Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch am eich ateb. Mae'r A483, wrth gwrs, ffordd rydych yn gyfarwydd â hi—ffordd osgoi Wrecsam—yn briffordd allweddol ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru ac mae angen gwelliannau ers sawl blwyddyn bellach i'r cyffyrdd sy'n ei chysylltu â'r dref, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yw hynny. Credaf i chi alw cyffordd Ffordd Rhuthun yn gynharach eleni yn beryglus wedi damwain drasig lle bu farw beiciwr. Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, nad honno yw’r unig ddamwain a ddigwyddodd yn ddiweddar ar y gyffordd honno, ac yn wir, mae’r materion hyn yn llesteirio datblygiad economaidd yr ardal. Yn ôl ym mis Mai, fe gyhoeddoch chi, wrth gwrs, y byddai'r problemau gyda'r gyffordd yn cael eu datrys o fewn tair blynedd ac y byddai arian yn cael ei ddarparu. Rydym chwe mis i mewn i'r cyfnod hwnnw o dair blynedd, bron â bod. Felly, tybed a allwch roi'r newyddion diweddaraf inni ynglŷn ag a fydd yr arian hwnnw’n cael ei ddarparu, gan fod y bobl leol, wrth gwrs, yn awyddus i fwrw ymlaen a sicrhau bod hyn yn digwydd.