghreifftiau, fel Cwm Cneifion yn Eryri yn dod yn 'Nameless Cwm', ac mae yna ddwsinau o enghreifftiau tebyg—sawl enw newydd Saesneg yn disodli'r enwau Cymraeg hanesyddol. Felly, a ydy'r Gweinidog yn dal i gredu ei fod o yn iawn i bleidleisio yn erbyn fy Mesur i i ddiogelu enwau hanesyddol y llynedd, ac, o gofio rydym ni'n dal i dderbyn esiamplau eleni o golli enwau hanesyddol, a oes ganddo unrhyw fwriad i roi diogelwch cyfreithiol i arbed a diogelu ein henwau hanesyddol? Wedi'r cwbl, mae planhigion prin yn cael eu diogelu yn gyfreithiol. Beth am amddiffyn ein henwau traddodiadol, sy'n ein diffinio ni fel Cymry?
Ac yn olaf—rydw i yn ymwybodol o'r amser—gwnaf i droi at fforwm addoldai Cymru, ac rydw i'n falch o weld cyfeiriad at hwnnw a hefyd yn falch o allu dathlu'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Rydw i'n siarad fel ysgrifennydd capel bywiog yn Abertawe a jest i gadarnhau bod yna hanes cyfoethog, fel rydym ni wedi ei glywed, gyda'n capeli a'n heglwysi yma yng Nghymru hefyd. Wedi'r cwbl, fel y clywsom ni gan David, efo anghydffurfiaeth ar ei hanterth, bu i un capel Cymreig newydd gael ei agor bob 10 diwrnod yn y 1880au. Yn y ddegawd honno, agorwyd un capel newydd bob 10 diwrnod. Ac mae'n bosib olrhain hanes Cristnogaeth yng Nghymru o amser y Rhufeiniaid ymlaen drwy fynd i'n hen eglwysi ac wedyn ein capeli a hefyd edrych ar ein hadfeilion Cristnogol. Fel rydw i wedi dweud eisoes, ac fel rydych chi wedi cyfeirio ato, mae yna waith clodwiw yn cael ei wneud yn y maes, ond a allaf i ofyn a fedr y Gweinidog ehangu ar y gwaith bendigedig sydd yn mynd ymlaen a gweld sut byddai gwahanol gynlluniau yn datblygu? Achos mae'n wir inni fod yn cloriannu ac yn clodfori hanes crefyddol ein gwlad hefyd. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr i Dai am y sylwadau yna. A gaf i ddechrau drwy ddweud nad wyf i'n ymddiheurio am roi llun Capel Tegid, y Bala, lle oedd fy niweddar annwyl fam yn ddiacones, neu yn flaenores fel sydd gyda'r Hen Gorff, am flynyddoedd ar y dudalen yna? Oherwydd mae'r etifeddiaeth anghydffurfiol, etifeddiaeth y capeli, yn allweddol bwysig, fel y cyfeirioedd Dai ati. Dyna pam nad ydw i am sôn gormod am hynny heddiw, achos mae fy nghyfarfod i efo Huw Tregelles Williams yn Nhreforys yn fuan, ac rydw i'n gobeithio y gallwn ni gynnig rhyw fath o gynllun penodol mewn cysylltiad â'r gweithgaredd gyda'r fforwm ffydd, y gallwn ni gynnig datrysiad, yn sicr i'r adeiladau hanesyddol gwarchodedig, ond hefyd i ddefnydd o etifeddiaeth ffydd fel rhan o ddealltwriaeth y Cymry ym mhob cenhedlaeth.
Ond rydw i am ddweud gair am y mater o enwau lleoedd, oherwydd beth rydw i wedi ei sicrhau ydy bod y comisiwn henebion wedi cael y cytundeb, ac maen nhw wedi cytuno i lunio a chynnal y rhestr o enwau lleoedd hanesyddol ar ein rhan ni fel Gweinidogion Cymru. I ni, mae'r comisiwn brenhinol wedi profi ei hun, ers cyn diwygiad 1904, i fod yn gorff sydd yn gallu gwneud gwaith effeithiol iawn ar yr amgylchedd diwylliannol a'r dirwedd yng Nghymru. Mae yna guradur amser llawn wedi'i gyflogi i wella'r rhestr. Mae'r curadur yn gallu ateb ymholiadau a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol. Lle mae yna ymgais yn cael ei wneud i newid enwau caeau a lleoedd wrth greu ystadau tai masnachol newydd, fel sydd wedi digwydd nid yn rhy bell o'r adeilad yma, yna mae'r comisiwn ar gael i atgoffa datblygwyr bod yna enwau Cymraeg digonol ar gyfer y safleoedd hanesyddol yma.
