Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch. Credaf fod adroddiad ar benderfyniad ar fin cael ei gyhoeddi mewn perthynas ag Urban Myth Films. Mae'n fuddsoddiad rwy'n ei groesawu'n fawr iawn. Mae'n cyfrannu at sector diwydiannau creadigol llewyrchus iawn yng Nghymru, sector sy'n tyfu'n gynt yma yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r DU—oni bai am Lundain, ond byddech yn disgwyl hynny. Ond mae hefyd yn ganlyniad i'r ffocws di-baid rydym wedi'i roi ar wella'r sylfaen sgiliau yn ogystal ag argaeledd gofod sgrin addas—stiwdios ar hyd coridor yr M4. Ac mae gwledydd eraill, rhanbarthau eraill, yn y DU yn edrych yn genfigennus yn awr ar dwf sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Ond rydym yn bwriadu creu Cymru Greadigol i hybu'r llwyddiant hwnnw ac i sicrhau bod gennym lif cyson nid yn unig o gynyrchiadau—ac mae Bad Wolf eisoes wedi addo gwerth £100 miliwn o gynyrchiadau—ond fod gennym hefyd lif o bobl fedrus sy'n gallu dod i mewn i'r farchnad.