Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 26 Medi 2018.
Gan fod yr Aelod bellach wedi nodi'r union gytundeb y cyfeiria ato yn y ddogfen honno, rwy'n fwy na pharod i weithio gydag Aston Martin i sicrhau y darperir cymaint o wybodaeth â phosibl. Ond ni chredaf y dylem golli golwg ar y ffaith ein bod wedi gallu denu Aston Martin i Gymru o ganlyniad uniongyrchol i negodi medrus swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae'r ffaith bod Aston Martin bellach yn cytuno y dylai Sain Tathan fod yn gartref i drydaneiddio yn deillio o'n gallu i ddenu Aston Martin i Gymru. Mae'n bwysig dathlu llwyddiant mawr pan fydd yn glanio ar garreg ein drws a phan ydym wedi ymladd yn galed amdano. Dyna'n union a wnaethom. Gallai Aston Martin Lagonda fod wedi mynd i nifer o leoedd gyda'u buddsoddiad. Yn hytrach, fe ddewision nhw fan hyn—Cymru—i fuddsoddi ac i greu swyddi gwerthfawr ac i wella brand rhyngwladol Cymru.