1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 26 Medi 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am werth brand Cymru i’r economi? OAQ52638
Lansiwyd brand Cymru arobryn ddwy flynedd yn ôl, ac fe'i defnyddir ar gyfer twristiaeth, busnes, bwyd a diod, ac ymgyrchoedd iechyd, ac mae'n sicrhau effaith economaidd gref a gweladwy ym mhob un o'r meysydd hyn. Mae datblygu'r brand hwn ymhellach yn flaenoriaeth o dan y cynllun gweithredu economaidd.
Mae'n ddiddorol eich bod yn ateb y cwestiwn yn y ffordd honno. Dywedwyd wrthyf yn wreiddiol y byddai'r cwestiwn yn cael ei ateb gan y Gweinidog sydd â thwristiaeth yn rhan o'i frîff, sydd efallai yn rhan o'r broblem—fod pobl, yn rhy aml, ond yn ystyried yr ochr dwristiaeth i frand Cymru, gwerthu Cymru i ddarpar ymwelwyr. Nawr, er ei bod bob amser yn wych cael ymateb gan y Gweinidog, cyfeiriwyd hyn yn benodol atoch chi, gan y credaf fod brand cryf i Gymru yn berthnasol ar draws yr economi—ie, mewn twristiaeth, lle mae'n hollbwysig, ond hefyd wrth ddweud wrth ein partneriaid masnachu pwy ydym ni, a defnyddio'r un brand ar gyfer allforion, yr un brand ar gyfer denu mewnfuddsoddiad, i arddangos ein sgiliau, ein sefydliadau addysg, ein celfyddydau, ac wrth gwrs ein bwyd, fel y sonioch chi. Nawr, gwyddom am yr hyn a ddigwyddodd yn Sioe Frenhinol Cymru yr haf hwn, a'r haerllugrwydd o weld bwyd Cymru'n cael ei frandio fel bwyd Prydeinig yn y neuadd fwyd, a gwyddom pa mor wrthgynhyrchiol oedd hynny i gynhyrchwyr bwyd Cymru, o ystyried y diddordeb cynyddol yn nharddiad bwyd. Nawr, dyma'r pwynt: gwnaeth Llywodraeth y DU hynny o dan drwynau Llywodraeth Cymru, er mai bargen breifat oedd hi rhwng DEFRA a Sioe Frenhinol Cymru. Dywedir wrthyf nad oedd Gweinidogion yn rhy hapus ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd yno, ond ni ddywedodd y Gweinidogion unrhyw beth yn gyhoeddus, felly pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn herio Llywodraeth y DU ac yn dweud bod angen inni arwain ar werthu Cymru i'r byd? Ie, gweithio mewn partneriaeth ag eraill lle mae hynny'n ddefnyddiol, ond rydym am wneud hynny ar ein telerau ein hunain, yn unol â blaenoriaethau Cymru.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol a dweud pa mor falch wyf fi o ateb y cwestiwn a gyfeiriwyd ataf? Ond byddai'n esgeulus imi beidio â dymuno'n dda iddo yn yr etholiad a'r canlyniad yn ddiweddarach yr wythnos hon. Credaf ei bod yn deg dweud nad oedd y Gweinidogion yn fodlon o gwbl â'r cytundeb a wnaed. Roedd yn benderfyniad masnachol gan Sioe Frenhinol Cymru. Roedd yn benderfyniad nad oedd y Gweinidogion yn ymwybodol ohono, ac o ran herio Llywodraeth y DU, wel, gallaf ddweud nad oeddem yn fodlon o gwbl â'r penderfyniad hwnnw, y cytundeb hwnnw, a mynegwyd hynny wrth Sioe Frenhinol Cymru. Yn y dyfodol, rydym am i frand Cymru fod yn gwbl amlwg, ac mae'r Aelod yn llygad ei le fod gwaith brandio nid yn unig o fudd i'r economi ymwelwyr; mae o fudd i'n heconomi yn ei chyfanrwydd, a chredaf fod ein gwaith brandio, yn arbennig, ar yr ymgyrchoedd masnach a buddsoddi, wedi arwain at gynnydd o 60 y cant yn y nifer sydd wedi ymweld â tradeandinvest.wales yn y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn defnyddio'r brand yng ngwaith marchnata bwyd a diod Cymru, ac rydym hefyd yn defnyddio brand Cymru ar gyfer ymgyrchoedd iechyd bellach. Ein hymgyrch iechyd gyntaf dan y brand oedd yr ymgyrch hyfforddiant meddygon teulu, ac arweiniodd hynny at gynnydd o 16 y cant o ran llenwi lleoedd hyfforddi meddygon teulu. Felly, credaf ei bod yn deg dweud nid yn unig fod y brand newydd yn frand arobryn—mae wedi bod yn ymdrech fasnachol lwyddiannus iawn—ond o ran y mater penodol y mae'r Aelod yn ei godi ynghylch Sioe Frenhinol Cymru, unwaith eto, buaswn yn ailadrodd nad oeddem yn fodlon â'r cytundeb a gafwyd.
Mae'r sector diwydiannau creadigol yn cynhyrchu bron i £1 biliwn i economi Cymru, a'r rhan ohono sy'n tyfu gyflymaf yw ffilm, teledu a radio. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i gydnabod cyfraniad cwmnïau cynhyrchu fel Bad Wolf yn hyrwyddo brand Cymru fel lle i gynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu, ac a wnaiff groesawu'r cynlluniau gan Urban Myth Films i addasu warws yng Nghasnewydd yn stiwdio ffilm ar gyfer ffilmio cyfres deledu newydd, gan greu hyd at 120 o swyddi? Credaf nad oes prinder talent yn ne-ddwyrain Cymru, Weinidog, felly gallwn sicrhau gweithgarwch tebyg yn ne-ddwyrain Cymru a'i gyflwyno ar raddfa ehangach i wella ein heconomi ledled Cymru. Diolch.
Diolch. Credaf fod adroddiad ar benderfyniad ar fin cael ei gyhoeddi mewn perthynas ag Urban Myth Films. Mae'n fuddsoddiad rwy'n ei groesawu'n fawr iawn. Mae'n cyfrannu at sector diwydiannau creadigol llewyrchus iawn yng Nghymru, sector sy'n tyfu'n gynt yma yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r DU—oni bai am Lundain, ond byddech yn disgwyl hynny. Ond mae hefyd yn ganlyniad i'r ffocws di-baid rydym wedi'i roi ar wella'r sylfaen sgiliau yn ogystal ag argaeledd gofod sgrin addas—stiwdios ar hyd coridor yr M4. Ac mae gwledydd eraill, rhanbarthau eraill, yn y DU yn edrych yn genfigennus yn awr ar dwf sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Ond rydym yn bwriadu creu Cymru Greadigol i hybu'r llwyddiant hwnnw ac i sicrhau bod gennym lif cyson nid yn unig o gynyrchiadau—ac mae Bad Wolf eisoes wedi addo gwerth £100 miliwn o gynyrchiadau—ond fod gennym hefyd lif o bobl fedrus sy'n gallu dod i mewn i'r farchnad.