Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 26 Medi 2018.
Rwy'n croesawu'r adroddiad, Ddirprwy Lywydd, ac yn cytuno â'r cyfan ohono bron, ond ar y pwynt hwn buaswn yn anghytuno rhywfaint â Jane Hutt, nid ar y peth diwethaf a dywedodd—rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd am absenoldeb rhiant a rennir a'r lefelau isel o ddefnydd ohono—ond ar argymhelliad 3. Cyn i mi ymhelaethu ar hynny, hoffwn nodi'r cyflwyniad—paragraff 1, tudalen 15:
'Mae cael plant yn cael effaith gydol oes ar gyfraddau cyflogaeth menywod, eu cyfleoedd gyrfa a’u hincwm. Nid yw cyfran syfrdanol o fenywod yn mynd yn ôl i’r gwaith ar ôl cael plant, neu maent yn dychwelyd i swyddi rhan-amser am dâl is sy’n cyd-fynd â gofal plant.'
Yn hollol. Mae'n sicr yn wir, ac mae'r dystiolaeth yn ei ategu'n bendant ac yn eglur, a'r ffaith na theimlir yr un peth gan dadau. Ond hoffwn ychwanegu at hynny, oherwydd rhagdybiaethau'n ymwneud â'r rhywiau mewn perthynas â gofal plant, fod gan dadau—a chredaf fod John Griffiths wedi cydnabod hynny—fath gwahanol o bwysau yn eu bywydau sef gadael eu plant i fynd i weithio a darparu incwm sy'n llai o ganlyniad i gael plant, ac roeddwn yn teimlo hynny fy hun. Rwy'n dal i'w deimlo—rwy'n dad i ddau o blant bach. Ac o ran argymhelliad 3, gadewch imi ddweud pe bawn i mewn sefyllfa i gael cynnig lle yn y Llywodraeth, ni fuaswn yn ei dderbyn. Ni fuaswn yn gallu derbyn swydd yn y Llywodraeth yn y tymor Cynulliad hwn, ac nid oes unrhyw aelodau o ymgyrch arweinyddiaeth Llafur yma i ddweud, 'Wel, ni fyddem yn cynnig un iddo beth bynnag'. Ond os wyf fi eisiau chwarae rhan ym mywydau fy mhlant, rhaid i mi i wneud yr aberth hwnnw. Felly, rwy'n cydnabod yr aberth hwnnw, ond os edrychaf ar argymhelliad 3, ni allaf weld sut y byddai rhannu swyddi'n gweithio i Weinidogion, yn yr ystyr nad yw'n swydd yn yr ystyr gonfensiynol. Ac mae'r un peth yn wir am Aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol. Gyda Llywodraeth gyfrifol a Llywodraeth sefydlog, credaf y gallwch weithio'n hyblyg o fewn eich rolau ac nid wyf yn gweld sut y byddai'n dderbyniol i'r cyhoedd weld rhannu swyddi ar adeg etholiad. Ond gwn fod gan Aelodau yn y Siambr farn wahanol. Y rheswm pam rwy'n sôn am fy sefyllfa bersonol yw oherwydd fy mod yn dweud hynny o brofiad, rwy'n credu.
O ran argymhelliad 6—pob swydd addysgu i gael ei hysbysebu fel swydd hyblyg—mae'r Llywodraeth wedi derbyn hynny, ond mewn gwirionedd maent yn dweud, 'Wel, mewn gwirionedd mater i gyrff llywodraethu ydyw'. Hoffwn rywfaint o eglurder lle maent yn dweud:
'Bydd yn hanfodol bod yr adolygiad o dâl ac amodau athrawon yn ystyried yn llawn yr hyblygrwydd sydd ei angen i gynnal yr amrywiaeth o batrymau gwaith sydd ei angen ar ysgolion.'
Hoffwn wybod beth y mae hynny'n ei olygu. Rwy'n cymryd ei fod yn golygu hyblygrwydd o ran darparu cyflog, ond hoffwn fwy o wybodaeth am hynny. Mae'n dda gweld bod argymhelliad 8 yn adeiladu ar yr economi sylfaenol ac yn sôn am yr economi sylfaenol a'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yno. Mae'n braf gweld y ddeialog ar yr economi sylfaenol yn cael ei hystyried mewn pwyllgorau y tu hwnt i'r rhai y mae'r Aelodau sy'n hyrwyddo'r economi sylfaenol yn aelodau ohonynt.
Mae argymhelliad 16 yn annog y Llywodraeth i adolygu argaeledd presennol a chost gofal cofleidiol. Rydym wedi cael llawer o sgyrsiau gyda'r Gweinidog mewn perthynas â'r cynnig gofal plant, ac yn gwybod bod y Llywodraeth yn canolbwyntio ar gael hyn yn gywir. Unwaith eto, o brofiad personol, rwyf wedi'i weld yn digwydd ac rwy'n credu bod angen i gyd-leoli gofal plant y cyfnod sylfaen, mewn ysgolion a chan ddarparwyr gofal, gael ei nodi a bod yn rhan o egwyddorion yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud.
Mae argymhelliad 30 yn annog Llywodraeth Cymru i greu ffynhonnell o gyngor ar gyfer yr holl faterion sy'n ymwneud â rhianta a chyflogaeth, gyda chymorth penodol wedi'i deilwra ar gyfer busnesau bach a chanolig. Wel, bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi siarad llawer am fy mhrofiad gyda busnesau bach a chanolig, yn enwedig drwy fy ymchwil, a bûm yn siarad â rheolwr-berchennog ar un achlysur, a ddywedodd, 'Byddai fy staff yn bendant yn gweithio'n hyblyg. Nid gwneud y cyfrifon yn unig y mae fy nghyfrifydd, ef hefyd sy'n glanhau'r toiledau.' Ac o ran hynny, nid yw gweithio hyblyg wedi ei ddeall yn llawn ym mhob un o'r cymunedau sector preifat yr ydym wedi sôn amdanynt. Rhaid i weithio hyblyg fod er budd y gweithiwr, nid y cyflogwr. Nid yw hynny wedi'i ddeall. Rydym yn sôn am weithio hyblyg ac ar unwaith, mae cyflogwyr yn meddwl 'hyblygrwydd o ran sgiliau'. Nid dyna ydyw; 'hyblygrwydd o ran oriau' ydyw, ac mae angen i hynny gael ei ddeall yn iawn.
O'm rhan i, rwy'n cydnabod—ac rwyf wedi bod â diddordeb yn hyn ers amser maith fel athro mewn prifysgol—fod swydd naw tan bump y tu ôl i ddesg yn dod yn rhywbeth mwyfwy prin, a swyddi hyblyg sydd eu hangen arnom, nid yn lleiaf oherwydd problemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Yn fy swyddfa, rwy'n annog gweithio hyblyg. Felly, caiff fy staff eu hannog i weithio'n hyblyg ac i weithio mor hyblyg â phosibl. Nid oes raid iddynt fod i mewn ar ddiwrnod pan nad yw'n ofynnol iddynt fod i mewn, gallant weithio o adref cymaint ag y bo modd, a chânt eu hannog i fynd ar drywydd datblygiad proffesiynol y tu allan i'r gwaith, ond datblygiad proffesiynol y maent yn eu dymuno ei weld.
Credaf y gall pawb ohonom, fel Aelodau Cynulliad, roi ystyriaeth ddifrifol i'r adroddiad hwn a'i ddefnyddio fel esiampl yn y ffordd y cyflogwn ein staff a'u galluogi i weithio'n hyblyg. Felly, gydag un cafeat bach iawn, rwy'n cefnogi'r adroddiad hwn.