Mae'r canllawiau statudol sydd gyda ni yn cyfarwyddo awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru i roi ystyriaeth lawn i'r rhestr yma. Mae'n dda gen i ddweud bod curadur y rhestr wedi bod yn helpu awdurdodau lleol yn sir Benfro, Caerffili a llefydd eraill i adnabod enwau hanesyddol addas. Drwy swyddogion Cadw, mae yna gydweithrediad i ddatblygu cysylltiadau cliriach gydag awdurdodau lleol a'r sylweddoliad bod enwau llefydd yr un mor bwysig i'r llefydd ag y mae enwau personol i bobl. Nid wyf i'n credu bod pobl yn union cweit wedi deall hynny.
Nawr, nid wyf i am fynd yn ôl chwaith dros gyd-destun oes y tywysogion a thraddodiad tywysogaeth Cymru, ond un o'r pethau efallai y bydd Dai yn cofio imi bwysleisio erioed yw bod tywysogaeth Cymru yn boliti. Hynny yw, mae hi'n egin wladwriaeth, fel y'i dyfeisiwyd hi, mae'n debyg, gan Owain Gwynedd, ac fel y dyfeisiwyd arglwyddiaeth wahanol yn y Deheubarth, sydd yn gysylltiol, wrth gwrs, â'r Arglwydd Rhys, ac mai diogelu'r safleoedd yma, a'r syniad o ddatganoli canol oesol, sydd yn ganolog i'n traddodiad ni fel Cymry. Felly, mae'r cestyll yma, sef yr arwydd pŵer ar y ddaear—yr arwydd milwrol o'r gwrthdaro yma rhwng dwy boliti, efallai, os rydym ni'n galw beth oedd yn perthyn i'r Goron neu i'r barwniaid ac i Arglwyddi'r Mers, a beth oedd yn perthyn i dywysogion ac arglwyddi Cymreig—. Mae'r gwrthdaro ynglŷn â phŵer gwleidyddol, yn y modd y byddai wedi digwydd yn y canol oesoedd, yn rhan o beth sydd yn ein diffinio ni fel cenedl—ac mae bodolaeth y cestyll yma nid yn unig yng Nghymru ond ar hyd y Mers. Rydw i'n awyddus iawn inni edrych ar hanes Cymru a'r Mers gyda'i gilydd, fel maen nhw wedi cael eu hedrych arnyn nhw ar hyd y canrifoedd, ac nid i weld o yn nhermau ein bod ni yng Nghymru yn gwneud un peth a bod pobl yr ochr arall, fel petai, yn gwneud rhywbeth arall.
Felly, mae datblygu cydweithrediad rhwng yr ardaloedd o harddwch eithriadol yng Nghymru a'r parciau cenedlaethol yng Nghymru gydag ardaloedd fel ucheldiroedd sir Amwythig—mae'r pethau yma'n bwysig iawn imi er mwyn creu coridorau o ddealltwriaeth hanesyddol ar hyd gororau Cymru. Ond eto a gaf i bwysleisio bod y gwahoddiad y gwnes i ymestyn i lefaryddion yr wrthblaid arall y lle yma yn ymestyn i tithau? A gobeithio y gallwn ni barhau gyda thrafodaeth adeiladol dros y blaenoriaethau yr ydym ni wedi’u creu yn barod fel adran sydd wedi cael ei hadfer i Lywodraeth Cymru.
Mae'n anghyffredin gweld gwleidydd gyda'r fath brofiad yn ymroi i frîff gyda'r fath frwdfrydedd ifanc, sef yr hyn rwy'n credu y mae'r Gweinidog wedi ei wneud dros y 10 mis diwethaf ac sydd wedi arwain at y ddogfen hon, er mae'n rhaid imi ddweud bod gen i gŵyn, sef mai castell mwyaf Cymru, Castell Caerffili, sydd â'r llun lleiaf yn y llyfryn, ond fe fyddech yn disgwyl imi wneud y gŵyn honno beth bynnag.
Mae'n rhaid dweud, fodd bynnag, bod y Gweinidog wedi gwneud yn iawn am hynny trwy ymweld â'r castell ar sawl achlysur, y mwyaf diweddar, fel yr ydych chi wedi sôn eisoes, oedd ar gyfer Ffau'r Dreigiau a Drysfa Gilbert. Roeddwn i yno ar gyfer y lansiad ac fe es â'm plant gyda fi, ac yn ei araith, dywedodd y Gweinidog fod wynebau'r plant wedi goleuo i fyny pan welson nhw'r ddraig yn chwythu mwg. Mae'n rhaid imi ddweud bod fy merch fach 15 mis oed Holly wedi dychryn yn ofnadwy a dechrau beichio crio, ond y newyddion da yw fy mod i wedi saethu fideo o'r ddraig a nawr bob tro mae hi'n gweld fy ffôn symudol yn fy llaw mae hi'n gofyn am weld y ddraig—a gaiff hi weld fideo o'r ddraig—felly, gwnaeth gryn argraff arni.
