Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 26 Medi 2018.
Rwy'n cytuno'n llwyr, ond fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, mae swyddogion yn ceisio cyngor ynghylch y wybodaeth y gellir ei datgelu ar hyn o bryd. Rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ryddhau cymaint o wybodaeth â phosibl ynglŷn â'r cyhoeddiad diweddaraf, gan y credaf y bydd yn creu argraff fawr ar yr Aelod, ond gwn fod yr Aelod yn barod iawn i gondemnio unrhyw elfen o unrhyw gytundeb ar greu swyddi a arweinir gan Lywodraeth Cymru. Buaswn wrth fy modd pe bai ychydig yn fwy parod i'n llongyfarch pan ydym yn denu buddsoddiadau enfawr i Gymru—buddsoddiadau sy'n diogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol ac yn darparu gwaith i gannoedd o bobl. [Torri ar draws.] Gwelwn yno wrthodiad i gydnabod llwyddiant Llywodraeth Cymru yn denu Aston Martin Lagonda i'n gwlad i greu cannoedd o swyddi gwerthfawr.