1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 26 Medi 2018.
Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi llongyfarch y Llywodraeth ar Faes Awyr Caerdydd sawl tro yn y gorffennol, ond rwy'n teimlo rheidrwydd i dynnu eich sylw, ac felly, sylw cynulleidfa ehangach, gobeithio, at gyfleuster a ddarperir gan y maes awyr fel rhan o'u cyfleuster anableddau cudd, sy'n blaenoriaethu pobl ag anableddau o'r fath. Ysgogwyd fy sylwadau gan wybodaeth a gefais am bâr a gafodd brofiad ofnadwy mewn maes awyr arall yn y DU gyda'u plentyn awtistig, ond a oedd wedi defnyddio'r cyfleuster uchod ym Maes Awyr Caerdydd wedi hynny. Roeddent yn rhyfeddu at ansawdd y gwasanaeth a gawsant. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y bydd arloesi fel hyn yn helpu i ehangu enw da Maes Awyr Caerdydd lawn cymaint â'i berfformiad economaidd?
Cytunaf yn llwyr â'r union bwynt hwnnw, ac fe'i gwnaed yn dda iawn gan yr Aelod. A gaf fi ddiolch iddo am godi pwynt hanfodol ynglŷn â mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus? Ac o ran maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn benodol, bydd yr Aelod yn ymwybodol y bydd uwchgynllun newydd ar gyfer yr ased penodol hwnnw yn cael ei gyflwyno er mwyn galluogi i'r maes awyr ymdopi â mwy o lawer o deithwyr ac awyrennau yn y dyfodol. Ac a gaf fi hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch yr Aelod ar gael ei ailbenodi i'r swydd benodol hon?
Diolch yn fawr am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf am symud yn bell iawn oddi wrth Faes Awyr Caerdydd gyda fy nghwestiwn nesaf. Tynnwyd fy sylw, Ysgrifennydd y Cabinet, at y ffaith bod defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Trefddyn ym Mhont-y-pŵl wedi eu hynysu, i bob pwrpas, ar ôl 7.30 yr hwyr. Ymddengys mai hwn yw'r bws olaf sy'n cludo pobl o ganol y dref i'r ystâd hon. Wrth gwrs, ceir effaith ar y busnesau yn y dref, yn enwedig y tafarndai, o ystyried bod yn rhaid i'w cwsmeriaid naill ai adael mewn pryd i ddal y bws olaf neu dalu am dacsi. Ni all llawer ohonynt fforddio hynny ac felly maent yn gadael yn gynnar. Mae'r landlordiaid, felly, yn colli cwsmeriaid gwerthfawr ac mae canol y dref yn ddiffaith ar ôl yr amser hwn. Gall hyn, wrth gwrs, fod yn wir am lawer o drefi'r Cymoedd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod hon yn sefyllfa dderbyniol?
Nac ydw, ac unwaith eto, mae'n bwynt a wnaed yn dda iawn. Byddaf yn codi'r pwynt hwn gyda Trafnidiaeth Cymru a chyda'r adran drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru. Ond credaf ei bod yn bwysig nodi dau ymyriad a buddsoddiad pwysig a fydd yn cael eu gwneud dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Y cyntaf, wrth gwrs, yw metro de-ddwyrain Cymru, a'r ail yw'r diwygiad radical o wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, a rhyngddynt byddant yn ffurfio gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus integredig llawer gwell a fydd yn gwasanaethu cymunedau fel y rhai a nodwyd gennych heddiw.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb cadarnhaol iawn. A gaf fi droi yn awr, Ysgrifennydd y Cabinet, at graffu ar brosiectau? Fel Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi cychwyn nifer o brosiectau a mentrau a luniwyd i hybu perfformiad economaidd Cymru. Yr hyn sy'n peri pryder yw'r ffaith ei bod hi'n ymddangos nad oes gan lawer o'r rhain amserlenni neu dargedau penodol ar gyfer gwerthuso'r cynnydd. Ysgrifennydd y Cabinet, does bosib nad yw'n ofyniad sylfaenol ar gyfer unrhyw brosiect y dylai gynnwys dulliau mesur o'r fath fel y gellir craffu'n iawn arnynt. Nid yw fframweithiau polisi penagored yn arwydd o lywodraethu da. Onid yw hyn yn rhoi'r argraff nad oes llawer o hyder y bydd y prosiectau a'r mentrau hyn yn cyflawni fel y rhagwelwyd?
