Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 26 Medi 2018.
Yr wythnos diwethaf, noddais weithdy yma yn y Senedd ar gyfraith gyhoeddus a chyfiawnder gweinyddol yng Nghymru a drefnwyd gan ysgol y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor. Daeth llawer o bobl i'r digwyddiad, a daeth ag academyddion blaenllaw, ymarferwyr, deddfwyr a llunwyr polisi ynghyd i drafod heriau presennol a chyfleoedd ar gyfer cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru.