Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 26 Medi 2018.
Wel, Lywydd, fel y gŵyr yr Aelod, byddem yn cefnogi bargen gan y Prif Weinidog ar yr amod ei bod yn bodloni'r chwe phrawf a nodwyd gan y Blaid Lafur. Os yw hi'n dychwelyd gyda bargen sy'n sicrhau perthynas gref a chydweithredol gyda'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer y dyfodol, os yw hi'n dychwelyd gyda bargen sy'n darparu'r un manteision ag sydd gennym ar hyn o bryd fel aelodau o'r farchnad sengl a'r undeb tollau, os yw hi'n gallu sicrhau bod mewnfudo'n cael ei reoli'n deg er budd yr economi a chymunedau, ac os yw hi'n gallu diogelu hawliau ac amddiffyniadau, mae gobaith y gallwn gefnogi bargen o'r fath. Yn ôl y safbwynt y mae hi ac eraill yn ei Llywodraeth wedi'i arddel hyd yn hyn, ni fydd yn taro bargen o'r fath.
Mae'r Aelod yn cyfeirio at wawd. Mae'r gwawd y mae'r Prif Weinidog yn ei wynebu, i'w deimlo gryfaf o'i meinciau cefn ei hun, lle mae'r syniadau a gyflwynir ganddi yn cael eu gwawdio yn yr iaith gryfaf gan bobl a oedd, ychydig wythnosau ynghynt, yn eistedd o gwmpas bwrdd ei Chabinet ei hun. Dyna yw'r gwawd sy'n wynebu'r Prif Weinidog.
A phan fydd yr Undeb Ewropeaidd yn gofyn yn syml mewn perthynas ag Iwerddon er enghraifft, am i'r trefniant ôl-stop a gytunwyd—a gytunwyd—gan ei Llywodraeth gael ei anrhydeddu yng ngham nesaf y negodiadau, ni ddylem synnu eu bod yn disgwyl i Lywodraeth y DU anrhydeddu'r hyn y maent wedi cytuno arno.
Clywaf y thema sy'n datblygu ymysg cefnogwyr Brexit, ac mae ef wedi'i hailadrodd yma y prynhawn yma, mai mater i'r Undeb Ewropeaidd yn awr rywsut yw datrys y llanastr a grëwyd gan ei Lywodraeth. Nid yw'r Undeb Ewropeaidd yn gadael y Deyrnas Unedig. Mae'r Deyrnas Unedig wedi penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy'n llawn o bobl a ddywedodd wrthym mai hwn fyddai'r cytundeb hawsaf i'w negodi erioed—cyfrifoldeb y Llywodraeth honno yw meddwl am atebion a pheidio â cheisio rhoi'r cyfrifoldeb ar ysgwyddau eraill.