Credaf ei bod yn bwysig cytuno ar ganlyniadau ar gyfer unrhyw brosiect sy'n derbyn arian cyhoeddus. Ond yn Llywodraeth Cymru, mae gennym hefyd ddangosyddion llesiant, sy'n ddangosyddion cyson a ddefnyddir ar draws y Llywodraeth, ac o ran rhaglenni datblygu economaidd, rwy'n gobeithio fy mod wedi bod yn gwbl glir yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf wrth roi sicrwydd i'r Aelodau y byddwn hefyd yn mynd ar drywydd craffu a herio rhyngwladol gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a chyrff rhyngwladol clodfawr ac adnabyddus eraill.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Lywydd. A yw Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar drefniant ffi gwarant gydag Aston Martin mewn perthynas â'u safle yn Sain Tathan?
Ni allaf ddatgelu unrhyw wybodaeth fasnachol sensitif i'r Aelod. Fodd bynnag, gallaf roi sicrwydd iddo fy mod wedi gofyn i swyddogion adolygu'r holl ohebiaeth a'r holl gytundebau ac i sicrhau y gellir rhannu cymaint o fanylion â phosibl gyda'r Aelodau. Bydd hynny'n cael ei wneud ar fyrder a chyn gynted â phosibl.
A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddymuno'n dda i'r Aelod yng nghyhoeddiad yr etholiad ddydd Gwener, ac os nad yw'n llwyddo i ennill yr etholiad hwnnw y mae'n cymryd rhan ynddo ar hyn o bryd, gobeithio y caiff ei ailbenodi i'r swydd hon?
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei eiriau caredig, ond efallai y gallwn ddychwelyd at y mater dan sylw. Roedd honno'n ddyfais dda i wyro'r sylw, oherwydd, mewn gwirionedd, nid oes gan y cwmni bryderon ynglŷn â chyfrinachedd masnachol yn yr achos hwn, gan eu bod wedi cadarnhau bod cytundeb ffi gwarant gyda Llywodraeth Cymru yn bodoli yn y prosbectws y maent newydd ei gyhoeddi mewn perthynas â'r cynnig arfaethedig i gyhoeddi cyfrannau'r cwmni ar gyfnewidfa stoc Llundain. Mae'r ddogfen honno'n cyfeirio'n benodol, a dyfynnaf, ar dudalen 188, at:
drefniant ffi gwarant a gytunwyd gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â meddiannaeth Aston Martin Lagonda o safle Sain Tathan.
Nawr, rydych eisoes wedi gwrthod cadarnhau bodolaeth y trefniant hwn mewn cwestiynau ysgrifenedig. Nid ydych wedi cymryd y cyfle i'w gadarnhau yn awr. O gofio bod y cwmni bellach wedi'i wneud yn gyhoeddus, a allwch gadarnhau pwy sy'n gwarantu beth i bwy yn y trefniant hwn, ac i bwy y telir y ffioedd? A ydym yn iawn i dybio bod Llywodraeth Cymru wedi gwarantu cyfran o ddyled Aston Martin a bod Llywodraeth Cymru yn cael ffi am hynny—y math o gytundeb a oedd ynghlwm wrth gynnig Cylchffordd Cymru? A pham fod cwmni preifat yn fwy agored gyda'r cyhoedd ynglŷn â defnydd o arian cyhoeddus na'r Llywodraeth sydd i fod i warchod budd y cyhoedd?
Gan fod yr Aelod bellach wedi nodi'r union gytundeb y cyfeiria ato yn y ddogfen honno, rwy'n fwy na pharod i weithio gydag Aston Martin i sicrhau y darperir cymaint o wybodaeth â phosibl. Ond ni chredaf y dylem golli golwg ar y ffaith ein bod wedi gallu denu Aston Martin i Gymru o ganlyniad uniongyrchol i negodi medrus swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae'r ffaith bod Aston Martin bellach yn cytuno y dylai Sain Tathan fod yn gartref i drydaneiddio yn deillio o'n gallu i ddenu Aston Martin i Gymru. Mae'n bwysig dathlu llwyddiant mawr pan fydd yn glanio ar garreg ein drws a phan ydym wedi ymladd yn galed amdano. Dyna'n union a wnaethom. Gallai Aston Martin Lagonda fod wedi mynd i nifer o leoedd gyda'u buddsoddiad. Yn hytrach, fe ddewision nhw fan hyn—Cymru—i fuddsoddi ac i greu swyddi gwerthfawr ac i wella brand rhyngwladol Cymru.
