– Senedd Cymru am 5:55 pm ar 26 Medi 2018.
Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar David Rowlands i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo.
Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? David.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n falch o glywed y bydd fy ymdriniaeth yn fyr ac i'r pwynt. Mae'n ffaith nodedig fod sefydliadau sydd â bwlch cyflog mawr rhwng y gweithwyr uchaf ac isaf yn profi mwy o absenoldeb oherwydd salwch a throsiant staff na'r rhai gyda gwahaniaethau cyflog tecach.
Mae bylchau cyflog mawr hefyd yn amharu ar recriwtio staff, yn enwedig i swyddi rheolwyr canol. Felly, er bod gwrthwynebiad ar sail foesol yn aml i fylchau cyflog o'r fath, gellir gwneud achos economaidd ac ar sail busnes yn ddi-os o blaid dosbarthiad cyflog mwy cyfartal mewn sefydliadau. Gellir dweud hefyd fod gwahaniaethau cyflog mawr yn lladd ysbryd staff, sy'n aml yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi yn eu rôl. Yn ei dro, gall hyn effeithio'n andwyol ar y sefydliad cyfan.
Er bod rhaid cydnabod y pennir gwahaniaethau cyflog yn gwbl briodol i adlewyrchu statws, setiau sgiliau a chyfrifoldeb, caiff y rhain eu sicrhau fel arfer drwy osod bandiau cyflog a cholofnau cyflog gwahanol, gyda phob un ohonynt yn cael eu cyfrifo i sicrhau system gyflogau deg a chyfartal. Mae problemau'n codi pan fydd y gwahaniaethau hyn yn cael eu gwaethygu gan godiadau canrannol mewn cyflogau, yn aml ar sail flynyddol. Er enghraifft, os cymerwn ddau weithiwr, un ar gyflog o £20,000 y flwyddyn ac un arall ar gyflog o £100,000 y flwyddyn, a gosod codiad canrannol o 2 y cant, dyweder. Mae'r gweithiwr cyntaf yn cael £400 yn ychwanegol bob blwyddyn, tra bod yr ail yn cael £2,000 yn ychwanegol y flwyddyn. Mae hyn yn amlwg yn cynyddu'r gwahaniaeth rhwng cyflogau'r ddau weithiwr—yn yr achos hwn, mae'n £1,600. Yn amlwg, os ceir codiad cyflog blynyddol o'r fath, dros amser bydd y gwahaniaeth yn cynyddu'n sylweddol. Felly, mae'n ymddangos yn hurt mai'r math hwn o godiad cyflog canrannol yw'r system y mae cynghorau lleol dan arweiniad Llafur yn ei ffafrio, o ystyried ei bod yn amlwg yn annheg i'r rhai sydd ar gyflogau is. Mae rhywun yn meddwl hefyd tybed pam nad yw'r undebau llafur yn herio'r arfer hwn, sy'n amlwg yn gadael gweithwyr ar gyflogau is dan anfantais. Mae'n wir hefyd fod menywod yn tueddu i fod yn y categori cyflog is ac felly'n dioddef gwahaniaethu pellach o dan y system hon.
O ystyried yr alwad a glywir yn aml gan y Blaid Lafur o blaid dosbarthu cyfoeth yn decach, pam eu bod hwy, a'r undebau llafur, yn fodlon gweld codiadau cyflog canrannol yn parhau mewn awdurdodau lleol ac yn wir, yn holl sefydliadau'r Llywodraeth? Rai blynyddoedd yn ôl cyflwynodd y gwrthbleidiau ar gyngor bwrdeistref Torfaen gynnig a oedd yn rhoi diwedd ar y math hwn o ddosbarthiad cyflog, o blaid codiad cyflog ar gyfradd wastad. Cafodd ei basio'n unfrydol, ac eto, yn rhyfedd iawn, ni chafodd ei roi ar waith, sy'n gwneud i ni ofyn y cwestiwn, 'Pam?' Felly, galwn ar yr holl awdurdodau lleol ac yn wir, ar holl sefydliadau'r Llywodraeth i ymatal rhag defnyddio codiadau cyflog canrannol a chyflwyno system lawer tecach y codiad cyflog ar gyfradd wastad i bawb.
Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fe ddechreuaf, gyda'ch caniatâd chi, drwy ddatgan fy mod yn aelod o Unsain rhag ofn bod unrhyw un o'r materion hyn yn cyffwrdd ar y materion hynny. A gaf fi ddweud fy mod yn amlwg eisiau cydnabod gwaith caled pawb sy'n gweithio mewn llywodraeth leol ar bob lefel? Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn gyfrifol am wasanaethau i rai o'n pobl fwyaf agored i niwed yn ogystal â gwasanaethau y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt ac weithiau'n eu cymryd yn ganiataol. Mae pawb ohonom yn ymwybodol o'r gwaith caled a wneir mewn llywodraeth leol drwyddi draw ar draws y wlad gyfan. Rwy'n meddwl, Ddirprwy Lywydd, ei bod yn deg dweud mae'n debyg y bydd rhan fwyaf o'r Aelodau yn y Siambr hon ar bob ochr yn cydnabod hefyd fod hon yn Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i sicrhau mai'r gweithwyr mwyaf agored i niwed bob amser, y gweithwyr ar y cyflogau isaf, yw'r rhai y ceisiwn ganolbwyntio fwyaf arnynt.
Gadewch imi ddweud hyn: rydym yn canolbwyntio ar gyflogau uwch reolwyr heddiw, ond mae eraill yn pryderu mwy am y wasgfa barhaus ar gyflogau'r rhan fwyaf o weithwyr awdurdodau lleol ar gyflogau is, sy'n cael eu llywio gan bolisïau cyni. Hoffwn gydnabod yn y ddadl hon ynglŷn â chyflogau cynyddol mewn awdurdodau lleol fod yna wasgfa o hyd ar gyflogau awdurdodau lleol, ar gyflogau'r sector cyhoeddus yn fwy eang, a yrrir gan bolisi cyni Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae hynny'n effeithio fwyaf ar y gweithwyr sy'n ennill cyflogau is.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud a bydd yn parhau i wneud popeth yn ei gallu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag effeithiau gwaethaf cyni, ond erydwyd ein gallu i wneud hyn yn glir gan doriadau i'n cyllid ein hunain gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. A gadewch imi ddweud hyn, Ddirprwy Lywydd: mae'n werth gwneud y pwynt yn awr, yn y tymor canolig a hwy, i mi fel Gweinidog llywodraeth leol, nid cyflogau gormodol syml yw un o'r problemau mwyaf difrifol sy'n ein hwynebu—er y gall fod yn broblem weithiau, rwy'n derbyn hynny—ond yn hytrach y potensial ar gyfer toriadau sylweddol iawn yn y dyfodol o ganlyniad i doriadau mewn gwariant cyhoeddus yn dilyn polisi trychinebus Brexit a'r negodiadau trychinebus sydd ar y gweill dan arweiniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Gwyddom eisoes—fe wyddom eisoes—fod mesurau cyni wedi gwneud cam â Chymru. Rydym eisoes yn gwybod bod ein cyllideb yn sylweddol is na'r hyn oedd yn 2010—yr hyn sy'n cyfateb i £800 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn—ac ni cheir unrhyw arwyddion bod Canghellor presennol y Trysorlys ar fin newid cwrs a rhoi diwedd ar economeg cyni. Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, ledled Cymru, mai'r hyn y mae pobl eisiau mewn gwirionedd yw etholiad cyffredinol i gael gwared ar Lywodraeth bresennol y DU a rhoi Llywodraeth yn ei lle sydd wedi ymrwymo i sicrhau tegwch ar gyfer y mwyafrif ac nid y lleiafrif.
Ond gadewch imi ddweud hyn hefyd: nid yw'r Llywodraeth hon yn mynd i gymryd unrhyw wersi gan blaid sy'n dod i'r Siambr hon pan fo'n trafferthu i wneud hynny er mwyn dadlau o blaid dadreoleiddio, o blaid cyflogau is, er mwyn cael gwared ar hawliau gweithwyr ac amddiffyniadau gweithwyr, er mwyn cael gwared ar—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
—yr amddiffyniadau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth yma a Llywodraeth Lafur yn y Deyrnas Unedig. Fe ildiaf.
