2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 26 Medi 2018.
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i swyddog cyfatebol yn yr Alban ynghylch yr achos gerbron y Goruchaf Lys ar Fil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban)? OAQ52640
Mae swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â swyddogion yr Arglwydd Adfocad yn yr Alban. Cyfarfûm ag ef ddiwethaf yn anffurfiol yn Belfast ym mis Awst, a chefais drafodaethau anffurfiol ag ef bryd hynny. Rydym yn disgwyl dyfarniad y Goruchaf Lys, a byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Cynulliad pan fydd yn cael ei ddarparu.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, oherwydd rhan o'r hyn yr oeddwn am ei sicrhau oedd ein bod yn cael cyfle, wedi inni gael yr ystyriaeth a phenderfyniad gan y Goruchaf Lys, i'ch holi am eich barn a'ch dehongliad o'r penderfyniad hwnnw, yn enwedig gan ein bod ni, fel Cynulliad, wedi penderfynu cefnogi Bil Ymadael â'r EU, ac o ganlyniad, fod ein Bil wedi'i dynnu'n ôl o'r Goruchaf Lys gyda'r bwriad, efallai, ar ryw adeg yn y dyfodol, o ddiddymu'r Bil hwnnw, roeddem yn obeithiol iawn y byddai bargen yn cael ei tharo? Wrth inni agosáu at gyfarfodydd Cyngor mis Hydref a mis Tachwedd yr UE, mae'n llawer mwy tebygol na fydd bargen yn cael ei tharo, ac felly mae'r canlyniadau'n llawer mwy difrifol. Felly, bydd goblygiadau'r penderfyniad ar y Bil hwn a'i oblygiadau i bwerau Senedd yr Alban a ninnau yn hollbwysig o ran ble y gallai fod angen inni fynd yn gyfreithiol ar ôl y dyddiad ymadael hwnnw.
Wel, dylwn ddweud fy mod yn ffyddiog o hyd y bydd y dadleuon a gyflwynais gerbron y Goruchaf Lys yn llwyddo. Fel y dywedodd y Goruchaf Lys ei hun yn achos Miller, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ymestyn cymhwysedd y deddfwrfeydd datganoledig, ac fel rwy'n dweud, rwy'n hyderus y bydd y ddadl honno'n drech. Mae'n crybwyll y Ddeddf barhad a basiwyd gennym, yn amlwg, yn y lle hwn, ac mae'n amlwg bod camau'n cael eu cymryd i ddiddymu honno yn unol â'r cytundeb rhynglywodraethol. Dyna'r sefyllfa o hyd.
Mewn perthynas â deddfwriaeth arall y gallai fod angen ei chyflwyno, mae’n disgrifio’r senario ‘dim bargen’. Rwyf am ailadrodd safbwynt y Llywodraeth unwaith eto, ac mae fy nghyfaill, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Prif Weinidog wedi ailadrodd hyn ar sawl achlysur yn y Siambr hon: byddai senario 'dim bargen' yn drychinebus i Gymru a'r DU. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i gyflwyno cynigion sy'n adlewyrchu’r egwyddorion a gyflwynwyd gennym ar gyfer amddiffyn buddiannau Cymru a buddiannau’r DU yn ehangach er mwyn osgoi senario ymyl y dibyn 'dim bargen'.