5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:29, 26 Medi 2018

Rydw i yn falch iawn o gyfrannu at y drafodaeth yma ar rianta a chyflogaeth. Mae fy mhrofiad i fel menyw yn magu pedwar o blant ar fy mhen fy hun a'r rheidrwydd i barhau i weithio drwy'r cyfnod hwnnw yn gefndir defnyddiol, rydw i'n credu. Nid ydy cymryd rhan yn yr ymchwiliad gan y pwyllgor ddim wedi bod yn brofiad pleserus, mae'n rhaid dweud, achos rydym yn canfod bod menywod yn dal i wynebu rhagfarn a gwahaniaethu ar lefelau cwbl annerbyniol yn y byd gwaith hyd heddiw. Mae'n achos pryder bod peth o'r dystiolaeth a glywodd y pwyllgor yn awgrymu bod pethau yn gwaethygu yn lle gwella, gydag ACAS, er enghraifft, yn adrodd y bu cynnydd o 10 y cant mewn galwadau yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.