Diolch. Nid wyf yn meddwl eich bod wedi mynd i'r afael â holl fyrdwn y ddadl hon o gwbl. Rydych wedi'i gwneud yn bregeth erbyn y Llywodraeth Dorïaidd. Nid ydych wedi ymdrin â'r hyn rwy'n ceisio'i ddweud, sef bod y Llywodraeth Lafur yn berffaith hapus i ganiatáu i'r gwahaniaeth anferth hwn mewn codiadau cyflog barhau. Rwyf wedi nodi'r ffigurau. Nid ydych wedi rhoi sylw i'r rheini o gwbl. A wnewch chi ateb fy mhwynt os gwelwch yn dda?
Credaf fy mod wedi rhoi sylw i'r ffigurau ac rwyf eisoes wedi dweud bod gennym £800 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus a gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus bob blwyddyn yng Nghymru o ganlyniad i bolisi aflwyddiannus cyni ac wrth gwrs, rydym wedi clywed lleisiau o'r ochr arall i'r Siambr sy'n credu bod gan gyni ffordd bellach i fynd eto. Felly, rwy'n petruso rhag rhoi sylw difrifol i rai o'r pwyntiau sy'n cael eu gwneud y prynhawn yma.
Ond wrth ymateb i hyn, fel undebwr llafur, rhywun sydd, drwy gydol ei oes, wedi bod yn aelod o undeb llafur, rwy'n credu mewn cydfargeinio. Rwy'n credu bod Llywodraethau—ac rwy'n falch fod gan y Llywodraeth hon ddull gwaith teg o fynd i'r afael â'r materion hyn, sy'n sicrhau ein bod yn negodi gydag undebau llafur, ein bod yn negodi gyda chyfeillion a chydweithwyr. A'r hyn a wnawn yw sicrhau bod llais undebaeth lafur wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn. Gadewch imi ddweud hyn hefyd: fel rhywun sydd wedi gwasanaethu mewn rolau gwahanol yn y Llywodraeth hon ac ar y meinciau cefn, rwy'n gobeithio y bydd y lle hwn bob amser yn rhywle sy'n cydnabod pwysigrwydd undebaeth lafur ar gyfer sicrhau bod gweithwyr, lle bynnag y maent yn digwydd gweithio, boed mewn awdurdodau lleol neu rywle arall, yn cael y fargen orau sydd ar gael iddynt. Ac undebau llafur wedi'u trefnu'n effeithiol a'u cydnabod yw'r elfen bwysicaf o hyd wrth sicrhau bod strwythurau cyflog, beth bynnag fo'r strwythurau cyflog hynny, yn deg ac yn darparu'r amddiffyniad sydd ei angen ar y gweithwyr mwyaf agored i niwed ac ar y cyflogau isaf.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, gadewch imi ddweud hyn: mae'n bwysig ein bod yn gallu talu'r cyflogau teg sydd eu hangen arnynt i'n gweithwyr. Roeddwn yn falch iawn, yr wythnos hon, o glywed y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd iechyd i sicrhau bod cyflogau yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael eu codi, ac rydym yn rhagori ar y codiadau a welir ar draws y ffin. Rwy'n gobeithio y bydd awdurdodau lleol yn gallu sicrhau cyflog teg a chodiadau teg i'r gweithwyr ar y cyflogau isaf, a byddaf yn parhau i weithio, fel Gweinidog yn y Llywodraeth hon, gyda chydweithwyr yn y mudiad undebau llafur i sicrhau ein bod yn diogelu cyflogau ac amodau gweithwyr ar draws y sector cyhoeddus drwyddo draw, ond ein bod hefyd yn talu teyrnged iddynt, nad ydym yn eu cymryd yn ganiataol, ein bod yn eu gwerthfawrogi, a'n bod yn sicrhau bod gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn ganolog i'n dull o weithredu llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.
Diolch. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.