Mae angen mwy o safleoedd addysgol fel hyn arnom ni, ond mae'n rhaid imi ddweud mai un o'r problemau gyda Chaerffili, wrth ichi edrych o'r castell tuag at y stryd, yw'r ffaith y gallai'r olygfa o'r stryd fod yn llawer gwell. Rwy'n credu, i ryw raddau—a chredaf fod y Gweinidog wedi cydnabod hyn—er bod castell consentrig mwyaf Ewrop yn denu ymwelwyr, os edrychwch chi ar draws y stryd, fe welwch fod cyflwr rhai rhannau o'r stryd fawr yn tynnu oddi ar hynny, ac rwy'n credu bod angen gwneud rhagor o waith yn y maes hwnnw.
Rwyf eisoes wedi crybwyll bod y Gweinidog wedi gwneud cymaint o ymweliadau â Chastell Caerffili rwyf wedi colli cyfrif. Mae'n dda felly ei fod wedi cyflwyno newidiadau i'r polisi mynediad, a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl ymweld â lleoliadau twristiaeth fel hyn ar eu stepen drws ledled Cymru. Yn wir, dyma un o'r pethau cyntaf a wnaeth y Gweinidog ar ôl dod i'w swydd.
Mae mwy i Gaerffili na chastell Caerffili, wrth gwrs. Mae'n ddefod bod yn rhaid i Aelod y Cynulliad dros Gaerffili grybwyll castell Caerffili a chaws Caerffili rywbryd yn ystod ei dymor, ond hefyd, wrth gwrs, ceir Llancaiach Fawr, plasty o'r unfed ganrif ar bymtheg, a oedd yn segur yn y 1980au cynnar. Rwy'n falch iawn o ddweud y bu fy nhad yn gadeirydd pwyllgor cynllunio Cyngor Dosbarth Cwm Rhymni, a gytunodd i adnewyddu ac adfer Llancaiach Fawr. A does gennyf ddim amheuaeth fod y Gweinidog wedi ymweld â'r lle hwnnw, neu, os nad yw wedi bod yno, yna y bydd ganddo gynlluniau i ymweld â'r lle. Mae Llancaiach yn lle gwych i ymweld ag ef ond mae hefyd dan fygythiad. Mae'n eiddo i'r cyngor ar hyn o bryd, ac mae llai o gyllidebau gan gynghorau. Hefyd, byddwn yn nodi mai lle arall dan fygythiad yw'r gofeb lofaol genedlaethol, y bydd y Gweinidog yn ymweld â hi fis nesaf. Mae'n coffáu trychineb trasig pwll glo'r Universal ym 1913. Nid yw aelodau'r pwyllgor yno mor ifanc ag y buon nhw, ac rydym yn pryderu y bydd rheoli'r pwyllgor hwnnw yn anos gyda threigl amser. Felly, rwy'n edrych ymlaen at groesawu'r Gweinidog i gyfarfod y pwyllgor ac i drafod hynny yn y digwyddiad coffa a gynhelir y mis nesaf.
Mae gan Gaerffili lawer i'w gynnig. Dydw i ddim wedi crybwyll Castell Rhiw'r Perrai. Rwy'n credu bod cyfle i gael llwybr treftadaeth yno. Ond, o gofio'r hyn yr wyf wedi ei grybwyll, rwyf hefyd wedi dangos bod gwaith eto i'w wneud yng Nghaerffili, ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â hynny.
Diolch yn fawr iawn am hynny, a bu'n bleser gweithio gyda chi. Wrth gwrs, rydych chi'n hollol iawn yn hawlio clod am ein cymell ni i weithredu ar yr adolygiad o docynnau mynediad i drigolion lleol ar draws Cymru. Cynhaliwyd hynny yn ystod haf 2017 ac, o ganlyniad i hynny, ceir cynnig aelodaeth gynhwysol newydd, sydd wedi disodli'r tocyn blaenorol, sy'n rhoi mynediad i un safle dynodedig yn rheolaidd. Felly, mae'r mater o ran ffiniau a godwyd gennych chi yn gyntaf gyda mi—ein bod yn gweithio yn seiliedig ar ffiniau blaenorol awdurdodau lleol blaenorol a bod hyn yn gwahardd pobl o ran diffinio a oeddent yn drigolion lleol neu beidio—wedi cael sylw.