Edrychwch, Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw hyn yn dda o gwbl—. Yn hytrach nag ychydig o eiriau o longyfarchiadau, beth am ychydig eiriau o edifeirwch gan Ysgrifennydd y Cabinet am fethu â bod yn dryloyw, wedi i'r wybodaeth, yn y bôn, gael ei llusgo allan ohonoch gan fod y cwmni wedi penderfynu ei bod iawn ac yn addas gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus, ac eto, rydych wedi gwrthod ymateb drwy gydol yr amser? Ym mhwyllgor yr economi yr wythnos diwethaf, ac mewn ymateb i gwestiynau dro ar ôl tro gan y BBC, mae eich swyddogion wedi gwrthod cadarnhau a yw Aston Martin wedi derbyn arian ychwanegol ar gyfer eu rhaglen ymchwil a datblygu y tu hwnt i'r £5.8 miliwn y cawsoch eich gorfodi i'w ddatgan gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Y rheswm a roddwyd am hynny gan eich adran oedd sensitifrwydd mewn perthynas â chyhoeddi cyfrannau'r cwmni ar y farchnad stoc. Onid yw hyn yn hynod o broblemus, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae dadansoddwyr wedi dweud yn benodol, ac wedi cyfeirio at driniaeth mantolen Aston Martin o'u cyllideb ymchwil a datblygu, eu penderfyniad i'w gyfalafu fel ased yn hytrach na'i gofrestru fel cost, fel rheswm dros amau eu prisiad o £5 biliwn. Onid oes gan y cyhoedd, fel dinasyddion ac fel darpar fuddsoddwyr, hawl i wybod os yw arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio o bosibl i chwyddo pris y cyfranddaliadau? Oni ddylem ddisgwyl i chi fel Llywodraeth weithredu er budd y cyhoedd, nid er budd masnachol cwmni preifat, wrth benderfynu a ddylid gwneud gwybodaeth yn gyhoeddus? Ni ddylid masnachu democratiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, hyd yn oed yn gyfnewid am addewid o swyddi.
Rwy'n cytuno'n llwyr, ond fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, mae swyddogion yn ceisio cyngor ynghylch y wybodaeth y gellir ei datgelu ar hyn o bryd. Rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ryddhau cymaint o wybodaeth â phosibl ynglŷn â'r cyhoeddiad diweddaraf, gan y credaf y bydd yn creu argraff fawr ar yr Aelod, ond gwn fod yr Aelod yn barod iawn i gondemnio unrhyw elfen o unrhyw gytundeb ar greu swyddi a arweinir gan Lywodraeth Cymru. Buaswn wrth fy modd pe bai ychydig yn fwy parod i'n llongyfarch pan ydym yn denu buddsoddiadau enfawr i Gymru—buddsoddiadau sy'n diogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol ac yn darparu gwaith i gannoedd o bobl. [Torri ar draws.] Gwelwn yno wrthodiad i gydnabod llwyddiant Llywodraeth Cymru yn denu Aston Martin Lagonda i'n gwlad i greu cannoedd o swyddi gwerthfawr.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Byddaf yn teimlo fy mod yn cael fy ngadael allan os na chaf fy llongyfarch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mewn ychydig wythnosau, wrth gwrs, bydd y gwaith o redeg gwasanaethau rheilffyrdd yn cael ei drosglwyddo gan Arriva i weithredwr newydd y fasnachfraint, KeolisAmey. O gofio maint y buddsoddiad cyhoeddus yng nghytundeb y fasnachfraint newydd, yn ogystal â phwysigrwydd gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr a busnesau ledled Cymru, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol sicrhau gwelliannau cyflym a digonol i'r gwasanaethau hynny o ganlyniad i'r contract rheilffyrdd hwnnw sy'n werth £5 biliwn.
A gaf i eich holi, i gychwyn, ynglŷn â gohirio lansiad y gwasanaethau rhwng Caer a Lime Street yn Lerpwl? Fis Mai diwethaf, cwblhaodd Network Rail welliant gwerth £19 miliwn i'r seilwaith i ganiatáu i'r gwasanaethau ddechrau ym mis Rhagfyr, fel sydd wedi'i addo ers blynyddoedd lawer. Mae Trenau Arriva Cymru wedi recriwtio gyrwyr ar gyfer y trenau, ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgan yn ddiweddar iawn yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf nad oes digon o drenau bellach ar gyfer y gwasanaethau newydd hynny, ac o ganlyniad, efallai y bydd oedi cyn y caiff y gwasanaethau eu darparu. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi gadarnhau os yw hyn yn wir, ac os felly, pryd y gall cymudwyr ddisgwyl i'r gwasanaethau hynny gychwyn?
