Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch. Nid wyf yn meddwl eich bod wedi mynd i'r afael â holl fyrdwn y ddadl hon o gwbl. Rydych wedi'i gwneud yn bregeth erbyn y Llywodraeth Dorïaidd. Nid ydych wedi ymdrin â'r hyn rwy'n ceisio'i ddweud, sef bod y Llywodraeth Lafur yn berffaith hapus i ganiatáu i'r gwahaniaeth anferth hwn mewn codiadau cyflog barhau. Rwyf wedi nodi'r ffigurau. Nid ydych wedi rhoi sylw i'r rheini o gwbl. A wnewch chi ateb fy mhwynt os gwelwch yn dda?