5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:35, 26 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rwy'n cefnogi'r holl argymhellion, sy'n cyd-fynd â fy ymrwymiad hirsefydlog i sicrhau chwarae teg yn y gweithlu yng Nghymru. Yn wir, mae'n mynd â mi yn ôl i fy amser fel cydgysylltydd cyntaf Chwarae Teg ar ddechrau'r 1990au, ac mae llawer o'r materion a oedd gyda ni bryd hynny yn dal i fod gyda ni heddiw. Ond mae yna gynnydd, a chyfle yn awr, drwy'r Cynulliad, i ddod â'r dystiolaeth hon at ei gilydd. Roeddwn yn falch hefyd o chwarae fy rôl fel Gweinidog wrth gyflwyno'r dyletswyddau cydraddoldeb penodol, fel y'u pennwyd yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Ac rwyf wedi croesawu'r adolygiad cam 1 o gydraddoldeb rhywiol. Felly, mae gennym Lywodraeth Cymru yn awr sy'n gallu ymateb i'r dystiolaeth hon, a'r argymhellion hyn—Llywodraeth Cymru flaengar i ymateb i argymhellion y pwyllgor.

Rwy'n croesawu'n arbennig ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 1, 2 a 3, sy'n ymwneud â gweithio hyblyg yn ddiofyn, ac argymhellion ac anogaeth i Lywodraeth Cymru arwain drwy esiampl—i arwain o'r brig. Rwy'n cytuno'n gryf â safbwyntiau Siân Gwenllian ar y pwynt hwn. Mae angen inni weld hynny ar waith yn awr, drwy annog rhannu swyddi mewn rolau arweinyddol; beth yw'r rhwystrau i fwrw ymlaen â hyn? Yn wir, mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 3 yn dderbyniol iawn—fod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr angen i ystyried yr achos dros newid y ddeddfwriaeth mewn perthynas â swyddogaethau gweinidogol, gyda Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod eisoes yn croesawu ceisiadau i rannu swyddi ar gyfer penodiadau cyhoeddus. Ond byddai'n rhaid imi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a oes gennym unrhyw enghreifftiau o hyn mewn gwirionedd? Os oes, rwy'n falch iawn; gwelaf Ysgrifennydd y Cabinet yn ysgwyd ei phen. Ond nid wyf yn siŵr faint o bobl sy'n ymwybodol fod hyn—. Ac wrth gwrs, mae hyn ar gyfer dynion yn ogystal â menywod, o ran y cyfleoedd.

Nawr, rwy'n ymwybodol fod aelodau o gabinet cyngor dinas Abertawe yn rhannu swydd, Mike Hedges—ac efallai ei fod am wneud sylw ar hyn yn ogystal. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion i hwyluso rhannu swyddi rolau cabinet mewn llywodraeth leol. Ac rwy'n dweud, Ddirprwy Lywydd, fod hwn yn fater y buom yn ei drafod ers degawdau. Yn wir, cyfeiriais mewn dadl flaenorol at lyfr a ysgrifennais yn 1992, 'Gwneud Cyfleoedd: Canllaw i Fenywod a Chyflogwyr', a byddai'n dweud yr un pethau heddiw, er y gallai'r iaith newid ychydig:

Mae rhannu swyddi'n cael ei weld fel atyniad mawr wrth recriwtio a chadw gweithwyr benywaidd, yn enwedig i'r rheini sy'n cael, neu sydd wedi cael seibiant gyrfa. Caiff ei ddefnyddio hefyd gan weithwyr gwrywaidd fel ffordd o gyfuno cyfrifoldebau'r cartref a gwaith, ac arallgyfeirio profiadau gwaith.

Wel, yn 1992 oedd hynny, ac rydym yn dal i ddweud yr un pethau heddiw. Mae gwir raid inni symud hyn yn ei flaen.

Hefyd, Dirprwy Lywydd, rwyf wedi bod yn gofyn cwestiynau am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac yn wir, Fforwm Economaidd y Byd a ddywedodd y byddai'n rhaid i fenywod aros am 217 o flynyddoedd cyn eu bod yn ennill cymaint â dynion, a hynny yn ôl yr adolygiad byd-eang o'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Unwaith eto, sut y gallwn sicrhau nad ydym yn colli golwg ar y ddyletswydd statudol, a gafodd gyhoeddusrwydd yn gynharach eleni wrth gwrs, gan ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ddatgan eu proffil o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau? Felly, hoffwn wybod hefyd a fydd Llywodraeth Cymru'n ymateb i faniffesto'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i haneru'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 15 y cant i 7 y cant erbyn 2028. Byddai'n dda hefyd pe bai'r Llywodraeth yn cefnogi hynny.

Yn olaf, rwy'n croesawu argymhellion 9 a 10, o ran cydnabod y cyfleoedd a'r ymateb i'r argymhellion yn ogystal—i Lywodraeth Cymru ysgogi newid fel meini prawf allweddol yn y cytundeb economaidd. Contractau cyllido, cod caffael—y rhain yw'r ffactorau sy'n sbarduno newid. Rwy'n croesawu, yn ogystal, o ran gofal plant, argymhelliad 16 yn arbennig ynghylch gofal plant cofleidiol. Buaswn yn dweud, rwy'n credu, bod darparu brecwast ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd—rwyf wedi dweud bob amser y byddai wedi bod yn dda gennyf fod wedi cael hynny pan oedd fy mhlant yn ifanc, oherwydd mae'n darparu gofal plant am ddim o 08:15 yn y bore, yn ogystal â brecwast maethlon, yn rhad ac am ddim.

Yn olaf, hoffwn groesawu'r dystiolaeth a'r argymhellion ar absenoldeb rhiant, i archwilio'r defnydd gwirioneddol o absenoldeb rhiant a rennir, gan ei fod yn ymwneud â'r ddau riant; nid â hawliau menywod yn unig y mae'n ymwneud, ond â newid yn y gymdeithas a dull gwaith/teulu o weithredu, fel y gwelwch yn glir iawn yn Sweden wrth gwrs. Rwy'n croesawu'r argymhelliad ar ddatblygu gwasanaethau cynghori arbenigol. Dylem allu cymryd yr awenau o ganlyniad i'r adroddiad pwyllgor hwn, ac rwyf hefyd yn gobeithio y gellid ei adlewyrchu yn y ffordd yr edrychwn ar faterion ehangach amrywiaeth a chydraddoldeb, nid yn unig yn y gweithlu, ond yma yn y Senedd hon.