Nawr, rydym wedi cael ein problemau gyda'r trap llaid a'r llifddorau yng Nghastell Caerffili dros y blynyddoedd. Gan weithio gyda pheirianwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae Cadw yn ceisio sicrhau ein bod yn cael gwared ar y gwaddod llaid fel y caiff y ffos ei chlirio'n rheolaidd o sbwriel a rwbel ac ati, ac mae'r holl weithgarwch hwnnw yn digwydd. Rydym hefyd wedi comisiynu uwchgynllun ar gyfer Castell Caerffili, a fydd yn ystyried y posibilrwydd o gynnal gweithgareddau newydd yn y castell ac o'i amgylch. Mae'n debygol iawn y bydd y posibilrwydd o ddefnyddio'r ffos at ddibenion hamdden yn rhan o'r ymarfer cwmpasu. Felly, nid wyf wedi gorffen gyda Chaerffili eto. Ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod y safle yn un unigryw ar ben deheuol cymuned yn y Cymoedd sy'n agos at y brifddinas, ac rwyf eisiau ei wneud yn safle sy'n hanfodol i bawb sydd o ddifrif ynglŷn â chanfod gwybodaeth am Gymru ymweld ag ef. Felly, edrychaf ymlaen at barhau â'n gwaith yng Nghaerffili ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.
Rydym wedi clywed gan bob plaid sy'n bresennol yn y Siambr heddiw ac rydym wedi rhedeg mas o amser, ond mae siawns i'r siaradwr olaf ofyn cwestiwn clou, os yn bosib—Jayne Bryant.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n croesawu eich geiriau a'ch brwdfrydedd diffuant ar gyfer ein hamgylchedd hanesyddol. Yr wythnos diwethaf, cefais y fraint fawr o ymuno â chi ar ymweliad â phont gludo ryfeddol Casnewydd, un o ddim ond chwe phont yn y byd sy'n dal i weithredu heddiw a'r bont gludo orau yn y byd. Rwy'n gwybod bod y ddau ohonom wedi cael y fraint o yrru'r gondola ar draws yr afon—rhywbeth y byddaf wirioneddol yn ei gofio. Ynghyd â Chyngor Dinas Casnewydd, Cyfeillion Pont Gludo Casnewydd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, cefnogaf yn llwyr yr ymgyrch i helpu i sicrhau dyfodol y bont. Fe'i hagorwyd ym 1906 ac mae'n garreg filltir ddiwydiannol nodedig ac yn eicon a werthfawrogir yn fawr yng Nghasnewydd. Mae'n symbol o'n treftadaeth ddiwydiannol a morol balch—
A gaf i ofyn ichi ddod at y cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Fy nghwestiwn i yw: a yw'r Gweinidog yn cytuno bod yn rhaid gwneud mwy i hyrwyddo'r dreftadaeth unigryw sydd gennym yn y de-ddwyrain, nid yn unig i'r twristiaid ond i drigolion lleol a phobl ifanc ym mhob man, fel y gallant fwynhau a gwerthfawrogi ein safleoedd hanesyddol?
Diolch. Roedd hi'n wych cael bod yng Nghasnewydd. Rwyf wedi treulio mwy o amser yng Nghasnewydd nag yn unman arall, fwy na thebyg, ar wahân i fy ardal i fy hun, yn yr ychydig fisoedd diwethaf. Ond diolch i chi am yrru'r gondola gymaint yn well na'r Gweinidog druan. Cafodd hyn sylw—wnaf i ddim sôn am yr enw, ond, wel, fe wyddoch pwy sy'n gweithio'r bont. Mae'r bont honno'n cael ei gweithio; nid yw'n rhywbeth awtomatig yn unig, mae'n heneb byw wirioneddol. Felly, i mi—credaf imi ddweud hyn wrthoch chi ar y diwrnod—rwyf eisiau hybu treftadaeth ddiwydiannol fel cam nesaf yr hyn y byddaf yn ceisio ei wneud yn fy swyddogaeth i fel Gweinidog, cyn belled ag y caf i'r cyfle hwn. Credaf fy mod wedi ymwneud â chestyll, rwyf wedi ymwneud rhywfaint ag ambell abaty, ac rwyf bellach eisiau ymwneud â threftadaeth ddiwydiannol mewn ffordd lawer mwy, yr ymweliad â Blaenafon y diwrnod o'r blaen, yr ymweliad â'r Big Pit ac amrywiol bethau—ond i mi, y bont gludo, os caniatewch imi gael ei fenthyg, yw ein symbol, hon yw eicon ein treftadaeth ddiwydiannol, a'r hyn y mae'n ei olygu i ni yng Nghymru. Diolch.
Diolch. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.