Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 26 Medi 2018.
Gwnaf, a thrwy'r llythyr cylch gwaith, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu yn unol â chanllawiau caeth. Maent wrthi'n recriwtio llawer mwy o bobl â sgiliau ychwanegol i sicrhau y bydd y fasnachfraint newydd yn llwyddiant. Rwy'n canolbwyntio'n benodol ar hyn o bryd ar sicrhau bod gwybodaeth am y fasnachfraint newydd yn cael ei chyfleu'n gywir ac yn drylwyr i grwpiau cymunedol, i deithwyr, ac i aelodau etholedig. Felly, rwy'n falch fod Trafnidiaeth Cymru, yn enwedig yn ystod y rhaglen recriwtio bresennol, yn ystyried cynyddu capasiti o fewn eu tîm cyfathrebu.