Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:42, 26 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Ni allaf ddatgelu unrhyw wybodaeth fasnachol sensitif i'r Aelod. Fodd bynnag, gallaf roi sicrwydd iddo fy mod wedi gofyn i swyddogion adolygu'r holl ohebiaeth a'r holl gytundebau ac i sicrhau y gellir rhannu cymaint o fanylion â phosibl gyda'r Aelodau. Bydd hynny'n cael ei wneud ar fyrder a chyn gynted â phosibl.

A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddymuno'n dda i'r Aelod yng nghyhoeddiad yr etholiad ddydd Gwener, ac os nad yw'n llwyddo i ennill yr etholiad hwnnw y mae'n cymryd rhan ynddo ar hyn o bryd, gobeithio y caiff ei ailbenodi i'r swydd hon?