Felly, yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, credaf fy mod wedi amlinellu'r rheswm pam rydym yn gweld oedi, nid yn unig yn yr achos hwn ond drwy'r sector rheilffyrdd yn y DU, o ran darparu cerbydau newydd, ac mae hynny'n bennaf gan mai un ymgyrch a fu gan Lywodraeth y DU yn y degawd diwethaf, sef trydaneiddio cymaint o reilffyrdd y DU â phosibl. Rhoddwyd y gorau i hynny wedyn, ac ers hynny, nid yw'r cyflenwad diesel, neu'r cyflenwad o drenau diesel, wedi rhaeadru i lawr. O ganlyniad i'r ffaith nad yw hynny wedi digwydd, cafwyd cynnydd yn nifer yr archebion ar gyfer unedau diesel newydd, ar ôl i Lywodraeth y DU ganslo rhaglenni trydaneiddio, ac arweiniodd hynny wedyn at oedi o ran eu cyflenwi. Nid yw'n rhywbeth sy'n unigryw i Trafnidiaeth Cymru. Gallaf ddweud, fodd bynnag, o ganlyniad i'r oedi rhwng mis Rhagfyr a'r gwanwyn, ein bod wedi gallu negodi estyniad ar gyfer y gwasanaeth newydd sbon hwnnw fel na fydd y trenau yn gweithredu rhwng Lerpwl a Chaer gan ddefnyddio cromlin Halton; yn wir, byddant yn dod i mewn i Gymru. Felly, bydd y gwasanaeth newydd cyntaf i gael ei ddarparu ar fasnachfraint Cymru a'r gororau, gallaf sicrhau'r Aelodau, yn gwasanaethu Cymru yn ogystal ag ardal y gororau.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf mai'r pryder fydd bod 'newid gweddnewidiol' yn ymadrodd sydd wedi'i daflu o gwmpas, ac mae'r disgwyliadau wedi codi'n sylweddol. Yr haf hwn, fe nodoch chi y byddai gwasanaethau newydd ar ddydd Sul ac yn gynnar yn y bore yn cael eu lansio ym mis Rhagfyr. Mae amserlenni ledled y DU, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn newid ddwywaith y flwyddyn yn unig, a Rhagfyr 18 yw'r cyfle cyntaf i'r gweithredwr newydd wneud gwelliannau. Nawr, ym mis Mehefin eleni, Ysgrifennydd y Cabinet, fe gadarnhaoch chi y byddai Merthyr Tudful ac Aberdâr yn cael gwasanaethau ychwanegol yn gynnar yn y bore i orsaf Caerdydd Canolog yn ystod yr wythnos o fis Rhagfyr ymlaen; yn ogystal, byddai amserlen wasanaeth brawf ar reilffordd Aberdâr yn cael ei rhoi ar waith ar sail barhaol; a byddai gwasanaeth ychwanegol ar fore Sul yn cael ei gyflwyno rhwng Llandudno a Chaer, er mwyn pontio'r bwlch yn yr amserlen bresennol. Nawr, ychydig wythnosau yn unig sydd gennym, wrth gwrs, cyn newid yr amserlen ym mis Rhagfyr, ac ar hyn o bryd mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud, 'Byddwn yn cadarnhau manylion y gwasanaethau hyn cyn gynted ag y gallwn.' Unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau bod y gwelliannau hyn i'r gwasanaethau yn parhau i fod ar amser?
Dyna yw ein bwriad, ond byddaf yn sicrhau heddiw, pan fyddaf yn cyfarfod â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, ei fod yn rhoi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelodau cyn gynted â phosibl. Dylwn ddweud hefyd fod yr Aelod yn llygad ei le: mae'r gwersi rydym wedi'u dysgu o'r llanastr amserlennu ledled llawer o'r DU wedi ein harwain—wrth ystyried yr opsiynau ar gyfer symud dyddiad cyflwyno'r gwasanaethau uniongyrchol o Lerpwl i Wrecsam o'r gwanwyn i fis Rhagfyr, fel y bwriadwyd yn wreiddiol, fe benderfynom ni, er mwyn gwneud hynny, fod yn rhaid iddo fod yn addewid cadarn a dibynadwy. O ystyried y gwersi rydym wedi'u dysgu ynglŷn ag amserlennu tynn, fe benderfynom ni na fyddai'n sicrwydd dibynadwy inni ei roi i bobl.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf fi ofyn, os ydych yn cyfarfod â Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddarach heddiw—a gaf fi ofyn i chi roi ar y cofnod eich bod yn gwbl hyderus fod yr adnoddau rheolaethol, gweinyddol ac ariannol cywir gan Trafnidiaeth Cymru at eu defnydd i sicrhau darpariaeth a goruchwyliaeth effeithiol mewn perthynas â masnachfraint newydd Cymru a'r gororau o 15 Hydref?
Gwnaf, a thrwy'r llythyr cylch gwaith, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu yn unol â chanllawiau caeth. Maent wrthi'n recriwtio llawer mwy o bobl â sgiliau ychwanegol i sicrhau y bydd y fasnachfraint newydd yn llwyddiant. Rwy'n canolbwyntio'n benodol ar hyn o bryd ar sicrhau bod gwybodaeth am y fasnachfraint newydd yn cael ei chyfleu'n gywir ac yn drylwyr i grwpiau cymunedol, i deithwyr, ac i aelodau etholedig. Felly, rwy'n falch fod Trafnidiaeth Cymru, yn enwedig yn ystod y rhaglen recriwtio bresennol, yn ystyried cynyddu capasiti o fewn eu tîm cyfathrebu.