1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 26 Medi 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ52635
Diolch. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a ddiweddarwyd yn 2017, yn nodi ein rhaglen ar gyfer y tair blynedd nesaf a thu hwnt ledled Cymru.
Diolch am eich ateb. Mae'r A483, wrth gwrs, ffordd rydych yn gyfarwydd â hi—ffordd osgoi Wrecsam—yn briffordd allweddol ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru ac mae angen gwelliannau ers sawl blwyddyn bellach i'r cyffyrdd sy'n ei chysylltu â'r dref, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yw hynny. Credaf i chi alw cyffordd Ffordd Rhuthun yn gynharach eleni yn beryglus wedi damwain drasig lle bu farw beiciwr. Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, nad honno yw’r unig ddamwain a ddigwyddodd yn ddiweddar ar y gyffordd honno, ac yn wir, mae’r materion hyn yn llesteirio datblygiad economaidd yr ardal. Yn ôl ym mis Mai, fe gyhoeddoch chi, wrth gwrs, y byddai'r problemau gyda'r gyffordd yn cael eu datrys o fewn tair blynedd ac y byddai arian yn cael ei ddarparu. Rydym chwe mis i mewn i'r cyfnod hwnnw o dair blynedd, bron â bod. Felly, tybed a allwch roi'r newyddion diweddaraf inni ynglŷn ag a fydd yr arian hwnnw’n cael ei ddarparu, gan fod y bobl leol, wrth gwrs, yn awyddus i fwrw ymlaen a sicrhau bod hyn yn digwydd.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol ac ymddiheuro am beidio ag ateb ei gwestiwn cyntaf yn Gymraeg? Byddaf yn ymdrechu i wneud hynny pan ofynnir cwestiynau imi yn Gymraeg yn y dyfodol.
Mae'r Aelod yn llygad ei le o ran y tagfeydd ar yr A483 a'r ffyrdd sy'n arwain at y gefnffordd bwysig honno, a Ffordd Rhuthun yn benodol. Mae problem benodol gyda'r golau trylifo gwyrdd ar gyffordd Ffordd Rhuthun, ac mae angen i’r awdurdod lleol ei datrys. Rwy’n gohebu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn perthynas â'r mater penodol hwnnw. Ond mae'r Aelod hefyd yn llygad ei le fod angen rhoi sylw i gyffyrdd 3 i 6 ar yr A483. Rwy'n falch o ddweud ein bod yn datblygu astudiaeth o atebion ar gyfer lleddfu’r tagfeydd ar y cyffyrdd hynny. Rydym bellach ar ail gam proses WelTAG Llywodraeth Cymru. Mae hynny wedi'i gomisiynu a disgwylir y bydd yr ateb a ffafrir yn cael ei nodi ar ddechrau 2020, gyda’r gwaith i gychwyn wedi hynny.
Yn ychwanegol at hyn, rydym hefyd wedi nodi ymyriad, fel rhan o'r rhaglen mannau cyfyng gwerth £24 miliwn, ar gyfer yr A483 yn benodol o gwmpas cylchfan Halton i'r de o'r gyffordd benodol honno y cyfeiria’r Aelod ati. Felly, mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar roi sylw i'r holl gyffyrdd hynny a chylchfan Halton.
Ddiwedd mis Mehefin, cyhoeddodd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ddogfen gynnig ddrafft yn rhoi gweledigaeth dwf ar gyfer gogledd Cymru, a nodai fod cysylltiadau trafnidiaeth gwael a’r seilwaith ffisegol yn amharu ar amser teithio, yn enwedig i ganolfannau mawr, ac yn cynnwys pum parth teithio integredig yr oeddent yn awyddus i ganolbwyntio arnynt, gan gynnwys yr A483 a chanol tref Wrecsam yn ogystal â Glannau Dyfrdwy a draw hyd at ogledd Ynys Môn. Sut ydych yn ymateb i'r datganiad yn y cynllun neu'r ddogfen gynnig hon eu bod yn ceisio cefnogaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gael mwy o allu a hyblygrwydd i wneud penderfyniadau ar lefel ranbarthol pan fo’n hymagwedd ni yn 'hyrwyddo rhanbartholdeb a datganoli'? Gwn eich bod wedi gwneud sylwadau ar hyn wrth ateb fy nghwestiynau o'r blaen, ond mae amser wedi bod bellach. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’ch ymagwedd tuag at hyn?
Yn sicr. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau atodol a dweud fy mod yn croesawu'r cynnig yn y ddogfen gynnig ar gyfer y pum parth allweddol hynny yn fawr iawn? Rwyf hefyd yn croesawu’r galw yn y ddogfen gynnig i greu corff trafnidiaeth rhanbarthol. Credaf y gallai hyn fod o fudd enfawr o ran cyflymu'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith trafnidiaeth yn y rhanbarth. Edrychaf ymlaen at y misoedd nesaf ac at herio cynigion bargen dwf gogledd Cymru yn y sesiynau herio a sicrhau ein bod yn cael bargen deg nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond gan Lywodraeth y DU hefyd, a bod awdurdodau lleol hefyd yn gallu cyfrannu er mwyn sicrhau bod y cyfle unigryw hwn yn cael cymaint o effaith â phosibl ar gyfer pobl gogledd Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, y mis diwethaf, croesawais eich datganiad ar y buddsoddiad mewn cerbydau yng ngogledd Cymru i helpu i wella trafnidiaeth ar draws y rhanbarth. Fodd bynnag, mae'n siomedig y bydd yn rhaid i rannau o ogledd Cymru fodloni ar drenau 30 oed a arferai fod yn drenau rheilffyrdd ardal, yn wahanol i dde Cymru, a fydd yn cael rhai newydd sbon. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n dweud bod hon yn fargen deg i ogledd Cymru?
Iawn. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud y bydd y trenau newydd cyntaf a fydd yn cael eu rhoi ar y traciau ym masnachfraint Cymru a'r gororau, a fydd yn dechrau fis nesaf, yn mynd ar draciau yng ngogledd Cymru? Byddant yn gwasanaethu gogledd Cymru yn gyntaf. Ond mae'r Aelod yn nodi ateb Vivarail ar gyfer un llwybr penodol—y llwybr o Wrecsam i Bidston. Nawr, y rheswm pam y ffafriwyd yr opsiwn hwnnw yn hytrach na cherbydau eraill, ac er eu bod, yn wir, yn seiliedig ar hen gerbydau rheilffyrdd tanddaearol, mewn gwirionedd maent wedi cael eu gwagio, eu hadnewyddu, a'u hailgynllunio. Maent yn edrych, yn teimlo ac yn gweithredu fel trenau newydd sbon. Fodd bynnag, y rheswm pam y dewisom ni’r opsiwn hwnnw, Lywydd, yw nad ydym am i’r gwasanaethau ddod i ben yn Bidston; rydym am eu gweld yn parhau drwodd i Lerpwl. A’r unig ffordd y gallwn wneud hynny yw drwy ddefnyddio trenau deufodd, gan fod yn rhaid i chi gludo locomotifau trydan drwy'r twnnel o dan Afon Merswy. Ac felly, am y rheswm hwnnw, fe ddewisom ni’r ateb hwnnw. Mae’n rhaid inni fynd i’r afael â rhai heriau rheoleiddiol, ond er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid inni gael yr opsiwn deufodd. A phe baem wedi archebu trenau newydd ar y cam hwn, ni fyddem wedi gallu cyflymu'r broses o sicrhau bod rheilffordd Wrecsam i Bidston yn cael ei hymestyn o Wrecsam yr holl ffordd i Lerpwl.