Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 26 Medi 2018.
Dyna yw ein bwriad, ond byddaf yn sicrhau heddiw, pan fyddaf yn cyfarfod â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, ei fod yn rhoi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelodau cyn gynted â phosibl. Dylwn ddweud hefyd fod yr Aelod yn llygad ei le: mae'r gwersi rydym wedi'u dysgu o'r llanastr amserlennu ledled llawer o'r DU wedi ein harwain—wrth ystyried yr opsiynau ar gyfer symud dyddiad cyflwyno'r gwasanaethau uniongyrchol o Lerpwl i Wrecsam o'r gwanwyn i fis Rhagfyr, fel y bwriadwyd yn wreiddiol, fe benderfynom ni, er mwyn gwneud hynny, fod yn rhaid iddo fod yn addewid cadarn a dibynadwy. O ystyried y gwersi rydym wedi'u dysgu ynglŷn ag amserlennu tynn, fe benderfynom ni na fyddai'n sicrwydd dibynadwy inni ei roi i bobl.