Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 26 Medi 2018.
A wnewch chi gytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod Prif Weinidog y DU wedi cael ei thrin yn hollol amharchus yn Salzburg yr wythnos diwethaf, a'i bod yn ceisio'i gorau glas i amddiffyn buddiannau'r wlad hon, gan gynnwys diogelwch y Deyrnas Unedig, sy'n gwbl hanfodol wrth gwrs?
Fe fyddwch yn gwybod mai dwy fargen yn unig a gyflwynwyd, os mynnwch, sy'n cael eu hystyried yn dderbyniol gan yr UE. Byddai'r gyntaf yn golygu y byddai'n rhaid i ni dderbyn mewnfudo heb reolaeth, y byddai'n rhaid i ni dderbyn pob un o reolau yr UE, na fyddem yn gallu gwneud bargeinion masnachu ar ein pen ein hunain gyda gwledydd eraill o gwmpas y byd, ac wrth gwrs, byddai hynny'n gwneud y refferendwm a gynhaliwyd, pan bleidleisiodd pobl dros adael yr UE am lawer o'r union resymau hynny, yn destun gwawd.
Y peth arall a gynigir gan yr UE, wrth gwrs, yw cytundeb masnach rydd ar gyfer Prydain Fawr, ond ar gyfer Prydain Fawr yn unig, gan eithrio Gogledd Iwerddon, a fyddai'n parhau o fewn yr undeb tollau sydd eisoes yn bodoli fel rhan o'r farchnad sengl, a byddai hynny, wrth gwrs, yn tanseilio undod y Deyrnas Unedig. [Torri ar draws.] Nawr, wrth gwrs, mae Senedd y DU—[Torri ar draws.] Gallaf glywed pobl yn achwyn ar feinciau'r cenedlaetholwyr, fel y buaswn yn ei ddisgwyl a minnau'n ceisio sôn yn ffafriol am Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, ond y realiti yw bod Senedd y DU eisoes wedi gwrthod yn hollol unfrydol yr awgrym y dylai fod ffin ym Môr Iwerddon.
Felly, mae'n bryd i'r UE newid eu safbwynt yn awr i un sy'n fwy derbyniol i'r Deyrnas Unedig. Mae Prif Weinidog a Llywodraeth y DU yno, maent ar gael, maent eisiau siarad, maent eisiau taro bargen. Ond buaswn yn cefnogi'r Prif Weinidog, a buaswn yn gobeithio y byddech chithau hefyd, yn ei hymdrech i sicrhau na fydd unrhyw fargen yn tanseilio undod y Deyrnas Unedig. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym: a wnewch chi gefnogi'r Prif Weinidog wrth iddi geisio amddiffyn y Deyrnas Unedig? Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y bleidlais a gynhaliwyd yma, pan bleidleisiodd pobl Cymru dros adael yr UE, yn cael ei hanrhydeddu'n llwyr?